1970

Plannu’r hedyn

Cyhoeddodd The Times erthygl di-enw gan John Pringle ble’r ysgrifennodd am ei brofiad o ofalu am ei fab oedd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, a’r ffyrdd yr effeithiodd y diagnosis hwnnw ar y teulu. Agorodd hyn sgyrsiau o amgylch y wlad, dechreuodd fudiad,  ac fe newidiodd y ffordd yr oedd pobl yn siarad am iechyd meddwl.

9th of May – A seed is planted.jpg
1972

Sefydlu’r National Schizophrenia Fellowship – Rhagflaenydd Hafal

Sefydlodd John Pringle y Schizophrenia Fellowship, yna newidiwyd yr enw i’r National Schizophrenia Fellowship (NSF) ym 1974, gan ddod â’r bedair cenedl yn y Deyrnas Unedig at ei gilydd gyda’r un genhadaeth – i fod yn lais i unigolion a’u teuluoedd/gofalwyr sy’n byw gyda iechyd meddwl difrifol.

1972.jpg
1976

Sefydlu Cyngor Alcohol Gogledd Cymru

Sefydlodd Dr Dafydd Alun Jones Gyngor Alcohol Gogledd Cymru, wedi iddo sefydlu uned benodol i drin alcoholiaeth yn ysbyty meddwl Dinbych ym 1968. Daeth Cyngor Alcohol Gogledd Cymru yn CAIS (Cyngor Alcohol Information Service) ym 1992.

dafydd-alun-jones.jpg
1979

Ganwyd WCADA

Sefydlodd Alan Douglas y Ganolfan Cyngor Alcohol uwchben siop ddillad fechan yn Abertawe i allu darparu gwasanaethau cwnsela i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan faterion alcohol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Tyfodd y sefydliad gan ddod yn Ganolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru (WCADA) wedi hynny.

1979.jpg
2003

Y NSF i gael ei hadnabod yng Nghymru fel Hafal

Daeth yr NSF yng Nghymru yn Hafal – elusen Gymreig annibynnol yn cefnogi gofalwyr a theuluoedd gyda salwch meddwl difrifol. Yn 2010, ymgyrchodd Hafal yn llwyddiannus am ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru, a adnabyddir bellach fel y Mesur Iechyd Meddwl, gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ganolog i’r ymgyrch.  

2003.jpg
2009

Yr arwyddion cyntaf o’r hyn oedd i ddod

Sefydlwyd wasanaeth mentora cymheiriaid gan Lywodraeth Cymru, i gael ei ariannu a’i ddarparu gan bobl oedd wedi byw’r profiad. Dechreuodd CAIS, Hafal ac WCADA weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth.

2009.jpg
2017

Dechrau Mental Health UK ac Adferiad

Daeth pedair cenedl wreiddiol NSF y Deyrnas Unedig gyfan yn ôl at ei gilydd wedi 14 mlynedd i ffurfio Mental Health UK. Ar yr un pryd, mae CAIS, Hafal ac WCADA yn dechrau gweithio gyda’i gilydd i ffurfio Adferiad Recovery,  elusen a grëwyd fel partneriaeth gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau sy’n cyd-ddigwydd ar draws Cymru.

2017.jpg
2019

Adferiad yn cael ei Llywydd Gydol Oes cyntaf

Cyn-Gadeirydd Hafal, Elin Jones yn dod yn Lywydd Gydol Oes i gynrychioli’r elusen ar lefel leol a chenedlaethol, ac i ymgyrchu ar ran ei haelodau am well gwasanaethau a chefnogaeth.

2019.jpg
2021

Adferiad fel rydym yn ei hadnabod

Mae CAIS, Hafal a WCADA yn penderfynu dyfnhau eu partneriaeth ac uno i greu Adferiad, fel rydym yn ei hadnabod heddiw. Trwy gyfuno eu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn y meysydd defnydd sylweddau, iechyd meddwl, tai, cyfiawnder troseddol, cyn-filwyr, gamblo, cyflogaeth, a chefnogaeth, eu nod oedd i ddiwallu anghenion y bobl sydd ei angen fwyaf, gydag ymagwedd unedig i ddarparu gwasanaethau o safon.

2021.jpg
2024

Diverse Cymru yn dod yn rhan o Adferiad

Penderfynodd Adferiad a Diverse Cymru i uno, gan gadw eu hanes hirhoedlog o gydweithio ac ymrwymo i rymuso gwasanaethau sy’n galluogi ein cleientiaid i ffynnu.

diverse-cymru.jpg

Gweithio gyda ni

Ymunwch ag Adferiad

Ymunwch ag Adferiad

Ein staff yw ein hased mwyaf, ac rydym yn gweithio i ddarparu gwell dyfodol i bobl yn ein cymunedau ac fe allech chi fod yn rhan ohono. Mae gennym ystod o fuddion a chyfleoedd gyda swyddi mewn llawer o leoliadau. Trwy ymuno â’n tîm, gallech newid bywydau er gwell.

Chwilio am rôl
Yr hyn a wnawn

Yr hyn a wnawn

Rydym yn lais cenedlaethol sydd wedi ei wreiddio mewn cymunedau lleol, a arweinir gan brofiad byw ein haelodau.

Darganfyddwch ein gwaith
Ein heffaith

Ein heffaith

Rydym yn falch o’r gwaith sy’n newid bywydau, ac weithiau’n achub bywydau, a wneir bob dydd gan ein staff a’n gwirfoddolwyr arbenigol.

Gweld mwy

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×