Beth yw cefnogaeth i gyn-filwyr? 

Gall trawsnewid o fywyd milwrol fod yn heriol. Gallai cyn-filwyr wynebu pwysau unigryw, yn cynnwys addasu i amserlen newydd, dod o hyd i waith, ymdopi gydag anafiadau corfforol, neu reoli heriau iechyd meddwl megis trawma, gorbryder, neu iselder. Gall hyd yn oed tasgau bach dydd i ddydd deimlo’n llethol yn dilyn y gwasanaethau milwrol.

Gall cyn-filwyr gael mynediad i arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd yn cynnwys iechyd; tai; cyflogaeth; arian; llesiant; lles; integreiddio i’r gymdeithas; ac anghenion eraill sy’n gorgyffwrdd.

Sut mae cefnogaeth i gyn-filwyr yn gweithio

Yn Adferiad, cynigiwn gefnogaeth dosturiol, wedi’i phersonoli i gyn-filwyr a’r gymuned Lluoedd Arfog ehangach trwy ein rhaglen Newid Cam, gan eu helpu i lywio heriau, i adeiladu gwytnwch, ac i gael mynediad i gyfleoedd maent eu hangen i ffynnu. 

Mae ein rhaglen cefnogi cyn-filwyr, Newid Cam, yn cwmpasu ystod eang o wasanaethau’n benodol ar gyfer cyn-filwyr, gan helpu’r rhai hynny sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, a’u teuluoedd, i ddelio gyda materion sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth milwrol ac ailintegreiddio i’r gymuned. Trwy fabwysiadu ymagwedd mentora cymheiriaid, mae Newid Cam yn cael ei redeg gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr, gan ein galluogi i ddeall ac i gefnogi anghenion unigryw y gymuned lluoedd arfog. Darganfyddwch fwy am Newid Cam yma. 

Nid gwasanaeth argyfwng yw Newid Cam. Os ydych chi’n profi argyfwng iechyd meddwl, os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch meddyg teulu, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, gwasanaeth GIG 111 a dewis opsiwn 2, neu fynychu eich Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) lleol. 

Sut i gael cefnogaeth bellach i gyn-filwyr 

  • Cyn-filwyr GIG Cymru – gellir gwneud atgyfeiriadau ar-lein, gennych chi eich hun, eich meddyg teulu, asiantaethau eraill, deuluoedd neu ffrindiau. 
  • Veterans UK - help gyda materion pensiynau, budd-daliadau, tai a llesiant (0808 1914 218). 
  • Veterans Welfare Service (VWS) – cefnogaeth gyda iechyd, arian, a trawsnewid i fywyd sifil. 
  • Help for Heroes – cefnogaeth gorfforol, iechyd meddwl ac adferiad (0300 303 9888). 
  • SSAFA (Elusen y lluoedd arfog) – cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i gyn-filwyr a theuluoedd (0800 260 6767). 
  • Royal British Legion (Cymru) – gallent gynnig cefnogaeth gydag eitemau ymarferol megis nwyddau brown a gwyn, a llawer o faterion eraill. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau eiriolaeth yn ymwneud ag apeliadau Tribiwnlys am fudd-daliadau, pensiwn rhyfel, a cheisiadau cynllun iawndal y lluoedd arfog (0808 802 8080). 
  • Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog awdurdod lleol  - cefnogaeth tai, budd-daliadau, a chymunedol. 
  • Citizens Advice – darparu cefnogaeth a chyngor ar ystod o bynciau a materion.
  • Combat Stress – llinell gymorth iechyd meddwl ar gael 24/7, yn cynnwys gwasanaeth neges testun ac e-bost (0800 138 1619 neu destun 07537 173683). 
  • Samaritans – cefnogaeth emosiynol a llinell gymorth argyfwng ar gael 24/7 i unrhyw un mewn gofid (116 123). 
  • Armed Forces Liaison Officers (AFLOs) – ar gael ym mhob ardal Awdurdod Lleol. 
  • Adran Gwaith a Phensiynau / Job Centre Plus – mae gan lawer o swyddfeydd rhanbarthol Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog penodol i helpu gyda chwilio am waith, ceisiadau budd-daliadau a materion eraill.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×