Ynghylch

Rydym yn galluogi nifer o brosiectau sy’n darparu cyfleoedd i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau a’u teuluoedd a’u gofalwyr  i roi adborth ar eu profiadau a, thrwy gyd-gynhyrchu, yn hysbysu’r darpariaethau i’r dyfodol.

Caniad

Mae Caniad yn brosiect cefnogaeth gymunedol sydd wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru. Wedi ei gomisiynu gan y Bwrdd Cynllunio Ardal a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fe lansiwyd Caniad gan Adferiad yn 2015. Prif ffocws Caniad yw i annog cyfathrebu rhwng darparwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnig llwyfan ar gyfer darparwyr i geisio am arweiniad ar sut i wella eu cyfleusterau orau. Trwy weithio i gynhyrchu ar y cyd gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, mae Caniad yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, gan chwarae rôl ganolog i yrru newid positif ar draws nifer o feysydd, yn cynnwys iechyd, cyflogaeth, a gwasanaethau cymunedol.

Darganfyddwch fwy am Caniad

Caniad Caerdydd a’r Fro

Mae Caniad Caerdydd a’r Fro yn falch o gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl, a gwasanaethau iechyd meddwl i gynyddu lleisiau y rhai hynny sydd â phrofiad byw. Trwy rymuso oedolion sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd â phrofiad uniongyrchol o wasanaethau iechyd meddwl, boed hynny’n uniongyrchol eu hunain neu fel rhoddwyr gofal, mae Caniad Caerdydd a’r Fro yn cynnig gofodau hygyrch i unigolion i ddod at ei gilydd, i rannu eu profiadau, ac i siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â caniadcvuhb@caniad.org.uk 

Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr (‘SUCPO’)

Mae’r Gwasanaeth Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr yn benodol ar gyfer cefnogi newid trawsnewidiol o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl ar draws ardal Abertawe. Mae’r gwasanaeth yn grymuso unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl i gymryd rhan weithredol i siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl. Wedi ei adeiladu ar y gred bod gan y rhai hynny sydd wedi profi gwasanaethau iechyd meddwl yn uniongyrchol, neu fel rhoddwyr gofal, fewnwelediadau amhrisiadwy a allai yrru gwelliannau yn y gwasanaeth o’r llawr i fyny, mae’r gwasanaeth yn darparu gofod croesawgar a hygyrch ble gall unigolion rannu eu profiadau a chyfrannu tuag at ddatblygiad, dyluniad, a darpariaeth parhaus gwasanaethau iechyd meddwl.


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â swansea@adferiad.org

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×