Ein Hanes
Rydym yn falch o’n hanes ac yn credu’n gryf bod ein hanes yn amlygu ein harbenigedd, ein hymrwymiad a’n hymroddiad i’n cenhadaeth. Gyda mwy na 50 mlynedd o hanes, gadewch i ni rannu ein stori gyda chi.
Plannu’r hedyn
Cyhoeddodd The Times erthygl di-enw gan John Pringle ble’r ysgrifennodd am ei brofiad o ofalu am ei fab oedd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, a’r ffyrdd yr effeithiodd y diagnosis hwnnw ar y teulu. Agorodd hyn sgyrsiau o amgylch y wlad, dechreuodd fudiad, ac fe newidiodd y ffordd yr oedd pobl yn siarad am iechyd meddwl.
Sefydlu’r National Schizophrenia Fellowship – Rhagflaenydd Hafal
Sefydlodd John Pringle y Schizophrenia Fellowship, yna newidiwyd yr enw i’r National Schizophrenia Fellowship (NSF) ym 1974, gan ddod â’r bedair cenedl yn y Deyrnas Unedig at ei gilydd gyda’r un genhadaeth – i fod yn lais i unigolion a’u teuluoedd/gofalwyr sy’n byw gyda iechyd meddwl difrifol.
Sefydlu Cyngor Alcohol Gogledd Cymru
Sefydlodd Dr Dafydd Alun Jones Gyngor Alcohol Gogledd Cymru, wedi iddo sefydlu uned benodol i drin alcoholiaeth yn ysbyty meddwl Dinbych ym 1968. Daeth Cyngor Alcohol Gogledd Cymru yn CAIS (Cyngor Alcohol Information Service) ym 1992.
Ganwyd WCADA
Sefydlodd Alan Douglas y Ganolfan Cyngor Alcohol uwchben siop ddillad fechan yn Abertawe i allu darparu gwasanaethau cwnsela i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan faterion alcohol yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Tyfodd y sefydliad gan ddod yn Ganolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru (WCADA) wedi hynny.
Y NSF i gael ei hadnabod yng Nghymru fel Hafal
Daeth yr NSF yng Nghymru yn Hafal – elusen Gymreig annibynnol yn cefnogi gofalwyr a theuluoedd gyda salwch meddwl difrifol. Yn 2010, ymgyrchodd Hafal yn llwyddiannus am ddeddfwriaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru, a adnabyddir bellach fel y Mesur Iechyd Meddwl, gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ganolog i’r ymgyrch.
Yr arwyddion cyntaf o’r hyn oedd i ddod
Sefydlwyd wasanaeth mentora cymheiriaid gan Lywodraeth Cymru, i gael ei ariannu a’i ddarparu gan bobl oedd wedi byw’r profiad. Dechreuodd CAIS, Hafal ac WCADA weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth.
Dechrau Mental Health UK ac Adferiad
Daeth pedair cenedl wreiddiol NSF y Deyrnas Unedig gyfan yn ôl at ei gilydd wedi 14 mlynedd i ffurfio Mental Health UK. Ar yr un pryd, mae CAIS, Hafal ac WCADA yn dechrau gweithio gyda’i gilydd i ffurfio Adferiad Recovery, elusen a grëwyd fel partneriaeth gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau sy’n cyd-ddigwydd ar draws Cymru.
Adferiad yn cael ei Llywydd Gydol Oes cyntaf
Cyn-Gadeirydd Hafal, Elin Jones yn dod yn Lywydd Gydol Oes i gynrychioli’r elusen ar lefel leol a chenedlaethol, ac i ymgyrchu ar ran ei haelodau am well gwasanaethau a chefnogaeth.
Adferiad fel rydym yn ei hadnabod
Mae CAIS, Hafal a WCADA yn penderfynu dyfnhau eu partneriaeth ac uno i greu Adferiad, fel rydym yn ei hadnabod heddiw. Trwy gyfuno eu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd yn y meysydd defnydd sylweddau, iechyd meddwl, tai, cyfiawnder troseddol, cyn-filwyr, gamblo, cyflogaeth, a chefnogaeth, eu nod oedd i ddiwallu anghenion y bobl sydd ei angen fwyaf, gydag ymagwedd unedig i ddarparu gwasanaethau o safon.
Diverse Cymru yn dod yn rhan o Adferiad
Penderfynodd Adferiad a Diverse Cymru i uno, gan gadw eu hanes hirhoedlog o gydweithio ac ymrwymo i rymuso gwasanaethau sy’n galluogi ein cleientiaid i ffynnu.
Gweithio gyda ni
Ymunwch ag Adferiad
Ein staff yw ein hased mwyaf, ac rydym yn gweithio i ddarparu gwell dyfodol i bobl yn ein cymunedau ac fe allech chi fod yn rhan ohono. Mae gennym ystod o fuddion a chyfleoedd gyda swyddi mewn llawer o leoliadau. Trwy ymuno â’n tîm, gallech newid bywydau er gwell.
Chwilio am rôl
Yr hyn a wnawn
Rydym yn lais cenedlaethol sydd wedi ei wreiddio mewn cymunedau lleol, a arweinir gan brofiad byw ein haelodau.
Darganfyddwch ein gwaith
Ein heffaith
Rydym yn falch o’r gwaith sy’n newid bywydau, ac weithiau’n achub bywydau, a wneir bob dydd gan ein staff a’n gwirfoddolwyr arbenigol.
Gweld mwyYour browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Polisi Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd