shape-future-services.jpg

Bwrdd yr ymddiriedolwyr

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a llywodraethu i Adferiad. Mae ymddiriedolwyr yn helpu i arwain cyfeiriad strategol y sefydliad, sicrhau atebolrwydd, a chefnogi ein cenhadaeth i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.

about-us (2).jpg

Ein tîm gweithredol

Mae tîm arweinyddiaeth Adferiad yn gosod cyfeiriad strategol y sefydliad ac yn sicrhau bod ein gwerthoedd yn cael eu hadlewyrchu ym mhopeth a wnawn. Maent yn cefnogi ac yn grymuso staff, yn goruchwylio perfformiad, ac yn ysgogi gwelliant parhaus i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y person.

Gweithio gyda ni

Ymunwch ag Adferiad

Ein staff yw ein hased mwyaf, ac rydym yn gweithio i ddarparu gwell dyfodol i bobl yn ein cymunedau ac fe allech chi fod yn rhan ohono. Mae gennym ystod o fuddion a chyfleoedd gyda swyddi mewn llawer o leoliadau. Trwy ymuno â’n tîm, gallech newid bywydau er gwell.

Chwilio am rôl

Dod yn wirfoddolwr

Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rôl hanfodol yn llwyddiant ac yn narpariaeth ein gwasanaethau. Mae gwirfoddoli’n cynnig y cyfle i adeiladu hyder, i ddysgu sgiliau newydd, ac i gaffael profiad gwerthfawr tra’n cefnogi cyd-wirfoddolwyr, staff cyflogedig, a defnyddwyr gwasanaeth ar draws ystod o rolau.

Dysgwch am wirfoddoli

Ein hanes

Adferiad yw elusen fwyaf blaenllaw Cymru o ran helpu i newid bywydau pobl a effeithir gan salwch meddwl a chaethiwed. Rydym yn lais cenedlaethol sydd wedi ei wreiddio mewn cymunedau lleol, a arweinir gan brofiad byw ein haelodau.

Darganfod mwy

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×