Gweithio yn Adferiad

Rydym yn falch i fod yn gyflogwr blaengar sydd â hanes cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i’r 1970au. Yn ystod yr amser hwnnw, rydym wedi cefnogi miloedd o bobl ar eu siwrnai adferiad, gyda channoedd o aelodau staff ar draws Cymru yn gyfryngol i helpu pobl i greu newid positif yn eu bywydau.

Rydym yn buddsoddi yn ein pobl, yn darparu llawer o fuddion i’n staff, gwasanaeth llesiant i staff, ac ystod eang o hyfforddiant hanfodol a chyfareddol sy’n berthnasol i bob rôl ar draws y sefydliad. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr y Sefydliad Cyflog Byw, gyda chytundebau cydnabyddiaeth gydag Unison a’r Coleg Nyrsio Brenhinol.

Y gwahaniaeth y gallech ei wneud

Credwn y gall helpu eraill fod yr ymdrech fwyaf boddhaol, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ein cenhadaeth. Boed chi’n angerddol am gefnogi mentrau lleol, am eirioli dros achosion pwysig, neu am gynnig help llaw i’r rhai hynny sy’n llai ffortunus, mae gennym le i chi.

enjoy.svg

91%

o’r staff yn disgrifio diwylliant y gweithle yn bositif

work-group.svg

88%

yn mwynhau bod yn rhan o’u tîm

motivated.svg

86%

yn teimlo eu bod wedi eu hysgogi i wneud eu gorau yn y gwaith, bob dydd

icon-hearts.svg

4/5

byddai staff yn argymell Adferiad fel lle gwych i weithio

Lawrlwythwch ein pecyn ymgeisydd

  1. All Jobs
  2. Internal

Filter by

Filter by

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×