Yn Adferiad, rydym yn blaenoriaethu’r person ac nid yr amgylchiadau, gan roi’r unigolyn yn ganolog i bopeth a wnawn.
Ein gweledigaeth yw un o Gymru ble mae gan bawb yr hawl i ofal o safon wrth adfer o salwch meddwl, caethiwed ac anghenion cymhleth eraill. Ein gweledigaeth yw un o Gymru ble gall pobl gael y gefnogaeth maent ei hangen, pan maent ei hangen, bob amser. Ein gweledigaeth yw un o Gymru ble mae pobl sydd â heriau iechyd meddwl a defnydd sylweddau yn cael eu trin yr un fath â rhai sydd ag anghenion iechyd corfforol, ac wastad gyda pharch ac urddas.
Ein cenhadaeth yw i helpu i newid bywydau unigolion sy’n wynebu heriau iechyd cymhleth ac amodau cymdeithasol anodd – y rhai sy’n aml yn cael eu hanwybyddu ac ddim yn cael eu clywed – trwy ddarparu ystod o wasanaethau, prosiectau ac ymgyrchoedd, a thrwy gefnogaeth ymroddgar staff a gwirfoddolwyr medrus.
Adferiad yw elusen flaengar Cymru sy’n helpu i newid bywydau pobl yr effeithir arnynt gan salwch meddwl a chaethiwed. Rydym yn llenwi’r bylchau rhwng gwasanaethau statudol, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael ar ôl nac yn cael eu gwrthod pan maent angen cefnogaeth am eu bod yn wynebu mwy nac un mater.
Rydym yn lais cenedlaethol sydd wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol, a arweinir gan brofiad byw ein haelodau ac yn brwydro dros hawliau rhai o’r bobl sy’n llywio rhai o heriau anoddaf bywyd.
Rydym yn gwneud pethau yn ffordd Adferiad – darparu cefnogaeth sy’n ffocysu ar y person ac nid ar yr amgylchiadau, ac yn rhoi’r unigolyn yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym yn adnabod nad yw bywyd yn llinol, ac nad yw adferiad ychwaith; dyna pam rydym wastad yma, sut bynnag a phryd bynnag mae ein hangen.
Rydym yn cydweithio â chydweithwyr, pobl rydym yn eu cefnogi, a phartneriaid i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i bawb.
Rydym yn trin pob person â charedigrwydd, tosturi a pharch, gan werthfawrogi eu hunigoliaeth, eu hawliau a'u profiadau.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Rydym yn dysgu'n barhaus o'n profiadau, yn ceisio adborth, ac yn myfyrio ar ein harfer er mwyn gwella a thyfu.
Yn Adferiad, nid yn unig ein cenhadaeth a'n pwrpas sy'n arwain ein gwaith, ond hefyd set o werthoedd personol sy'n uno pawb ar draws y sefydliad, gan gynnwys Cyfarwyddwyr, Ymddiriedolwyr, Staff ac Aelodau. Mae'r gwerthoedd hyn yn ffurfio'r sylfaen i sut rydym yn gweithio, yn gwneud penderfyniadau ac yn cefnogi ein gilydd bob dydd. Wedi'u hadeiladu ar egwyddorion Cydweithio a Chydweithrediad, Urddas a Pharch, Ansawdd a Chydraddoldeb, a Dysgu a Myfyrio, maent yn llunio ein diwylliant ac yn sail i'n hymrwymiad i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd