Ar gyfer beth mae cefnogaeth tai?

Mae cael lle diogel a sefydlog i fyw yn hanfodol i lesiant, ond mae llawer o bobl yn wynebu heriau sy’n eu rhoi mewn risg o ddigartrefedd. Gall ffactorau megis anawsterau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu, e.e. awtistiaeth, bod yn ddibynnol ar sylweddau, pwysau ariannol, perthnasoedd yn chwalu yn arwain at ddiffyg ymgysylltiad gyda gwasanaethau ei wneud yn anodd i sicrhau ac i gynnal cartref.


Mae cefnogaeth tai wedi’i dylunio i helpu pobl i oresgyn yr heriau hyn. Mae’n darparu arweiniad ymarferol i helpu unigolion i ddod o hyd i ac i gynnal llety, i gael mynediad i’r budd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt, ac i ddeall sut i weithio gyda’r system dai.


Hefyd, mae cefnogaeth tai yn adnabod effaith emosiynol ansicrwydd tai. Mae’n cynnig sicrwydd a chefnogaeth i helpu pobl i deimlo’n fwy sefydlog, hyderus ac â mwy o reolaeth dros eu sefyllfa a’u galluogi i fyw’n annibynnol.

Sut mae cefnogaeth tai a digartrefedd yn gweithio

Mae cefnogaeth tai yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i helpu pobl i sicrhau a chynnal llety sefydlog. Mae hyn yn cynnwys arweiniad ar ddod o hyd i lety, cael mynediad i fudd-daliadau, a mynediad i’r system dai, yn ogystal â chefnogaeth i reoli effaith emosiynol ansicrwydd tai er mwyn i unigolion deimlo’n fwy diogel a’u bod â mwy o reolaeth.


Yn Adferiad, cynigiwn gefnogaeth dosturiol wedi’i theilwra, wedi’i dylunio i atal digartrefedd ac i helpu pobl i gynnal eu tenantiaethau. Ein nod yw i gefnogi unigolion i gaffael llety diogel, sefydlog ac i fyw’n annibynnol.


Darparwn ystod eang o wasanaethau ar draws Cymru ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu mewn risg o ddigartrefedd neu rai sydd angen cefnogaeth gyda sgiliau bywyd bob dydd, yn cynnwys unigolion sy’n ailintegreiddio i’r gymuned yn dilyn cyfnod o amser mewn ysbyty neu garchar.
Mae llawer o’r bobl rydym yn eu cefnogi yn byw gyda heriau iechyd meddwl ac/neu ddefnydd sylweddau, ond rydym hefyd yn gweithio gydag unigolion sy’n wynebu ystod eang o amgylchiadau a rhwystrau eraill.


Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Tai a Digartrefedd yma.

Sut i gael cefnogaeth ar gyfer tai a digartrefedd

  • Timau tai cynghorau lleol – llety brys, asesiadau digartrefedd, a chymorth tai tymor hir.
  • Shelter Cymru -cyngor am ddim, cefnogaeth tai ar frys, a chymorth cyfreithiol (08000 495 495).
  • Canolfannau cyngor tai / cymdeithasau tai  - help gyda rhent, materion tenantiaeth, a dod o hyd i lety.
  • Gwasanaethau cefnogaeth tai (llety â chefnogaeth) - help i bobl gydag anghenion cymhleth
  • StreetLink – yn cysylltu pobl sy’n cysgu ar y stryd i dimau allgymorth lleol (0300 500 0914).

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×