Beth yw cefnogaeth cyflogaeth? 

Cefnogaeth cyflogaeth yw arweiniad ymarferol a chymorth i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad i swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli. Gall gynnwys adeiladu hyder, datblygu sgiliau, archwilio opsiynau gyrfa, gwella CV neu dechnegau cyfweliad, a chael cyngor wedi’i deilwra i anghenion unigol. 

I bobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl, materion gyda defnydd sylweddau, neu yn eu hadferiad, gall dod o hyd i a chadw gwaith fod yn arbennig  o anodd. Gall cyflyrau megis gorbryder neu iselder effeithio ar hyder, egni, neu ffocws, ac, yn aml, mae yna rwystrau ychwanegol fel cyfleoedd cyflogaeth gwael, diffyg cefnogaeth, neu stigma.

Sut mae cefnogaeth cyflogaeth yn gweithio

Darperir cefnogaeth cyflogaeth drwy arweiniad un i un wedi’i bersonoli gan fentor cymheiriaid. Mae’r gefnogaeth yma wedi ei siapio o gwmpas anghenion unigol ac yn ffocysu ar ddeall profiadau personol, adeiladu hyder, a gweithio tuag at nodau adferiad a chyflogaeth. Mae’r mentor cymheiriaid yn defnyddio eu profiad byw eu hunain i gynnig dealltwriaeth ac anogaeth, gan helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt symud tuag at gyfleodd cyflogaeth cynaliadwy. Cynigiwn ystod o wasanaethau mentora cymheiriaid ar draws Cymru sy’n cefnogi pobl gyda materion iechyd meddwl neu gaethiwed i ddatblygu eu sgiliau ac i weithio tuag at gaffael cyflogaeth sicr a chynaliadwy. Trwy ddefnyddio eu profiad byw eu hunain, gall mentoriaid cymheiriaid gefnogi unigolion sydd ar eu siwrnai adferiad eu hunain i adeiladu eu profiad, i gael mynediad i hyfforddiant, ac i fynd yn ôl i mewn i’r farchnad swyddi. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Cyflogaeth yma.

 Ffyrdd eraill i gael mynediad i gefnogaeth cyflogaeth

  • Jobcentre Plus (DWP) – help i ddod o hyd i waith, cyngor budd-daliadau, a rhaglenni hyfforddiant (0800 055 6688). 
  • Cymru’n Gweithio (Llywodraeth Cymru Welsh) – cyngor gyrfaoedd, cymorth CV, a cefnogaeth paru swyddi (0800 028 4844). 
  • Rhaglen ReAct+ - cefnogaeth i bobl sy’n wynebu rhwystrau i waith (hyfforddiant, ailhyfforddi, a chymhellion cyflogwyr).
  • Gyrfa Cymru – arweiniad, prentisiaethau, a llwybrau addysg i’r gwaith (0800 028 4844). 
  • Cynghorau lleol a gwasanaethau cyflogadwyedd – cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers tymor hir a grwpiau agored i niwed.
  • Elusennau (e.e. Shaw Trust, Nacro) - help i bobl gydag euogfarnau, anableddau, neu rwystrau eraill. 

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×