'Recovery meant learning why I needed to escape' - Only Human Champion Nicola’s story of recovery
September 3, 2026
Mae cyffuriau ac alcohol yn sylweddau a all newid y ffordd rydym yn teimlo, yn meddwl, ac yn ymddwyn. Mae rhai pobl yn eu defnyddio i ymdopi gyda straen, emosiynau anodd, neu sefyllfaoedd heriol. Dros amser, gall defnydd rheolaidd effeithio ar yr ymennydd a’r corff, gan ei wneud yn anoddach i stopio a all arwain i gaethiwed.
Gall caethiwed ddatblygu’n raddol ac fe all fod yn anodd i’w reoli heb gefnogaeth. Gall effeithio ar weithrediad dyddiol person, a’i wneud yn anoddach i roi’r gorau i ddefnyddio sylweddau. Ond, gyda’r gefnogaeth briodol, mae adferiad yn bosibl, ac fe all pobl weithio tuag at ailadeiladu sefydlogrwydd a iechyd dros amser.
Cynigir cefnogaeth mewn ffordd sy’n anfeirniadol ac yn berson-ganolog, gan weithio ochr yn ochr gyda phob unigolyn i’w helpu i ddeall eu perthynas gyda chyffuriau neu alcohol. Mae’n ffocysu ar adeiladu strategaethau ymdopi iachach, cefnogi newid ar gyflymder y person ei hun, a gweithio tuag at adferiad, sefydlogrwydd, a gwell llesiant.
Gweithiwn gyda phobl i leihau’r niwed y gall sylweddau ei achosi, adennill rheolaeth ar eu bywydau, a chymryd camau tuag at lesiant cynaliadwy, tymor hir. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau a all gefnogi unigolion sy’n profi heriau gyda chyffuriau ac/neu alcohol yn cynnwys gwasanaethau triniaeth cynhwysfawr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r Cyfleusterau Adsefydlu Preswyl neu Ddadwenwyno sydd wedi eu lleoli yn Ngogledd Cymru, ond yn agored i unigolion o ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau sy’n cefnogi pobl yng Ngogledd Cymru sy’n ymrwymedig i adferiad o gaethiwed i gyffuriau ac alcohol, yn ogystal â chefnogaeth ymyrraeth ac ataliaeth i blant a phobl ifanc sydd mewn risg o ddefnydd cyffuriau ac alcohol.
Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol yma.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd