Straeon codi arian
Darganfyddwch straeon ysbrydoledig gan ein codwyr arian a gweld sut mae eu hymdrechion yn helpu i newid bywydau.
Siwrnai o newid a gobaith
"Wedi blynyddoedd o frwydro gyda dibyniaeth ar alcohol a heriau iechyd meddwl, penderfynodd Ben nodi blwyddyn o sobrwydd trwy gymryd rhan mewn her codi arian anhygoel er budd Adferiad.
Ochr yn ochr â’i dad, Pete, a chyda chefnogaeth ei deulu drwy gydol y daith, cwblhaodd Ben y daith 135 milltir ar hyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn dros saith diwrnod, gan gario eu hoffer campio i gyd ar hyd y daith. Crëwyd yr her i godi ymwybyddiaeth mewn brwydrau iechyd meddwl a chaethiwed, tra’n helpu eraill sy’n wynebu profiadau tebyg.
Gyda’i gilydd, codasant fwy na £2,000 i Adferiad, gan ein helpu i barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i unigolion a theuluoedd ar draws ein cymunedau."
Neidio o awyren er cof am Jordan
"Yn dilyn colli Jordan, cyn-ddefnyddiwr gwasanaeth i Adferiad, trefnodd ei deulu a’i ffrindiau her neidio o awyren i gasglu cyfraniadau er cof amdano.
Diolch i haelioni anhygoel y cefnogwyr, codwyd cyfraniadau hanfodol i helpu Adferiad i barhau i ddarparu gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl ar draws Cymru. Oherwydd eu bod am i bob cyfraniad gael yr effaith mwyaf posibl, talodd deulu a ffrindiau Jordan am holl gostau’r naid eu hunain fel fod pob ceiniog a godwyd yn mynd yn uniongyrchol i helpu eraill mewn angen."
Cefnogaeth a chysylltu i godi arian
Am fwy o wybodaeth neu ar gyfer cefnogaeth gyda’ch digwyddiad i godi arian, os gwelwch yn dda cysylltwch â ni yn: [email protected]. Os rydych chi’n penderfynu codi arian i ni, byddem wrth ein bodd gweld eich ffotograffau a chlywed am eich profiad, felly mae croeso i chi i rannu eich lluniau a’ch diweddariadau gyda ni drwy e-bost os gwelwch yn dda.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Polisi Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd