Mae’n rhaid i Adferiad, fel sefydliad, sicrhau bod hawliau unigolion ym mlaen ein meddyliau ym mhopeth a wnawn. Ond nid yw hyn yn ddigon: fel sefydliad ymgyrchu, sianel ar gyfer barn ein buddiolwyr, ac fel cyflogwr mawr, mae’n ddyletswydd foesol arnom ni i arwain. Fel elusen, mae gennym ddyletswydd budd cymdeithasol i wneud llawer mwy nac i gydymffurfio â’r lleiafswm.
Mae rhagfarn ymwybodol ac anymwybodol yn effeithio’n barhaus ar gymunedau o liw, ac ar y gorau yn lleihau’r cyfleoedd ar gyfer buddiolwyr o’r cymunedau hyn, tra ar y gwaethaf maent yn arwain at golli bywyd, caledi, triniaeth diraddol ac anynnol, cadw, a datgysylltiad cymdeithasol.
Rydym wedi ymrwymo i wella ein dealltwriaeth ein hunain, a dealltwriaeth ein rhanddeiliaid i gyd, o’r niwed echrydus y mae hiliaeth, mewn unrhyw ffurf, yn ei gael ar unigolion, cymunedau, a chymdeithas yn gyffredinol. Fel elusen a arweinir gan ei buddiolwyr, sy’n ymdrechu i fod yn Sefydliad sy’n Cadarnhau Hawliau, rydym yn cydnabod bod hiliaeth yn bodoli yn ein cymdeithas heddiw ac yn derbyn yn llawn ein dyletswydd yn dorfol ac fel unigolion i herio ac i fynd i’r afael â hiliaeth yn ei holl ffurfiau ble bynnag a phryd bynnag mae’n ymddangos. Ni ddylai gymryd digwyddiadau trychinebus fel llofruddiaeth George Floyd i wynebu ac i wrthod hiliaeth.
Gwelsom wrthadwaith byd-eang tuag at y driniaeth o bobl ar sail lliw eu croen neu eu hymddangosiad, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i ddarparu cefnogaeth ar gyfer buddiolwyr o gymunedau o liw, ac ychwanegu ein llais i’r grwpiau hynny sy’n parhau yn eu brwydr i herio hiliaeth a cham-drin. I’r rhai hynny sydd wedi profi ymddygiadau o’r fath, mae’n ddrwg gennym, ac rydym yn datgan na fydd Adferiad Recovery yn goddef nac yn derbyn unrhyw ymddygiad o’r fath, a byddwn yn defnyddio’n dylanwad i eirioli am ac i arwain newid.
Mae ein Ymddiriedolwyr wedi addo datblygu Ymagwedd sy’n Cadarnhau Hawliau i bob ardal o’n gwaith ac, i’r pwrpas hwn, wedi gosod yr amcanion â ganlyn i’r Prif Weithredwr a’r uwch dîm:
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd