Wedi'i wreiddio mewn cymunedau lleol

Yn Adferiad, credwn bod cefnogi pobl yn golygu mwy na darparu gwasanaethau yn unig.  Rydym yn herio polisïau a systemau sy’n effeithio ar y bobl rydym yn gweithio gyda nhw, yn sefyll i fyny dros eu hawliau ac yn hyrwyddo eu hanghenion.

Trwy weithio gyda’n gilydd rydym yn

Creu newid

Creu newid

Rydym yn angerddol am yr hyn rydym yn ei wneud, a sbarduno newid yw un o’n prif flaenoriaethau. Mae ymgyrchu yn bwysig i ni, ac rydym yn ymgynghori gyda’n haelodau yn rheolaidd i ddarganfod beth maent yn ei gredu sydd angen ei newid fwyaf.

Ein gwaith ymgyrchu a pholisi
Rhannu ein harbenigedd

Rhannu ein harbenigedd

Yn Adferiad, rydym yn elwa o’n tîm o hyfforddwyr mewnol sydd â phrofiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau i bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion.

Archwiliwch ein hyfforddiant
Adeiladu dealltwriaeth

Adeiladu dealltwriaeth

Mae tîm ymchwil Adferiad yn archwilio materion allweddol sy’n ymwneud â iechyd meddwl, defnydd sylweddau, ac anghenion cymhleth ar draws Cymru.

Gweld ein hymchwil

Wedi ymrwymo i greu newid

Rydym yn gwneud pethau yn wahanol, yn llenwi bylchau rhwng gwasanaethau ac yn gweithio ar draws sectorau i sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, pan maent ei hangen. Mae ein gwaith yn mynd i ganol ein cymunedau ar draws Cymru, gyda chefnogaeth gan ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol sy’n rhannu ein hymrwymiad i greu newid.

Rydym yn gwneud pethau yn wahanol

Ein partneriaid

Ein partneriaid

Yn ein cenhadaeth i gefnogi pobl ar draws Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda llawer o sefydliadau partner.

Darganfyddwch fwy
Ein menter gymdeithasol

Ein menter gymdeithasol

Trwy Fentrau Cymdeithasol CAIS, rydym yn rhedeg amrywiaeth o fentrau nid-er-elw sy’n ail-fuddsoddi yr holl enillion i mewn i’n gwasanaethau iechyd meddwl a chaethiwed sy’n achub bywydau.

Dysgwch fwy
Ymunwch â’n Tîm

Ymunwch â’n Tîm

Ein staff yw ein hased mwyaf, ac rydym yn gweithio i ddarparu gwell dyfodol i bobl yn ein cymunedau ac fe allech chi fod yn rhan ohono. Mae gennym ystod o fuddion a chyfleoedd gyda swyddi mewn llawer o leoliadau. Trwy ymuno â’n tîm, gallech newid bywydau er gwell.

Dechreuwch eich gyrfa

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×