Darparu gwasanaethau i bobl ag amrywiaeth o anghenion

Yn Adferiad, rydym yn elwa o’n tîm o hyfforddwyr mewnol sydd â phrofiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau i bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion. Rydym wedi datblygu ystod o becynnau hyfforddi sy’n addas ar gyfer pob angen – o raglenni cynhwysfawr o hyfforddiant wedi’u teilwra ar gyfer sefydliadau, i gyrsiau hyfforddi untro ar gyfer unigolion.

Yn cwmpasu cyfoeth o bynciau yn cynnwys defnydd sylweddau, iechyd meddwl, anghenion sy’n cyd-ddigwydd, a gamblo, mae ein rhaglenni wedi eu dylunio gan hyfforddwyr sydd â phrofiad sylweddol yn y maes, gan ddarparu gwybodaeth amhrisiadwy a sgiliau ymarferol i gyfranogwyr. Rydym hefyd yn cynnig hyblygrwydd mewn fformatau hyfforddiant, ac yn galluogi cyfranogwyr i ddewis rhwng sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb yn seiliedig ar eu dewisiadau.

Mae gan ein tîm 20 mlynedd o brofiad o ddarparu hyfforddiant ar bynciau sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl a chaethiwed, a ddangosir gan allu ffantastig i gysylltu cynnwys i weithrediadau dydd i ddydd, gan sicrhau bod sesiynau yn berthnasol ac yn hygyrch.

Ers i Diverse Cymru ymuno â theulu Adferiad yn 2024, gall ein tîm hefyd ddarparu hyfforddiant arbenigol ar ystod o bynciau cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, yn cynnwys Ymwybyddiaeth Trawsryweddol, Ymwybyddiaeth Anabledd, Rhagfarn Anymwybodol, a Chymhwysedd Diwylliannol.

Costau hyfforddi ar gyfer sefydliadau

Mae’r hyfforddiant wedi ei brisio am y cwrs, gyda chapasiti o rhwng 12 ac 20 o gyfranogwyr yn dibynnu ar y cwrs.

Cyrsiau ½ diwrnod (3 awr): £375 (£450 ar gyfer cyrsiau Diverse Cymru)
Cyrsiau diwrnod llawn (6.5 awr): £650

Cliciwch yma i weld ein prosbectws hyfforddiant

Alcohol Awareness

Alcohol Awareness

Join us for a fun and informative session on Alcohol Awareness - let's talk facts, myths, and have a good time while learning!

Book now

Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Camddefnydd Sylweddau Gogledd Cymru

Os ydych chi’n sefydliad wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru, gallwch gael mynediad i ystod o hyfforddiant arbenigol ar bynciau sy’n ymwneud â defnydd sylweddau.

Mae archebu ar gyfer ein cyrsiau’n hawdd. Gallwch archebu trwy ddefnyddio’r prosbectws isod trwy glicio ar y ddolen ar gyfer y cwrs a dyddiad y cwrs yr hoffech archebu ar ei gyfer. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen gofrestru i gwblhau gyda’ch manylion, yn cynnwys y cyfeiriad e-bost ble’r hoffech i ni yrru’r ddolen iddo.

I fwcio neu i ddarganfod mwy cysylltwch â suzana.silva@adferiad.org

Hyfforddiant wedi ei gyllido ar gyfer cyn-filwyr

Rydym yn falch o gynnig dau gyfle hyfforddiant ymarferol a ariennir gan yr Armed Forces Covenant Fund Trust, sydd wedi eu dylunio i gryfhau cefnogaeth o fewn y gymuned Lluoedd Arfog. Bydd cyrsiau Mentora Cymheiriaid a Hyfforddi’r Hyfforddwr yn rhedeg yn fisol hyd mis Rhagfyr 2026 ar gyfer cyn-filwyr sydd â diddordeb mewn cefnogi eraill o fewn y gymuned Lluoedd Arfog.

Cliciwch yma i archebu neu i ddarllen mwy.

I gael blas o’r hyn sydd gan ein tîm i’w gynnig.

Oes gennych chi ymholiad am ein hyfforddiant?

Oes gennych chi gwestiwn am hyfforddiant Adferiad neu angen cymorth gyda archebu? Cysylltwch â'n tîm a byddwn yn hapus i helpu.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×