Sut ydyn ni’n wahanol?

Mae Problem a Rennir yn wasanaeth cwnsela sy’n cael ei redeg gan Fentrau Cymdeithasol CAIS, sy’n cysylltu pobl sydd angen cefnogaeth gyda’n tîm o gwnselwyr profiadol a chymwys. Yn wahanol i lawer o wasanaethau eraill, mae gennym staff sydd ag ystod o brofiadau, y byddwn yn galw arnynt i ffitio orau ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Boed chi’n wynebu straen, gorbryder, materion perthynas, neu ond angen rhywun i siarad gyda hwy, rydym yn darparu gofod diogel a chyfrinachol i archwilio eich pryderon. Trwy ein dewis ni, rydych nid yn unig yn derbyn cwnsela, rydych yn partneru gyda thîm sy’n deall yn wirioneddol gwerth eich llesiant meddyliol ac sydd yma i’ch cefnogi pob cam o’r ffordd.

Beth ydyn ni’n ei gynnig?

Yn Problem a Rennir, rydym yn cynnig dull amgen i gael mynediad i therapi, gan roi ffordd sydyn a hawdd i chi i gael mynediad i’r gefnogaeth rydych ei hangen heb amseroedd aros hir. Darperir ein therapïau i gyd ar-lein, sy’n golygu y gallwch gael eich cefnogi o gysur a diogelwch eich cartref eich hun.

Mae ein tîm staff yn gwnselwyr BACP cymwys, sydd â chyfoeth o brofiad o gefnogi pobl, trwy ddefnyddio ystod o dechnegau cwnsela.

Hefyd, os byddwn yn ymwybodol o unrhyw un o’n gwasanaethau presennol a allai eich cefnogi, fe awn â chi drwy’r atgyfeiriad hwnnw, gan arbed arian, amser a sicrhau eich bod yn derbyn gofal o’r ansawdd gorau.

Beth allwn ni ei addo?

Trwy ein dewis ni i’ch cefnogi, bydd ein cwnselwyr yn:

  • cynnig lle diogel, cyfrinachol ble gallwch siarad amdanoch chi eich hun a’ch bywyd, a allai deimlo’n boenus neu’n ddryslyd a gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, yn flin, neu’n anhapus
  • cynnig cyfle i feddwl ac i siarad amdanoch chi eich hun a’ch pryderon mewn ffordd na allwch ei wneud gyda ffrindiau a theulu yn aml
  • cynnig lle ac amser sydd ar eich cyfer chi yn unig i siarad am y pethau hynny sy’n eich poeni
  • gwrando ar sut rydych chi’n teimlo a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi ac eraill
  • derbyn y ffordd rydych chi heb eich beirniadu
  • eich helpu i wneud y newidiadau yr hoffech i ddigwydd
  • gweithio’n galed i greu perthynas therapiwtig dda gyda chi er mwyn i chi allu gweithio’n dda gyda’ch gilydd
  • deall nad yw hi wastad yn hawdd i siarad am eich problemau ac i fynegi eich teimladau
  • gweithio gyda chi tuag at wella eich llesiant
  • rhannu gwybodaeth ac adnoddau gyda chi
Sut allwch chi gysylltu?

Mae cysylltu yn hawdd. Gallwch ein e-bostio yn enquiries@adferiad.org neu glicio isod i gael mynediad i’r ffurflen gyswllt.

Unwaith y byddwn wedi ei dderbyn, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf.

Cysylltwch â ni

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×