Rydym yn falch o fod yn elusen a arweinir gan ei haelodau. Golygai hyn fod llais ein haelodau yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Trwy ddod yn aelod byddwch yn rhan o lais y miloedd o bobl yng Nghymru sy’n wynebu ystod o gyflyrau iechyd sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth, trwy wthio am newid, rhannu profiadau a helpu i siapio ein gwaith
Ar draws Cymru, mae rhwydweithiau lleol Adferiad yn cynnig gefnogaeth, cymorth ymarferol, y cyfle i rannu profiadau, i wneud ffrindiau newydd ac i ymgyrchu. Mae’r aelodaeth yn cadw ein rhwydweithiau gyda’i gilydd ac yn rhoi llais i gyfranogwyr ynghylch sut rydym yn symud ymlaen
Mae gan aelodau’r cyfle i gymryd rhan yn ein harolygon ac yn ein grwpiau ffocws. Golygai hyn y byddwn yn gofyn am eich barnau a’ch profiadau i godi ymwybyddiaeth yn ein cenhadaeth ac i godi proffil Adferiad. Gall aelodau hefyd ethol Ymddiriedolwyr a chael y cyfle i ddod yn Ymddiriedolwyr o dan gyfansoddiad Adferiad, sy’n golygu mai’r bobl sydd yn derbyn ein gwasanaethau sydd yn llywodraethu y timau staff sy’n darparu y rhain.
Mae Adferiad yn cynnig ystod eang o wasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n byw gydag anghenion iechyd meddwl, caethiwed, anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac anghenion cymhleth, ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr
Fel aelod, byddwch yn derbyn cynnwys unigryw sy’n cynnwys newyddlenni i aelodau, gwahoddiadau i’n digwyddiadau ymgyrchu lleol a chenedlaethol, a mwy o adnoddau
Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chymorth ymarferol i bobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, caethiwed ac anghenion cymhleth eraill. Mae pob rhodd yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella bywydau a chryfhau cymunedau.
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am aelodaeth Adferiad, gan gynnwys sut i ymuno, diweddaru eich manylion, a chael mynediad at fuddion aelodau. Mae'r adran hon yma i'ch helpu i gael y gorau o'ch aelodaeth.
Golygai bod yn aelod o Adferiad y gallwch gymryd rhan a chael eich llais wedi ei glywed trwy siapio dyfodol gwasanaethau yn lleol, yn genedlaethol ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Cynrychiolir Adferiad ar nifer o grwpiau strategol Cymreig ac ar draws y Deyrnas Unedig gan gynrychioli lleisiau ein defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrando ar Adferiad, ond golygai mwy o aelodau lais cryfach, mwy o awdurdod a mwy o ddylanwad ble mae’n bwysig.
Nid oes unrhyw gost i ddos yn aelod, ond rydym wastad yn croesawu cyfraniadau sy’n mynd tuag at uchelgais a chenhadaeth yr elusen.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd