Beth yw cefnogaeth i blant a phobl ifanc?

Gall plant a phobl ifanc brofi ystod eang o anawsterau emosiynol a seicolegol sy’n aml wedi eu siapio gan yr hyn sy’n digwydd yn eu bywyd personol. Ar adegau, gallent deimlo wedi’u llethu, yn bryderus, mewn hwyliau isel, yn flin, yn tynnu’n ôl, neu’n ansicr sut i fynegi beth maent yn mynd drwyddo.
Mae yna angen clir am ymyrraeth gynnar, yn enwedig i’r rhai hynny â effeithir gan ansefydlogrwydd teuluol, anawsterau iechyd meddwl, defnydd sylweddau, materion tai, trawma, neu gyfrifoldebau gofalu. Os nad yw’r teimladau a’r profiadau hyn yn cael eu cefnogi, gallent gael effaith sylweddol ar lesiant, datblygiad, addysg, a pherthnasoedd. 

Sut mae cefnogaeth i blant a phobl ifanc yn gweithio 

Yn Adferiad, darparwn ofod diogel, cefnogol ac anfeirniadol ble gall plant a phobl ifanc gael eu clywed a’u deall. Mae ein gwasanaethau yn ffocysu ar yr unigolyn, gan eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi.

Mae ein hymagwedd berson-ganolog yn helpu plant a phobl ifanc i wneud synnwyr o’u profiadau, i adeiladu gwytnwch, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi iach. Cynigiwn ystod eang o wasanaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ar draws Cymru sy’n cefnogi gydag amrywiaeth o heriau. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau ymyrraeth gynnar ar gyfer iechyd meddwl, ymyrraeth argyfwng, ymyrraeth ac ataliaeth cyffuriau ac alcohol, cwnsela, ymyraethau ar gyfer pobl ifanc sydd yn y system gyfiawnder troseddol, cefnogaeth tai a digartrefedd, a chefnogaeth i ofalwyr ifanc. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yma. 

Sut i gael cefnogaeth i blant a phobl ifanc  

CAMHS (gwasanaethau GIG)

Mynediad, fel arfer, trwy feddyg teulu, ysgol, neu hunan-atgyfeiriad ar adegau. Maent yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol.  


Ysgol neu goleg

Gall athrawon, cwnselwyr ysgol, neu dimau cefnogaeth iechyd meddwl gynnig help neu wneud atgyfeiriadau.


Meddyg teulu (doctor)

Gallent roi cyngor, cynnig triniaeth gychwynnol, neu atgyfeirio i CAMHS neu wasanaethau therapi.
Llinellau cymorth ac elusennau: Mae gwasanaethau megis Childline (0800 1111), YoungMinds, a Mind yn cynnig cefnogaeth rhad ac am ddim, sy’n gyfrinachol.


Cymorth Brys

Ffoniwch 111, ewch i A&E, neu ffoniwch 999 os oes perygl sydd ar fin digwydd. 

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×