Adferiad yn dathlu 50 mlynedd o The National Schizophrenia Fellowship

Adferiad yn dathlu 50 mlynedd o The National Schizophrenia Fellowship

Y dyddiad yw’r 9fed o Fai 1970, ac mae hedyn wedi ei blannu sy’n dechrau ffurfio a siapio dyfodol iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig ac yn herio canfyddiadau pobl, wrth iddynt agor eu papur newydd boreol.

Ar y diwrnod hwn, cyhoeddodd The Times erthygl garreg filltir dienw a ysgrifennwyd gan John Pringle, roddodd adroddiad torcalonnus ac emosiynol am ofalu dros ei fab oedd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, a’r ffyrdd roedd y diagnosis hwnnw wedi effeithio ar eu teulu.

Ysgrifennodd John Pringle yn onest am brofiad ei deulu o ofalu am anwylyn oedd â salwch meddwl difrifol mewn geiriau oedd yn atseinio gyda gofalwyr ar draws y wlad, gyda’r llythyr yn dod yn gatalydd ar gyfer dechrau sgyrsiau o gwmpas iechyd meddwl yn genedlaethol.

Bum mlynedd yn ddiweddarach ym 1975, sefydlodd The National Schizophrenia Fellowship (NSF) – gydag un genhadaeth glir, i ddod â phedair cenedl y Deyrnas Unedig at ei gilydd i hyrwyddo lleisiau unigolion a effeithir gan salwch meddwl difrifol ochr yn ochr â’u teuluoedd a’u gofalwyr.

50 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dathlu esblygiad y NSF – ar y Diwrnod Ymwybyddiaeth Sgitsoffrenia hwn, gyda’r gymrodoriaeth dros amser yn tyfu i mewn i’r pum elusen cenedlaethol rydym yn eu hadnabod heddiw fel Adferiad, Rethink Mental Illness, Change Mental Health, MindWise, a Mental Health UK.

Trwy gydol ein dilyniant o NSF Wales i Hafal yn 2003, ac ymlaen i Adferiad yn 2021, rydym wedi ymlynu at werthoedd y NSF, gan esblygu i fod yn lais blaengar yn Nghymru dros salwch meddwl difrifol, defnydd sylweddau, caethiwed, ac anghenion cymhleth eraill sy’n cyd-ddigwydd.

Wrth weithio ochr yn ochr gyda’n partneriaid ar draws y 4 cenedl yn y Deyrnas Unedig, rydym yn parhau gydag etifeddiaeth y NSF ac yn brwydro i sicrhau bod pobl sydd â sgitsoffrenia a salwch meddwl difrifol eraill yn derbyn y gefnogaeth a’r tosturi maent yn eu haeddu a’u hangen.

 

*Noder, os gwelwch yn dda bod y llythyr hwn yn cynnwys geirfa sy’n hen ffasiwn ac yn stigmateiddio a ddefnyddiwyd yn 1970, nad oes lle iddo mewn cymdeithas fodern.

Achos o Sgitsoffrenia

“Caiff y gair “sgitsoffrenia” ei daflu o gwmpas yn llawer rhy ysgafn heddiw, yn codi ei ben mewn ffilmiau, mewn sgriptiau teledu, mewn beirniadaeth lenyddol, hyd yn oed erthyglau gwleidyddol, ac, y rhan amlaf fel rhyw fath o gyfystyr ffasiynol am amhendantrwydd. Ond ni fyddai unrhyw un sydd wedi gweld y cyflwr meddygol acíwt byth yn dymuno ei weld yn cael ei ddefnyddio oni bai ei fod yn ei gyd-destun cywir.

Sgitsoffrenia yw’r chwilfriwiad neu’r dadfeiliad o’r ego, y “Fi” canolog hwnnw yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, yn anymwybodol o’r cydbwysedd bregus hwnnw o’r elfennau y tu mewn i ni. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr ymosodiad, gall yr effeithiau amrywio o ddatgysylltiad ysgafn y personoliaeth i dynnu’n ôl yn gyfan gwbl o gysylltiad dynol. Does bron dim byd wedi ei sefydlu ynghylch ei achoseg, ei ffactorau genetig, amgylcheddol neu ffactorau rhagdueddol eraill, felly does dim modd yn bodoli i’w atal nac i’w iachau yn barhaol. Gall ddigwydd mewn unrhyw oed ac mewn unrhyw ffordd o fyw, ond mae yna niferoedd brawychus o uchel ymhlith oedolion ifanc, yn cynnwys rhai o ddeallusrwydd y tu hwnt i’r cyfartaledd. Gall y symptomau fod yn debyg i symptomau nifer o gyflyrau eraill, felly fe all diagnosis fod yn anodd.

Ildiodd fy mab i “iselder y glasoed” honedig yn ei ail flwyddyn yn Oxbridge, ble roedd wedi mynd gydag ysgoloriaeth agored fawr. Dechreuodd fethu darlithoedd a thiwtorialau, cau ei hun yn ei ystafelloedd, ac osgoi ei ffrindiau. Ni feddyliodd awdurdodau’r coleg y gallai’r ymddygiad yma fod o ganlyniad i unrhyw beth ond segurdod. Ni wnaethant ei yrru at feddyg na dweud wrthym ni, y rhieni, ond fe gymerasant ei ysgoloriaeth oddi wrtho – wedyn, oherwydd na gafodd hynny unrhyw effaith, gyrrwyd ef i lawr – gyda dim ond 14 awr o rybudd i ni. Cyfaddefasant – yn ddiweddarach – bod llythyrau hunanladdiad wedi eu darganfod.

O’m mhrofiad i, mae gan deuluoedd sy’n wynebu’r sefyllfa yma ar fyr-rybudd, ddwy broblem, ac mae’n anodd dweud pa un yw’r gwaethaf. Y gyntaf yw sut i ddelio â’r aelod newydd hwn yn y cartref sydd â hwyliau sy’n newid am yn ail yn amhosibl, o fod yn gorwedd yn swrth ar ei wely yn y tywyllwch i ffitiau gwyllt o ymosodolrwydd, gydag arferion cymdeithasol yn dirywio bron i lefel anifail. Yr ail broblem yw sut i dreiddio’r niwl dryslyd hwn o amwysedd ac aneglurder yr ysbyty i gaffael arweiniad dealladwy ar y set gyntaf o broblemau.

Mae’n ddealladwy bod seiciatryddion yn gyndyn o osod label arswydus yn rhy sydyn, ac mewn gwirionedd roedd yn ddwy flynedd, a chylchdro o nifer o ysbytai ac ail-ymgais drychinebus yn Oxbridge, cyn gwneud diagnosis positif o sgitsoffrenia yn achos fy mab. Ond, wrth edrych yn ôl, oedd y misoedd hir hynny ble nad oeddem yn gallu cael unrhyw synnwyr ymarferol allan o unrhyw un, yn wirioneddol angenrheidiol?

Ar bron pob pwynt penodol ble roedd angen dybryd am gyngor – a ddylid ei berswadio i godi, i wisgo, i gadw ei hun yn lân, ei annog i weithio neu i astudio, neu ei adael ar ei ben ei hun, pa gwrs oedd orau iddo fo? – daethom i arfer derbyn ystrydebau blinderus y doctoriaid ynghylch dangos “amynedd” neu, gan ochr “lles” yr ysbyty, gwrth-gwestiynau synedig – “Wnaethoch chi ddim gofyn hynny i’r meddyg?” Mae methiannau mewn cydgysylltiad a chyfathrebu’n ymddangos i fod yn gysylltiedig i reolaeth weinyddol sgitsoffrenia, sydd bron yn barodi erchyll o’r cyflwr ei hun.

Caiff profiad personol o’r math hwn ei liwio’n oddrychol yn anochel, ond mae wedi fy mherswadio i edrych i fewn i achosion eraill nad oes gennyf unrhyw gysylltiadau emosiynol â nhw, ac i’r cwestiwn cyffredinol, ac mae fy nghasgliadau’n peri pryder, yn enwedig ynghylch y ddarpariaeth gymunedol ar gyfer dioddefwyr y cyflwr.

Mae rhai sgitsoffreniaid* yn gwneud adferiad rhannol. Mae rhai yn aros yn yr ysbyty am byth. Ond mae miloedd yn fwy ym Mhrydain (mae’r ystadegau yn annibynadwy) yn lefelu, fel fy mab, ar lefel isel o addasiad, yn ffit yn gorfforol ac yn ymddangos yn normal i rhywun achlysurol o’r tu allan, ond heb ymroad nac unrhyw beth y gellid ei alw’n ewyllys, ac yn gweld bod y rhan fwyaf o berthnasoedd rhyng-bersonol bron yn amhosibl o anodd. Mae yna rai cyffuriau ar gael sy’n lleddfu peth o’r aflonyddwch ymddygiadol mwy difrifol. Maent yn gwneud bywyd yn fwy goddefadwy i’r dioddefwr a’r rhai o’i gwmpas, ond mae’n anodd dod o hyd i’r dogn cywir fydd ddim yn achosi cysgadrwydd sydd yr un mor llesteiriol i fywyd normal â’r emosiwn gormodol mae’r cyffuriau wedi eu dylunio i’w atal neu guddio. Mae’r achosion yn amrywio, ond efallai y bydd llwyddiant y cyffuriau ond yn ei gwneud yn anoddach i’r byd y tu allan i ddeall, y tu ôl i’r normalrwydd allanol ymddangosiadol â ganlyn, bod y darniad meddyliol yn dal yno.

Y broblem gymunedol mae sgitsoffreniaid cronig yn ei chyflwyno yw, tra nad ydynt yn ddigon sâl i gael eu gwneud yn destun gorchymyn gorfodol, nid ydynt yn gallu edrych ar ôl eu hunain heb ganllawiau a goruchwyliaeth arbenigol, yn benodol, dod o hyd i swydd neu, yn fwy na hynny, dal eu gafael ar un. Yn ysbeidiol, bydd ein mab yn chwilio am swydd neu alwedigaeth y mae ei heisiau, gydag un rhan o’i feddwl. Os yw’n ei chael, naill ai nid yw’n troi fyny, neu mae’n ei gadael ar yr un diwrnod. Mae ganddo lai o synnwyr gydag arian na phlentyn 10 oed. A chyda phob methiant, gyda phob cyflogwr olynol, pob anallu i gaffael geirda, i ateb llythyrau, i gadw apwyntiadau, i ad-dalu dyledion, mae’n gwneud y siawns o gael rhywbeth gwell yn fwy annhebygol.

Mae sgitsoffreniaid yn dueddol o adael llwybr y tu ôl iddynt o bobl sydd, yn gyfiawn neu’n anobeithiol, yn teimlo eu bod “wedi gwneud cymaint ag y gallwn” a’i bod hi’n amser i rhywun arall roi cynnig arni. Mae gen i gasgliad go lew o lythyrau cydymdeimladol yn “gobeithio y bydd eich mab yn gwella’n fuan” tra’n anffodus yn dweud “na” i ryw gais penodol.
Mae ymatebion o’r fath yn ddealladwy iawn, o ystyried mympwyon cythruddol sgitsoffreniaid a’r anhawster i’w ffitio i mewn i unrhyw batrwm normal o fyw. Nid ydynt yn ennyn unrhyw faint o’r cydymdeimlad sy’n gysylltiedig â dosbarthiadau eraill o’r anabl. Nid yw perthnasau, heb sôn am gyrff swyddogol a chyflogwyr, yn ei chael yn hawdd i ddal y teimlad yn ôl weithiau bod rhywbeth yn euog yn foesol ynghylch pobl sy’n ymddangos i fod yn iach ac yn rhesymegol sy’n rhoi’r gorau i waith heb esgus, gyda’u dwylo, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, yn cau yn amlach am unrhyw rodd bychan o arian gyda’r hyn sy’n edrych fel hunanfodlonrwydd sydd, mewn realiti, ond yn dderbyniad trist o’u hannigonolrwydd.

O ran eu gwaredu yn y pen draw, os oes rhaid i rhywun ddefnyddio’r term dideimlad hwnnw, maent yn cyflwyno problem, yn fy ngolwg i, nad yw’r gymuned a’r awdurdodau yn ei hwynebu. Y prif flaenoriaeth yn amlwg yw adsefydlu ble bynnag mae hyn yn bosibl; y dasg ddeuol o ail-gymdeithasu i’w galluogi i o leiaf dod drwyddi i raddau mewn cwmni gyda phobl normal, ac ar yr un pryd, i’w ffitio i wneud swydd syml, un rhan-amser iawn o bosibl, ond sydd o leiaf yn eu galluogi i fyw’n annibynnol, hyd yn oed os yw hynny ar lefel cynhaliaeth gymedrol. Prin mae’r ddarpariaeth ganolog neu awdurdod lleol ar gyfer ailhyfforddi sydd wedi ei hanelu tuag at anghenion sgitsoffreniaid (neu, o ran hynny, unrhyw gyn-gleifion meddyliol yn gyffredinol) yn bodoli o gwbl.

Mae’r Unedau Adsefydlu Diwydiannol a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Lafur wedi’u bwriadu’n bennaf ar gyfer llafurwyr sydd wedi eu hanafu’n gorfforol neu’n anabl. Mae nhw’n brin ac wedi eu gwasgaru ormod o gofio’r anawsterau teithio ond, oni bai am hynny, maent yn canolbwyntio ar ail-hyfforddiant diwydiannol ble bydd llawer o sgitsoffreniaid ond yn addas ar gyfer gwaith clerigol arferol neu waith cyffelyb ac yn aml yn rhy lletchwith gyda’u dwylo i’w gadael yn agos i durnen neu offer pŵer rhag gwahodd helbul. Yn waeth fyth, mae’r Unedau Adsefydlu Diwydiannol, yn naturiol, yn disgwyl prydlondeb a chadw i oriau rheolaidd, y ddau ohonynt yn rwystrau sylweddol i’r sgitsoffreniad cyffredin sydd, yn dilyn rhwystr cychwynnol, yn anaml yn mynd yn ôl.

Er mwyn diwallu rhan ail-gymdeithasu’r broses adsefydlu, mae Deddf ddiweddar a osododd y rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i sefydlu hostelau i weithredu fel “tai hanner ffordd” ar gyfer cleifion meddwl rhwng eu rhyddhau o’r ysbyty a, gobeithio, iddynt ailddechrau byw’n normal. Roedd y nod, sef darpariaeth amgylchedd gwarchodedig dros dro, yn glodwiw, ond dim ond llond llaw o awdurdodau lleol sydd wedi gwneud unrhyw beth mewn gwirionedd. As, o’r rhai hynny sydd wedi gwneud rhywbeth, mae rhai ohonynt wedi dehongli eu gorchwyl gydag ysbryd crintachlyd ac obsgwrantaidd.

Mae’r tŷ hanner ffordd, fel y’u gelwir, a sefydlwyd gan sir gefnog yn agos i Lundain wedi ei redeg mewn modd disgyblaethol llym. Mae rhai newydd sy’n cyrraedd yn cael gwybod mai eu dyletswydd gyntaf yw i gael swydd ac i gael allan. Gwaherddir ddefnydd o’r adeilad yn ystod y dydd, mae bron a bod fel ei fod wedi ei fwriadu i wneud i’r carcharorion deimlo eu bod wedi cael eu gwrthod ac i gerdded y strydoedd yn ddi-nod, un o hoff ffyrdd sgitsoffreniaid o basio’r amser.

Efallai bod rhoi pwysau ar sgitsoffreniaid i gaffael galwedigaeth y peth iawn ar gyfer eu lles eu hunain ac i atal dirywiad, ond mae rhefru yn wrth-gynhyrchiol ac mae’r awyrgylch sy’n dod â’r gorau allan ohonynt yn fwy o un o deulu mawr na sefydliad. Am y rheswm yma, y tai hanner ffordd mwyaf llwyddiannus yw’r rhai hynny sydd wedi eu sefydlu gan gyrff gwirfoddol cymeradwy megis y Richmond Fellowship a’u staff sydd, erbyn hyn mae’n rhaid, â chymaint o brofiad o adsefydlu sgitsoffrenig ag unrhyw rai yn y wlad. Ond, yn drasig, ychydig iawn ohonynt sydd yna.

Yn y diwedd, bydd canol caled yn parhau, sydd o bosibl yn rhedeg i bum ffigwr yn y Deyrnas Unedig, fydd byth yn gallu gofalu am eu hunain yn gyfan gwbl. Nid oes yna ddarpariaeth gymdeithasol yn bodoli ar eu cyfer, felly mae eu dyfodol yn llwm. Wrth i rieni farw a pherthnasau eraill yn ei chael yn amhosibl i ymdopi, y duedd anochel yw iddynt i ddrifftio at i lawr i swmp gwaelod y wladwriaeth les.

Rhoddodd eitem diweddar ar “Panorama” adroddiad llwm ond cywir o’r hyn sydd yn digwydd i lawer eisoes: yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty i neb ac i unman, yn rhoi ymgais wan am waith achlysurol, yn esgeuluso cymryd eu meddyginiaeth, yn methu casglu eu “cymorth cyhoeddus” hyd yn oed; y sleid di-ewyllys i’r tŷ clwydo neu gysgu tu allan gyda’r yfwyr ‘meths’ a’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau, cysylltiad gyda’r heddlu neu’r carchar, yn ôl i’r ysbyty a dechrau’r broses unwaith eto.

Mae ysbytai meddwl neu sefydliadau ar gyfer rhai sy’n ddiffygiol yn feddyliol* yn hollol anaddas ar gyfer sgitsoffreniaid cronig, ond i ble arall allent fynd? Beth sydd ei angen yw aneddiadau bach ble gellir darparu ar gyfer eu hanghenion sylfaenol, yn cynnwys amddiffyniad rhag straen amhosibl, mewn amgylchedd sy’n gyd-gefnogol. Byddai cartrefi o’r fath yn llawer rhatach na meddiannaeth gyfatebol o lefydd mewn ysbytai meddwl gyda’u costau meddygol uchel a chostau uchel eraill, a ble mae unrhyw ymgais i fyw yn normal, y maent yn glynu ato’n druenus, yn amhosibl.

Gellid gwneud y rhan fwyaf o’r swyddi angenrheidiol gan y preswylwyr eu hunain; mae sgitsoffreniaid yn aml yn gweithio’n ddigon da yn eu ffordd eu hunain, os oes rhywun maent yn hoff ohonynt yn eu “trefnu’n” ddoeth ac yn oddefgar o’u mympwyon. Byddai sgôp hefyd i gyflogwyr lleol cydymdeimladol, sydd ddim yn disgwyl gormod, yn rhoi cyfle iddynt. Byddai cymunedau bach o’r fath yn llenwi bwlch yn ein darpariaeth gymunedol, yn osgoi’r gwrthdaro a’r gwastraff sy’n gynhenid yn yr esgeulustod gweinyddol presennol, ac yn cynnig y siawns orau o hapusrwydd i filoedd yn y canol caled.

Ond mae angen tynnu’r holl drefniant gweinyddol ar gyfer delio â’r categori yma o’r anabl at ei gilydd. Gellir dibynnu bron iawn ar y rhai sy’n gripledig* yn feddyliol i daflu eu hunain drwy unrhyw rwyd diogelwch sydd wedi ei dyfeisio i ddal yr anabl cyffredin ond fe ddylid rhagweld hyn yn ystod y cam cynllunio.

Heb gymorth, ni ellir disgwyl iddynt ymdopi gyda’r ddrysfa ddryslyd o awdurdodau sy’n tresmasu ar eu bywydau; adrannau cleifion allanol, almonwyr, adrannau cyflogaeth, ymateb i lythyrau, rhoi atebion manwl gywir i gwestiynau annealladwy – a dim un ohonynt yn ymddangos i fod mewn cysylltiad gyda’r rhai eraill. Y ddelfryd fyddai i roi rôl gydlynu i rhywun mewn awdurdod a’u dynodi fel y lle i sgitsoffreniaid i droi ym mhob mater sy’n effeithio arnynt.

Os yw hyn yn golygu eu cofrestru hefyd, yna dylid ystyried hynny hefyd. Dylid dod â darniad gwarthus y cyfrifoldeb rhwng awdurdodau lleol a’r gwasanaeth ysbytai – un eisiau’r sgitsoffreniaid oddi ar y graddfeydd hyd yn oed ar y gost o feddiannu gwelyau drud y GIG, a’r llall yn gyfrifol am yr agweddau meddygol yn unig ac yn ddi-bryder ynghylch unrhyw ôl-ofal cynhwysfawr – i ben. Mae angen polisi cenedlaethol unedig.”

-John Pringle

Mae Adferiad yn darparu cefnogaeth ar gyfer unigolion sy’n profi sgitsoffrenia, seicosis, a salwch meddwl difrifol eraill trwy lawer o’n gwasanaethau ar draws Cymru; yn cynnwys cefnogaeth ymyrraeth gynnar, tai, cyflogaeth a mentora, gwasanaethau argyfwng a mwy. I ddarganfod mwy am y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig yn eich ardal ewch i adferiad.org/our-services

See similar stories

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl
  • Mental Health & Wellbeing

Canabis Meddyginiaethol a’i Driniaeth o Salwch Meddwl

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?
  • Adferiad

Etholiadau’r Senedd 2026: Beth mae maniffestos y pleidiau’n ei olygu i iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru?

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw
  • Counselling
  • Mental Health & Wellbeing
  • Crisis Services

Sarah Stephens yn Ysbrydoli Newid Trwy Brofiad Byw

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×