Helpu i greu newid cadarnhaol trwy godi arian

5K ar gyfer Iechyd Meddwl

Gall cefnogwyr gerdded, loncian, neu redeg 5K tra’n codi arian i Adferiad a  chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a llesiant.


Her Marathon neu Hanner Marathon

Anogwch unigolion neu dimau i gymryd rhan mewn rasys lleol i gefnogi Adferiad.

 
Her Camu i Mewn i Lesiant

Mae cyfranogwyr yn gosod targed camau dros fis ac yn casglu nawdd gan ffrindiau, deulu, neu gydweithwyr. 


Beicio am newid

Her feicio noddedig ar gyfer unigolion neu dimau yn y gweithle.

Codi Arian Cymunedol

Teithiau Cerdded Llesiant

Trefnwch deithiau cerdded lleol sy’n annog sgwrsio, cysylltiad, a chodi arian.


Bore Coffi a Gofod Sgwrsio

Dewch â chymunedau at ei gilydd i siarad yn agored am iechyd meddwl tra’n gwneud cyfraniadau.


Noson Gwis

Digwyddiad codi arian cymunedol syml sy’n addas ar gyfer tafarndai, canolfannau cymunedol, neu weithleoedd.


Gweithdai Creadigol

Sesiynau celf, cerddoriaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, neu grefft.

Cyfleoedd Codi Arian yn y Gweithle neu’r Ysgol

Diwrnod Gwisgo i Lawr

Cefnogwyr yn cyfrannu i wisgo dillad hamdden am y diwrnod.


Wythnos Symud ar gyfer Iechyd Meddwl

Timau’n cwblhau heriau cerdded, rhedeg neu ffitrwydd gyda’i gilydd.


Diwrnod Codi Arian Llesiant

Gweithgareddau’n ffocysu ar hunan-ofal, ymwybyddiaeth ofalgar, a llesiant meddyliol, tra’n codi ymwybyddiaeth a chyfraniadau.

Codi Arian Ar-lein

Codi Arian Penblwydd

Anogwch gefnogwyr i ofyn am gyfraniadau yn hytrach nac anrhegion.


Heriau Chwarae Gemau neu Ffrydio Byw

Cefnogwyr yn ffrydio gemau, nodau ffitrwydd, neu weithgareddau creadigol tra’n codi arian ar-lein.


Heriau Cyfryngau Cymdeithasol

Heriau llesiant positif sy’n annog cyfranogiad a chyfraniadau cymunedol.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×