Os ydych chi’n meddwl am drio cetamin, dyma ychydig o bethau y dylech eu gwybod gyntaf mae’n debyg. Cynhelir y dudalen hon ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Fel arfer, mae cetamin, Ket, Special K, neu K yn bowdr sydd bron yn wyn ei liw sydd fel arfer yn cael ei ffroenu. Mae’n anesthetig datgysylltiol ac yn gyffur seicedelig pwerus. Tra nad yw hynny, o bosib, yn swnio fel hwyl, mae llawer nad yw’r rhan fwyaf yn ei wybod pan maent yn ei drio am y tro cyntaf.
Ar ddosau is gall pobl deimlo’n ymlaciol, yn hamddenol, neu ychydig yn chwil. Ar ddosau uwch, gallwch fynd i mewn i “dwll-K” sy’n golygu rhithwelediadau pwerus y mae rhai wedi eu disgrifio fel profiad agos i farwolaeth.
Gallwch brofi sgil-effeithiau fel pendro, dryswch, colli cydsymudiad, anhawster wrth symud, cyfogi a thaflu i fyny o gymryd Ket hyd yn oed unwaith.
Mae’r sgil-effeithiau cyffredin o ddefnydd tymor byr yn cynnwys gorbryder, ymosodiadau panig, pasio allan a thagu ar chwd. Mae Ket yn amharu ar gydsymudiad, felly mae damweiniau bychain fel taro i mewn i bethau yn gyffredin; gall eich gwneud yn anghofus hefyd.
Mae defnyddwyr rheolaidd yn cael poenau abdomenol difrifol, a elwir yn aml yn “grampiau-K”. Mae defnydd rheolaidd yn risgio difrod difrifol i’r arennau ac i’r bledren yn arbennig. Gall effeithio ar y cof. Mae goddefgarwch yn cynyddu’n sydyn ac fe all ddilyn i ddibyniaeth seicolegol. Dengys tystiolaeth y gall defnydd cetamin yn y tymor hir ddifrodi’r bledren a’r llwybr wrinol, gan achosi “pledren cetamin”. Mae’r difrod a achosir i’r organau hyn yn anadferadwy.
Cymerwch air Bradley.
Mae Bradley yn gyn-ddefnyddiwr cetamin o’r Rhyl yng Ngogledd Cymru. Eisiau gwybod yn union sut mae’n teimlo i gymryd Ket? Gwrandewch ar Bradley...
Heb gymryd Ket, ond mae eich ffrindiau eisiau i chi ei drio?Wedi ei drio cwpwl o weithiau, ond ddim eisiau mynd yn gaeth iddo?Yn poeni eich bod yn gaeth ac ddim yn gwybod beth i’w wneud?
Dydy hi ddim yn rhy hwyr.
Dim ots ym mhle rydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, mae help ar gael – yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw gofyn. Ewch i weld tudalen y gwasanaeth DAN24/7 i ddod o hyd i wasanaethau cymorth a chefnogaeth yn eich hardal leol: Services - DAN 24/7
Gallwch ddod o hyd i help, cefnogaeth a darllen mwy o wybodaeth am cetamin yma: Ketamine|Facts about ketamine.
Mae mwy a mwy o rieni a gofalwyr yn poeni am eu plentyn yn cymryd cetamin. A fyddech yn adnabod yr arwyddion i edrych amdanynt ac yn gwybod sut i gael help?
Dewch o hyd i’r Sesiynau Ymwybyddiaeth Cetamin Adferiad sydd ar gael yma.
Daeth Dan i brosiect Tai Adferiad ar ôl treulio dedfryd hir yn y carchar. Mae Adferiad wedi fy nghynorthwyo i roi fy mywyd ar y trywydd iawn ac er nad yw wedi bod yn hawdd, rwyf bellach yn berson hollol wahanol.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd