Cyfle Cymru Project Extended to March 2027
March 2, 2026
Cefnogaeth cyflogaeth yw arweiniad ymarferol a chymorth i bobl sy’n wynebu rhwystrau i gael mynediad i swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli. Gall gynnwys adeiladu hyder, datblygu sgiliau, archwilio opsiynau gyrfa, gwella CV neu dechnegau cyfweliad, a chael cyngor wedi’i deilwra i anghenion unigol.
I bobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl, materion gyda defnydd sylweddau, neu yn eu hadferiad, gall dod o hyd i a chadw gwaith fod yn arbennig o anodd. Gall cyflyrau megis gorbryder neu iselder effeithio ar hyder, egni, neu ffocws, ac, yn aml, mae yna rwystrau ychwanegol fel cyfleoedd cyflogaeth gwael, diffyg cefnogaeth, neu stigma.
Darperir cefnogaeth cyflogaeth drwy arweiniad un i un wedi’i bersonoli gan fentor cymheiriaid. Mae’r gefnogaeth yma wedi ei siapio o gwmpas anghenion unigol ac yn ffocysu ar ddeall profiadau personol, adeiladu hyder, a gweithio tuag at nodau adferiad a chyflogaeth. Mae’r mentor cymheiriaid yn defnyddio eu profiad byw eu hunain i gynnig dealltwriaeth ac anogaeth, gan helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt symud tuag at gyfleodd cyflogaeth cynaliadwy. Cynigiwn ystod o wasanaethau mentora cymheiriaid ar draws Cymru sy’n cefnogi pobl gyda materion iechyd meddwl neu gaethiwed i ddatblygu eu sgiliau ac i weithio tuag at gaffael cyflogaeth sicr a chynaliadwy. Trwy ddefnyddio eu profiad byw eu hunain, gall mentoriaid cymheiriaid gefnogi unigolion sydd ar eu siwrnai adferiad eu hunain i adeiladu eu profiad, i gael mynediad i hyfforddiant, ac i fynd yn ôl i mewn i’r farchnad swyddi. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Cyflogaeth yma.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd