Poriwch ein Cwestiynau Cyffredin am atebion cyflym i gwestiynau cyffredin am Adferiad, ein gwasanaethau, cefnogaeth, atgyfeiriadau, a chael mynediad at gymorth.
Mae Adferiad yn darparu ystod eang o wasanaethau ar draws Cymru yn cefnogi pobl gyda materion iechyd meddwl, defnydd sylweddau, tai, gofalwyr, pobl ifanc, ac anghenion llesiant. Rydym yn gweithio ochr yn ochr gydag unigolion a chymunedau i ddarparu cefnogaeth ymarferol, gwasanaethau sy’n ffocysu ar adferiad, a chyfleoedd i wella ansawdd bywyd. Mae ein gwasanaethau’n amrywio o gefnogaeth gymunedol, ac eiriolaeth i ymyrraeth argyfwng, cefnogaeth cyflogaeth, a chyfleusterau preswyl.
Mae gwasanaethau Adferiad ar gael i bobl ar draws Cymru a allai fod angen cefnogaeth gyda iechyd meddwl, defnydd sylweddau, tai, llesiant, cyfrifoldebau gofalu, neu heriau eraill sy’n effeithio ar eu bywyd bob dydd. Mae rhai gwasanaethau yn rhai mynediad agored neu ar gael i bawb, tra bydd angen atgyfeiriad i rai eraill, yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw neu’r math o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Cliciwch yma i weld ein gwasanaethau. Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael, os gwelwch yn dda cysylltwch â 01792816600 ac fe all y tîm helpu i’ch harwain i’r gwasanaeth cywir.
Mae Adferiad yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o grantiau, contractau, partneriaethau, a gweithgareddau codi arian. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, ymddiriedolaethau elusennol, a sefydliadau eraill sy’n helpu i ariannu gwasanaethau ar draws Cymru. Mae’r cyllid hefyd yn sicrhau y gall pobl gael mynediad i gefnogaeth gymunedol, ymarferol pan a ble mae ei angen fwyaf.
Yn sicr! Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws gwasanaethau a chymunedau Adferiad. Os hoffech wybod mwy am ddod yn wirfoddolwr gyda ni, os gwelwch yn dda cysylltwch gyda’n tîm gwirfoddoli yn volunteering@adferiad.org.
Adferiad yw elusen blaenllaw Cymru sy’n helpu i newid bywydau pobl a effeithir gan salwch meddwl a chaethiwed. Rydym yn lais cenedlaethol sydd wedi ei wreiddio mewn cymunedau lleol, wedi ei arwain gan brofiad byw ein haelodau. Rydym yn gwneud pethau yn ffordd Adferiad – darparu cefnogaeth sy’n ffocysu ar y person ac nid ar eu hamgylchiadau, gan roi’r unigolyn yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Gallwch ein cefnogi trwy wneud cyfraniad trwy ein gwefan neu trwy gysylltu’n uniongyrchol gyda’n tîm codi arian gan e-bostio fundraise@adferiad.org. Mae cyfraniadau’n helpu i ariannu gwasanaethau, cefnogaeth gymunedol, a gweithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ar draws Cymru. Boed hynny’n gyfraniad untro neu’n gefnogaeth barhaus, mae pob cyfraniad yn helpu i gryfhau’r gwasanaethau sydd ar gael i unigolion a theuluoedd.
Gallwch gael mynediad i’n hadroddiad effaith blynyddol, sy’n cynnwys ein datganiadau ariannol, yma
Rydym yn dod â chefnogaeth at ei gilydd ac yn darparu ar draws gwasanaethau iechyd meddwl, defnydd sylweddau, tai, gofalwyr, pobl ifanc a gwasanaethau llesiant – gan adnabod nad yw bywydau a phrofiadau pobl yn ffitio’n daclus i mewn i un categori. Rydym yn dilyn ymagwedd person cyfan, ac yn gweithio ochr yn ochr gyda phobl a chymunedau ar draws Cymru i ddarparu cefnogaeth sy’n dosturiol, yn gysylltiedig ac wedi ei gwreiddio mewn dealltwriaeth.
Rydym yn cynnig gwasanaethau ar draws Cymru, ond gallai’r ddarpariaeth amrywio yn dibynnu ar y sir rydych chi’n byw ynddi. Os gwelwch yn dda, ewch i’n tudalen wasanaethau i ddarganfod mwy.
Rydym yn falch i fod yn elusen a arweinir gan ei haelodau. Mae ein haelodau’n penodi ein bwrdd ymddiriedolwyr fydd, yn eu tro, yn goruchwylio’r tîm gweithredol. Y strwythur hwn sy’n sicrhau bod y bobl rydym yn eu cefnogi yn ganolog i bopeth a wnawn, ar draws y sefydliad. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein pobl
Os ydych chi’n newyddiadurwr sydd ag ymholiad y cyfryngau neu’r wasg, neu os hoffech ddod o hyd i astudiaeth achos neu lefarydd ar gyfer eich stori, yna e-bostiwch ni yn press@adferiad.org os gwelwch yn dda.
Mae Adferiad Recovery yn elusen gofrestredig ac yn gwmni sy’n gyfyngedig trwy warant. Y rhif elusen yw: 1039386 a rhif Cofrestredig y Cwmni yw: 2751104.
Ydym! Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd staff newydd ymlaen ar gyfer amrywiaeth o rolau. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein swyddi gwag.https://www.adferiad.org/cy/amdanom-ni/pwy-ydyn-ni/ein-pobl/gweithiwch-gyda-ni/
Rydym wastad yn croesawu adborth am ein gwasanaethau a’r gwaith rydym yn ei wneud. Fel arall, os hoffech wneud cwyn, gallwch wneud hynny drwy lenwi’r ffurflen hon. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd yn feedback@adferiad.org.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd