Mae cyllid tymor byr sydd wedi ei yrru gan dargedau yn gwanhau gwasanaethau, yn amharu gyda datblygiad y gweithlu, ac yn oedi’r siwrnai adferiad. Mae cyflogai angen gwaith sicr a theg, ac mae pobl angen cefnogaeth gyson a dibynadwy.

Dyma pam rydym yn galw am:

  1. Fuddsoddiad pellach i ddatblygiad y gweithlu, gyflogau teg, a mwy o staff i gyfarfod y galw.
  2. Gyllid uniongyrchol, cynaliadwy ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector – sy’n adlewyrchu eu rhyngddibyniaeth.
  3. Gydnabyddiaeth o’r trydydd sector fel partner cyfartal wrth y bwrdd pan mae penderfyniadau ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu gwneud.
  4. Newid, o gontractau a yrrir gan dargedau i gyllido sy’n seiliedig ar ganlyniadau tymor hir, sy’n cydnabod adferiad fel siwrnai.
  5. Fuddsoddiad mewn rhaglenni gwrth-stigma sy’n hyrwyddo agweddau positif tuag at salwch meddwl, yn newid canfyddiadau, ac yn annog adferiad.

Cliciwch yma am y flaenoriaeth hon yn ein blog polisi.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×