Bob blwyddyn, mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn rhoi’r cyfle i gydnabod y gwasanaeth, yr aberth a cyfraniad parhaus cymuned y Lluoedd Arfog
Mae’n rhoi’r cyfle i bobl i gydnabod personél sy’n gwasanaethu, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, cadetiaid, oedolion sy’n wirfoddolwyr llu’r cadetiaid a theuluoedd milwrol, tra’n cryfhau’r cysylltiad rhwng cymunedau milwrol a sifilaidd.
I lawer o bobl, mae Wythnos y Lluoedd Arfog am lawer mwy na chydnabyddiaeth. Mae hefyd yn ymwneud â hunaniaeth. Gall gwasanaeth milwrol siapio person mewn ffyrdd sy’n parhau, ac mae’r gwerthoedd a ddatblygir trwy wasanaeth – disgyblaeth, teyrngarwch, uniondeb, gwytnwch, hiwmor, gwaith tîm, ac ymdeimlad cryf o bwrpas – yn aml yn parhau am hir wedi i’r yrfa filwrol ddod i ben. Gall y gwerthoedd hyn hefyd siapio’r teuluoedd ac anwyliaid sy’n sefyll ochr yn ochr gyda’r rhai sy’n gwasanaethu.
Mae ystyr penodol i’r wythnos hon i Newid Cam. Fel gwasanaeth a arweinir gan gyn-filwyr, mae llawer ohonom yn gwybod o brofiad personol nad yw bywyd milwrol yn dod i ben ar unwaith pan mae rhywun yn gadael y Lluoedd Arfog. Gall y trawsnewidiad i fywyd sifilaidd ddod â chyfle a balchder, ond gall hefyd ddod â her, ansicrwydd ac ymdeimlad o ddatgysylltiad. Mae’r ddealltwriaeth a rennir honno yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Mae Newid Cam wedi ei adeiladu ar gyn-filwyr yn cefnogi cyn-filwyr. Trwy gefnogaeth cymheiriaid, rydym yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth, i leihau ynysiad, ac i gefnogi pobl i gymryd camau ymarferol ymlaen. Efallai y bydd pobl yn wynebu heriau gyda iechyd meddwl, tai, cyflogaeth, arian, defnydd sylweddau, perthnasoedd teulu, llesiant, cysylltiad gyda’r system gyfiawnder troseddol neu addasu i fywyd sifilaidd. Gall siarad gyda rhywun sy’n deall y diwylliant, iaith, a realiti gwasanaeth milwrol wneud gwahaniaeth go iawn. Gall helpu rhywun i deimlo nad oes rhaid iddynt egluro popeth o’r cychwyn.
Ein rôl ni yw nid yn unig i ddarparu cefnogaeth ond i helpu aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog i deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi. Gweithiwn ochr yn ochr gyda sefydliadau partner, gwasanaethau statudol a chymunedau lleol i wella dealltwriaeth, i herio stigma ac i helpu pobl i gael mynediad i’r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir. Trwy wneud hynny, rydym hefyd yn ceisio amlygu’r sgiliau, y gwytnwch, yr ymroddiad, a’r potensial mae cyn-filwyr a’r gymuned Lluoedd Arfog ehangach yn parhau i ddod â hwy i gymdeithas.
Mae Wythnos y Lluoedd Arfog, felly, yn fwy na moment o gydnabyddiaeth. I ni, mae’n atgoffâd o pam mae ein gwaith yn bwysig. Mae’n gyfle i ddathlu’r gymuned Lluoedd Arfog gyfan, i adnabod y rhai hynny a allai fod yn cael trafferthion mewn distawrwydd, cydnabod yr aberth a wneir gan deuluoedd milwrol ac ailddatgan ein hymrwymiad i sefyll ochr yn ochr gyda chyn-filwyr a’u hanwyliaid wrth iddynt symud ymlaen mewn bywyd sifilaidd.
Kevin Bogdan & Rob Townsend