• News
  • Training

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Mae Adferiad yn falch o gyhoeddi ei bod wedi dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute (CMI), gan alluogi’r sefydliad i ddarparu cymwysterau rheoleiddiedig, a gydnabyddir yn genedlaethol, i gefnogi datblygiad a dilyniant staff.

Y Chartered Management Institute yw corff proffesiynol blaenllaw y Deyrnas Unedig ar gyfer rheolaeth ac arweinyddiaeth a’r unig sefydliad a all wobrwyo statws Rheolwr Siartredig.

Mae dod yn Bartner Cymeradwy yn cydnabod ansawdd uchel yr arfer a amlygir eisoes gan dîm hyfforddi Adferiad, sy’n darparu cyfleoedd dysgu a datblygiad i fwy na 720 aelod staff ar draws y sefydliad.

I ddechrau, bydd aelodau o’r tîm hyfforddi yn gallu darparu cymwysterau hyd at Lefel 7 Diploma ar draws nifer o feysydd pwnc, gan greu cyfleoedd newydd i gydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau ac i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd.

"Mae hwn yn gyfle enfawr i ni, trwy allu darparu cymwysterau strwythuredig, wedi’u rheoleiddio, yn fewnol, i gefnogi staff yn eu dilyniant.” "Mae’n arddangos ein hymrwymiad i ddarparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel i’r unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau trwy hyfforddi staff i’r safon uchaf. Dengys hefyd ein hymrwymiad i ddysgu ac i fyfyrio er mwyn gwella yr hyn rydym yn ei gynnig i staff ac i ddenu’r talent gorau i’n sefydliad." "Mae’r cyflawniad hwn hefyd yn dangos gallu’r tîm hyfforddi ac yn ein galluogi i adeiladu ar weithlu sydd eisoes yn fedrus o fewn y sefydliad. Rydym wastad wedi bod yn arloeswyr o ran arfer orau, ac rwy’n gyffrous i barhau i gynnal ein safonau proffesiynol wrth ddarparu’r cymwysterau hyn."

Samantha Drohan, Pennaeth Gwasanaeth Hyfforddiant ac Arweinydd Diogelu

Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Adferiad i fuddsoddi yn ei phobl ac i sicrhau bod gan gydweithwyr fynediad i gyfleoedd dysgu, datblygiad, a dilyniant gyrfaol o ansawdd uchel.

See similar stories

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
  • News

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×