Cefndir

Mae’r Lwfans Gofalwr yn darparu elfen o gefnogaeth ariannol i bobl yng Nghymru a Lloegr na all weithio yn llawn amser oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. I’r rhan fwyaf o bobl, ond nid pawb, caiff ei ategu gan gefnogaeth o’r Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn. I dderbyn Lwfans Gofalwr, mae’n rhaid i hawlwyr fodloni nifer o amodau, yn cynnwys darparu lleiafswm o 35 awr o ofal yr wythnos. Nid yw’r Lwfans Gofalwr yn cael ei brofi ar sail modd ond mae’n gosod terfyn enillion sydd 16 gwaith cyfradd fesul awr y Cyflog Byw Cenedlaethol, (£204 yr wythnos yn bresennol), fel ffordd anuniongyrchol o sicrhau bod y person anabl yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt. Mae’r Credyd Cynhwysol a’r Credyd Pensiwn hefyd yn darparu cefnogaeth ychwanegol i ofalwyr. Ble mae rhywun yn derbyn mwy nac un budd-dal, gall y rhyngweithiad rhyngddynt effeithio ar yr hawliau cyffredinol. Yn ymarferol, gall hyn wneud y system yn gymhleth ac yn anodd i’w deall.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu i fynd i’r afael â materion a nodwyd yn yr Independent Review of Carer’s Allowance overpayments, yn cynnwys gwella arweiniad ac adolygu gordaliadau’r gorffennol. Roedd y materion hyn yn cynnwys diffyg eglurder o ran sut mae rheolau enillion yn gweithredu yn ymarferol, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sydd ag incwm sy’n amrywio, oedd yn golygu nad oedd rhai gofalwyr yn ymwybodol bod eu henillion yn uwch na’r terfyn.

Derbyniodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyflawn neu yn rhannol 38 o’r 40 o argymhellion yr Adolygiad  ac mae wedi dechrau rhoi’r newidiadau ar waith i wella gweithrediad y system.

Nod yr alwad am dystiolaeth

Gwnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig Alwad am Dystiolaeth yn gofyn am wybodaeth a barnau ar y Lwfans Gofalwr i adeiladu ar eu tystiolaeth presennol.  Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yr ymatebion yn helpu i siapio’r meddwl ynghylch polisi i’r dyfodol ar sut y gellir moderneiddio’r Lwfans Gofalwr i helpu gofalwyr.

Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb arbennig yn y barnau ar yr opsiynau diwygio posib ar gyfer y terfyn enillion ar gyfer y Lwfans Gofalwr, ac os byddai dull mwy rhagweladwy o gyfrifo cyfartaledd enillion yn cefnogi gofalwyr yn well, o’i gymharu â’r dull achos i achos presennol. Ar hyn o bryd, ble mae enillion yn amrywio o wythnos i wythnos, efallai y bydd y Llywodraeth yn edrych am batrwm a chyfartaledd enillion dros gyfnod o amser. Anelai’r dull yma i adlewyrchu gwaith sy’n amrywio ond fe all fod yn anodd i ofalwyr i’w ddeall a’i ragweld, yn enwedig pan mae eu henillion yn newid.

Ymateb Adferiad

Wrth ateb y Galwad am Dystiolaeth, mae Adferiad wedi holi eu staff, aelodau a defnyddwyr gwasanaeth i hysbysu ymateb sydd yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r sefydliad a’r bobl rydym yn eu cefnogi.

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 20fed Gorffennaf – 7fed Awst ac fe’i gwblhawyd gan 20 unigolyn. O’r cyfranogwyr, roedd 1 person yn ofalwr yn derbyn Lwfans Gofalwr, roedd 10 yn ofalwyr oedd ddim yn derbyn Lwfans Gofalwr a 9 yn aelodau staff Adferiad sy’n gweithio gydag unigolion sy’n derbyn Lwfans Gofalwr.

Ar y cyfan, amlygodd yr arolwg neges gryf a chyson gan staff a gofalwyr bod y system Lwfans Gofalwr bresennol yn or-gymhleth, yn anodd i’w deall a’i llywio, yn gyfyngol yn ariannol ac ddim yn adlewyrchu’n ddigonol realiti cydbwyso cyfrifoldebau gofalu sylweddol gyda gwaith, astudio, ac amgylchiadau bywyd  ehangach. Ar draws yr ymatebion, roedd yna bryder arbennig o gryf ynghylch y trothwy enillion, y risg o ordaliadau a’r ansicrwydd a grëir gan incwm sy’n amrywio, ynghyd â ffafriaeth glir am fwy o hyblygrwydd, tryloywder a chefnogaeth ymarferol.

Pwysleisiodd ymatebwyr yn gyson hefyd na ddylai gofalwyr gael eu cosbi’n ariannol am aros mewn cyflogaeth neu addysg,  ac y dylid cydnabod gofal di-dâl fel cyfraniad sylweddol yn ei hun.

Mae’r adborth wedi helpu i adnabod materion sy’n effeithio ar ofalwyr ac i hysbysu ymateb Adferiad, gan ddod â phrofiadau unigol a phryderon polisi ehangach at ei gilydd. Mae’n darparu sail defnyddiol ar gyfer ymgysylltu gyda Llywodraeth Y Deyrnas Unedig, a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn benodol, ar ddiwygiad posib a chefnogi eiriolaeth ehangach Adferiad o amgylch caledi ariannol a gwella cefnogaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl.

Mae’r tudalennau a ganlyn yn manylu ar y cwestiynau penodol, a’r atebion dilynol, a gyflwynwyd i Lywodraeth Y Deyrnas Unedig mewn ymateb i’w Galwad am Dystiolaeth ar y Lwfans Gofalwr.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×