Chwilio am y gwirionedd

Sgitsoffrenia yw un o’r cyflyrau iechyd meddwl sy’n cael ei gamddeall fwyaf. Ac mae effaith camwybodaeth yn real, yn bwydo ofn, gwahaniaethu, ac ynysiad. 

Y Diwrnod Ymwybyddiaeth Sgitsoffrenia hwn (25ain Gorffennaf 2026), rydym yn cyfarfod pobl  ym mhle mae nhw,  yn ateb y cwestiynau pwysicaf, ac yn herio’r mythau sy’n ein dal yn ôl.

Nid oes yna unrhyw gwestiynau anghywir,  dim ond atebion sydd ar goll. Mae’r hyn rydym yn ei weld ar-lein yn siapio sut rydym yn trin ein gilydd oddi ar lein, felly beth am wneud yn siŵr mai’r gwirionedd yw’r hyn sy’n lledaenu. Mae pob diagnosis, pob pennawd, pob ystadegyn yn cynrychioli person go iawn, person sydd â gobeithion, breuddwydion, a bywyd y tu hwnt i’r label.

Nid yw sgitsoffrenia yn diffinio unrhyw un.  Trwy rannu ffeithiau a storïau personol,  gallwn herio stigma a grymuso eraill i wneud yn yr un modd.

Boed chi’n chwilfrydig,  yn bryderus, neu’n byw gyda sgitsoffrenia eich hun, mae eich llais yn bwysig. Chwiliwch am y gwirionedd, rhannwch beth rydych yn ei ddysgu, a helpwch ni i wneud hwn yn drobwynt i ddeall a chefnogaeth.

Gyda’n gilydd,  gallwn ailfeddwl sgitsoffrenia oherwydd mae pawb yn haeddu cael eu gweld am bwy ydynt, nid camwybodaeth am eu diagnosis.

Ein hanes

Cynhelir Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Sgitsoffrenia gan Mental Health UK ar 25ain Gorffennaf bob blwyddyn, gan nodi diwrnod sefydlu Adferiad (Cymru), Rethink Mental Illness (Lloegr), Change Mental Health (Yr Alban), a MindWise (Gogledd Iwerddon) – ac oll wedi deillio o’r National Schizophrenia Fellowship (NSF).

Wedi ei chreu fel cynghrair o’r bedair elusen hon ar draws y Deyrnas Unedig, mae Mental Health UK yn anrhydeddu ein hanes a rennir o eirioli dros bobl sy’n byw gyda sgitsoffrenia, tra’n arddangos yr ymroddiad a’r arbenigedd i barhau i yrru newid heddiw.

Darllenwch am ein hanes

Y sefyllfa heddiw

Rydym yn hynod falch o’r etifeddiaeth sydd wedi dod â ni i ble rydyn ni heddiw, i ddod yn elusen flaenllaw Cymru sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, yn ogystal â chaethiwed, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, trwy fwy na 100 o wasanaethau.

Ond,  yn anffodus, i bobl sy’n byw gyda sgitsoffrenia a salwch meddwl difrifol eraill, nid oes digon wedi newid. Mae stigma, camwybodaeth, a diffyg gofal priodol neu gydlyniad yn parhau i fod yn rwystrau mae pobl  yn eu hwynebu dros 50 mlynedd yn ddiweddarach. 

Yng Nghymru: 

  • 68% yn meddwl bod stigmateiddio pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol yn broblem fawr
  • 43% yn dweud na fyddent yn ceisio am  gefnogaeth ar gyfer sgitsoffrenia oherwydd nad oeddent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda ffrindiau a theulu 
  • Mae pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol yn marw, ar gyfartaledd, 15 i 20  mlynedd yn gynharach na’r boblogaeth gyffredinol

Mae angen i hyn newid – dyna pam y byddwn yn parhau i frwydro dros bobl sy’n byw gyda sgitsoffrenia nes byddant yn derbyn y gefnogaeth a’r tosturi maent yn eu haeddu, ac yn dal i lenwi’r bylchau rhwng y gwasanaethau statudol ble bynnag y gallwn. 

Darganfod cefnogaeth a chyngor

Heriau newydd

Ochr yn ochr â’r hen bryderon hyn, mae ymddangosiad ystyriaethau newydd megis sgwrsbotiau AI hefyd yn dod â heriau newydd i bobl sy’n byw gyda sgitsoffrenia a seicosis.  Mae defnyddio teclynnau fel ChatGPT, Claude, neu Meta AI i chwilio am gefnogaeth yn dod yn gynyddol gyffredin,  gyda mwy nag 1 o bob 3 oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn adrodd eu bod wedi defnyddio sgwrsbot AI i gefnogi eu iechyd meddwl. Yn bryderus, adroddodd 11% o bobl bod eu symptomau seicosis wedi gwaethygu o ganlyniad i ddefnyddio sgwrsbot AI.

Rydym yn angerddol am sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol, i gefnogi yn hytrach nac i ddisodli gofal iechyd meddwl a arweinir gan ddyn.  Dyna pam rydym wedi ymuno gyda Phrifysgolion Abertawe, Southampton, a Nottingham Trent i archwilio goblygiadau moesegol defnyddio teclynnau AI ar gyfer gofal iechyd meddwl.

Darllen ein ymchwil

“Diolch am  yr holl gefnogaeth yn ystod fy adferiad a’n helpu i ddod yn ôl i mi fy hun."

- Defnyddiwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis

Eich cwestiynau, wedi’u hateb!

Rydym yn ateb y cwestiynau y mae pobl  yn eu gofyn ar-lein yn barod: dim beirniadaeth, dim  ond atebion gonest.  Rydym wedi gofyn rhai o’ch cwestiynau a ofynnir amlaf ar Google am sgitsoffrenia ac wedi llenwi’r bylchau.

Mae sgitsoffrenia yn gyflwr iechyd meddwl cymhleth sydd wedi ei gysylltu ag amrywiaeth o ffactorau, yn cynnwys geneteg, datblygiad yr ymennydd,  profiadau bywyd, a straen. Nid oes un achos unigol, ac mae profiad pawb yn wahanol.

Mae sgitsoffrenia yn effeithio ar tua 23 miliwn o bobl, neu 1 o bob 345 o bobl ar draws y byd. Gall effeithio ar unrhyw un ac nid yw’n diffinio pwy yw rhywun.

Nid oes un rheswm unigol pam mae rhywun yn datblygu sgitsoffrenia. Meddylir y gallai gynnwys cyfuniad o ffactorau genetig,  biolegol ac amgylcheddol.

Yn Adferiad, rydym yn cynnig gwasanaethau ymyrraeth gynnar mewn seicosis, yn ogystal â gwasanaethau eraill yn cefnogi pobl yn byw gyda salwch meddwl difrifol a’u teuluoedd. Gallwch hefyd siarad gyda’ch meddyg teulu am gael y gefnogaeth gywir.

Mae meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol, ac fe all unrhyw sgîl-effeithiau amrywio. Dylai unrhyw un sydd â phryderon siarad gyda’u tîm gofal iechyd am eu hopsiynau a chefnogaeth.

Darganfod mwy

Cyngor iechyd meddwl

Darganfod cyngor

Darllen am yr NSF

Y dyddiad yw’r 9fed o Fai 1970, ac mae hedyn wedi ei blannu sy’n dechrau ffurfio a siapio dyfodol iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig ac yn herio canfyddiadau pobl, wrth iddynt agor eu papur newydd boreol.

Darganfod mwy

Ein hanes

Rydym yn falch o’n hanes ac yn credu’n gryf bod ein hanes yn amlygu ein harbenigedd, ein hymrwymiad a’n hymroddiad i’n cenhadaeth. Gyda mwy na 50 mlynedd o hanes, gadewch i ni rannu ein stori gyda chi.

Darllen mwy

Darganfod cefnogaeth a chyngor

Access guidance on mental health, addiction, wellbeing, money matters, and other complex needs, alongside training, case studies, and local support services.

Gweld ein gwasanaethau

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×