Dynol o Hyd
Ni ddylai unrhyw un osgoi gofyn am gymorth am eu bod yn ofni cael eu beirniadu.
Ynglŷn â'r ymgyrch
Dyma pam rydym yn mynd i’r afael â’r stigma o gwmpas caethiwed trwy sgyrsiau agored yn y gymuned ac yn y gweithle, yn ogystal ag ymgyrchu’n genedlaethol am Gymru sy’n fwy tosturiol a deallus.
Mae Dynol o Hyd yn rhoi llwyfan i bobl sydd â phrofiad byw o gaethiwed i ddweud eu storïau. Fel ein Hyrwyddwyr Dynol o Hyd, mae’r unigolion hyn yn ein helpu i ddarparu sgyrsiau gwrth-stigma mewn gweithleoedd a lleoliadau cymunedol, gan ledaenu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed.
Rydym eisiau grymuso unigolion i gael sgyrsiau iach o gwmpas caethiwed, gan ffocysu ar bwysigrwydd chwilio am gefnogaeth a phŵer adferiad. Gyda gwell addysg a dealltwriaeth, gallwn greu diwylliant ble mae stigma’n cael ei herio, ac mae cymorth wastad o fewn cyrraedd.
Gyda’n gilydd, rydym yn newid y sgwrs o amgylch caethiwed yng Nghymru.
Pobl go iawn, Straeon go iawn
Dan
- Mental Health & Wellbeing
- Drugs & Alcohol
Daeth Dan i brosiect Tai Adferiad ar ôl treulio dedfryd hir yn y carchar. Mae Adferiad wedi fy nghynorthwyo i roi fy mywyd ar y trywydd iawn ac er nad yw wedi bod yn hawdd, rwyf bellach yn berson hollol wahanol.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Polisi Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd