Datganiad Adferiad ar flaenoriaethau’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl a Iechyd Menywod
Croesawn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i gryfhau gwasanaethau iechyd meddwl, i hyrwyddo Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru a rhoi mwy o bwyslais ar ataliaeth a phrofiad byw.
Mae ailddatgan ymrwymiad y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2025 i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl mynediad agored, yr un diwrnod yn arbennig o galonogol. Gall cefnogaeth amserol atal problemau rhag gwaethygu, lleihau’r pwysau ar y gwasanaethau argyfwng a sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth pan maent ei angen fwyaf. Fel mae ein hymgyrch, Tuag at Ddyfodol Tecach, yn ei amlygu, mae’n rhaid i leihau amseroedd aros a chael gwared o’r rhwystrau i fynediad barhau i fod yn flaenoriaeth os ydym am wella deilliannau ar draws Cymru.
Croesawn hefyd y ffocws parhaus ar ddiwygio gofal cymdeithasol a’r gydnabyddiaeth bod yn rhaid i wasanaethau weithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion unigolyn. Bydd newid parhaol yn dibynnu ar fuddsoddiad parhaus, gweithlu sy’n cael ei gefnogi, a phartneriaeth wirioneddol gyda’r trydydd sector sydd â rôl hanfodol i ddarparu cefnogaeth gymunedol ac i gyrraedd pobl a allai, fel arall, syrthio drwy’r bylchau.
Mae ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i glywed yn uniongyrchol gan y bobl hynny sydd â phrofiad byw, yn cynnwys drwy’r Uwchgynhadledd Iechyd Menywod, yn gam positif arall. Mae polisïau ar eu cryfaf pan maent yn cael eu siapio gan y bobl maent yn effeithio arnynt, ac fel sefydliad a arweinir gan ei haelodaeth rydym yn falch iawn i weld cyd-gynhyrchu yn ganolog yng ngwaith y Dirprwy Weinidog.
Mae’r uchelgeisiau hyn yn adlewyrchu nifer o’r blaenoriaethau mae Adferiad wedi eu gosod allan ar gyfer y Llywodraeth Cymru newydd. Edrychwn ymlaen i gydweithio gyda Gweinidogion a phartneriaid ar draws Cymru i droi’r ymrwymiadau hyn i mewn i welliannau ystyrlon ar gyfer y bobl a’r cymunedau rydym yn eu cefnogi.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Polisi Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd