Ymgynghoriad: Blaenoriaethau i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ymateb Adferiad
Cefndir
Yn dilyn etholiad y Senedd 2026, mae’r Seithfed Senedd wedi dechrau ei waith gyda thirlun gwleidyddol a pholisi newydd. Mae’r Senedd wedi cynyddu o 60 i 96 Aelod, gyda system etholiadol newydd ac 16 etholaeth yn ethol 6 aelod yr un i’r Senedd. Mae’r Llywodraeth Cymru newydd wedi gosod allan ei flaenoriaethau ar gyfer tymor presennol y Senedd, yn cynnwys meysydd sy’n ymwneud â iechyd, gofal cymdeithasol, ataliaeth, iechyd meddwl, anghydraddoldebau iechyd, gwasanaethau cymunedol, a chynaliadwyedd y gweithlu.
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn gyfrifol am graffu ar waith Llywodraeth Cymru ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o sefydlu ei flaenoriaethau ar gyfer y Seithfed Senedd, mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ar yr heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a ble gallai ei graffu wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i sefydliadau ac unigolion i ystyried os yw blaenoriaethau iechyd a gofal presennol Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu cymunedau ar draws Cymru, os oes yna unrhyw flaenoriaethau pwysig sydd ar goll, y prif rwystrau i ddarparu’r blaenoriaethau hyn a mesur cynnydd, a’r hyn y dylai’r Pwyllgor ganolbwyntio arno i wneud y gwahaniaeth mwyaf yn ystod y Seithfed Senedd.
Mae’r ymgynghoriad yn rhoi’r cyfle i sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl a chymunedau i gyfrannu i ddealltwriaeth y Pwyllgor o’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol ac i amlygu materion a allai fod angen mwy o sylw gwleidyddol a pholisi.
Nod yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn am dystiolaeth a safbwyntiau i helpu i hysbysu ei raglen waith a blaenoriaethau craffu ar gyfer y Seithfed Senedd. Mae rôl graffu’r Pwyllgor yn cynnig cyfle sylweddol i archwilio sut mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu, os yw adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac os yw newidiadau polisi yn arwain i welliannau ystyrlon i bobl ar draws Cymru.
Mae’r ymgynghoriad yn arbennig o berthnasol yn nghyd-destun pwysau parhaus ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys heriau gweithlu, y galw am wasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau, anghydraddoldebau iechyd, pwysau ar wasanaethau cymunedol ac ataliol, a’r angen am fwy o integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac eraill.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn gofyn am safbwyntiau ar sut y dylid mesur cynnydd. Mae hyn yn cynnig cyfle i amlygu pwysigrwydd edrych y tu hwnt i fesurau gweithgarwch ac amseroedd aros i ystyried profiadau, deilliannau, mynediad i gefnogaeth, anghydraddoldebau pobl a’r raddau y mae gwasanaethau wedi eu cydlynu o gwmpas anghenion unigol.
Ymateb Adferiad
Mae Adferiad yn ymateb i’r ymgynghoriad yn seiliedig ar ein profiad o gefnogi pobl ar draws Cymru a effeithir gan salwch meddwl, defnydd sylweddau, cyfrifoldebau gofalu ac anghenion eraill cymhleth neu sy’n cyd-ddigwydd.
Mae ein ymateb yn amlygu pwysigrwydd edrych ar flaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel bod yn gyd-gysylltiedig. Gall pobl sydd ag anghenion cymhleth brofi gwasanaethau bratiog, gwahanol feini prawf cymhwysedd a llwybrau aneglur rhwng iechyd meddwl, gofal cymdeithasol a mathau eraill o gefnogaeth. Rydym felly yn credu y dylai integreiddiad, hygyrchedd, ac ataliaeth fod yn ganolog i waith craffu’r Pwyllgor ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae’r ymateb hefyd yn adnabod ardaloedd yr ydym yn credu sydd angen mwy o bwyslais, yn cynnwys integreiddio gwasanaethau iechyd meddwl a defnydd sylweddau, ymyrraeth gynnar hygyrch a chefnogaeth gymunedol, rôl gofalwyr di-dâl, cynllunio gofal a thriniaeth, y fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer iechyd meddwl a defnydd sylweddau, a cyllido a chomisiynu priodol.
Trwy ein gwasanaethau rheng flaen a’n hymgysylltiad gyda phobl â phrofiad byw, mae Adferiad yn gweld yr effaith y gall bylchau mewn gwasanaethau a systemau bratiog ei gael ar unigolion a’u teuluoedd. Mae ein ymateb felly yn canolbwyntio ar â yw polisïau a gwasanaethau yn eu lle, yn ogystal ag â ydynt yn hygyrch, yn gyd-gysylltiedig ac yn darparu deilliannau ystyrlon i’r bobl sy’n dibynnu arnynt.
Mae’r canlynol yn gosod allan ein hymatebion i’r cwestiynau a gynhwysir yn ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar flaenoriaethau ar gyfer y Seithfed Senedd.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Polisi Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd