Er eu bod yn offer hanfodol, mae Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn aml yn anghyson, â chydlyniad gwael, ac nid ydynt yn ystyried profiad byw a barn gofalwyr. Gall cydlyniad annibynnol sicrhau eu bod yn cyflawni eu pwrpas.

Dyma pam rydym yn galw am:

  1. Gydlynwyr Cynllunio Gofal a Thriniaeth sy’n annibynnol ac wedi eu lleoli o fewn sefydliadau yn y trydydd sector.
  2. Ymagwedd “Dweud Wrthym Unwaith” a gwell rhannu data i atal dyblygu ac oedi.
  3. Gyfranogiad gofalwyr di-dâl yng nghynllunio gofal a thriniaeth ar gyfer y bobl maent yn gofalu amdanynt, gyda chydnabyddiaeth o’r heriau unigryw a wynebir gan ofalwyr.
  4. Cydweithrediad gwirioneddol gyda gofalwyr di-dâl a’r rhai hynny sydd â phrofiad byw i ddatblygu’r polisïau a’r gwasanaethau priodol.
  5. Cydnabyddiaeth o gynllunio gofal a thriniaeth fel cyfle i adnabod gofalwyr yn gynnar, a sicrhau eu bod yn cael eu cysylltu i’r gefnogaeth briodol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y flaenoriaeth hon yn ein blog polisi.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×