Faint wyddoch chi ynglŷn â chetamin? Faint wyddoch chi go iawn?

Os ‘da chi’n ystyried trio cetamin, mae yna ambell beth efallai ddylech chi wybod yn gyntaf...

Mae Cet, Special K, neu K yn bowdwr lliw gwyn budr sydd fel arfer yn cael ei ffroeni drwy’r trwyn. Mae’n anesthetig datgysylltiol ac yn gyffur seicedelig cryf. Er bod hyn yn swnio fel hwyl, mae llawer iawn nad ydy’r rhan fwyaf o bobl yn ei wybod cyn ei drio am y tro cyntaf.

Sut mae’n teimlo?

Mewn dosau bach, mi all wneud i chi deimlo wedi ymlacio neu mymryn yn benysgafn.

Mewn dosau mawr, mi allwch chi fynd i ‘K-hole’, sy’n golygu rithwelediadau cryf. Mae rhai pobl wedi disgrifio hyn fel profiad sy’n agos at farwolaeth.

Mae’n iawn os dwi ond yn ei gymryd ambell waith, dydy?

Mi allwch chi gael ôl-effeithiau fel bod yn benysgafn, drysu, methu â chydsymud, codi cyfog a chwydu wrth ddefnyddio Cet dim ond unwaith.

Mae ôl-effeithiau tymor byr cyffredin yn cynnwys gorbryder, pyliau o banig, colli ymwybyddiaeth a thagu ar chŵyd. Mae Cet yn amharu ar gydsymudiad, felly mi all damweiniau bychain fel taro i fewn i bethau fod yn gyffredin. Mi all eich gwneud chi’n anghofus, hefyd.

Be’ sy’n digwydd os dwi’n dod yn ddibynnol arno fo?

Mae defnyddwyr cyson yn cael poenau bol difrifol, sy’n aml yn cael eu galw’n ‘poenau K’. Mae defnydd rheolaidd yn peri risg difrifol i’r arennau, ac yn enwedig i’r bledren. Efallai bydd effaith ar y cof. Mae goddefiad yn datblygu’n gyflym ac mi all arwain at ddibyniaeth seicolegol.

Mae defnydd tymor hir o cetamin wedi profi difrod i’r bledren a’r llwybr wrinol, gan achosi ‘pledren cetamin’. Mae’r difrod a achosir i’r organau hyn yn ddiwrthdro.

Gwrandewch ar Bradley

Mae Bradley yn gyn ddefnyddiwr cetamin o'r Rhyl yng Ngogledd Cymru. Eisiau gwybod go wir sut beth ydy defnyddio cet? Gwrandewch ar Bradley...

Ble alla i gael help?

Heb ei gymryd eto, ond mae’ch ffrindiau chi eisiau i chi ei drio?

Wedi ei drio ambell waith, ond ddim eisiau dod yn ddibynnol arno fo?

Poeni eich bod chi yn ddibynnol a ddim yn gwybod lle i droi?

Dydy o ddim yn rhy hwyr.

Waeth lle ‘da chi’n byw yng Ngogledd Cymru, mae help ar gael. Ond eisiau gofyn ‘da chi. Ewch ar dudalen gwasanaethau DAN24/7 er mwyn dod o hyd i wasanaethau help a chymorth yn eich ardal leol chi: Gwasanaethau – DAN 247

Mi gewch chi o hyd i help, cymorth a mwy o wybodaeth ynglŷn â chetamin yma: Cetamin | Ffeithiau Cetamin::DAN 24/7

Rhieni a Gofalwyr

Mae nifer cynyddol o rieni a gofalwyr yn dechrau poeni ynglŷn â’u plentyn yn defnyddio cetamin. Fyddwch chi’n adnabod yr arwyddion i sbïo amdanyn nhw, a sut i gael help?

dferiad, rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi ar Ymwybyddiaeth o Ketamin, i weld pryd rydym yn cynnal ein cwrs nesaf, ewch i'n Eventbrite trwy glicio yma.

 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×