Fel elusen, mae llywodraethu effeithiol yn hanfodol i sicrhau atebolrwydd, tryloywder, a rheolaeth gyfrifol, ac felly diogelu ein cenhadaeth, ein henw da, a’n heffaith.
Trwy fabwysiadu strategaethau effeithlon, gall elusennau fwyafu eu dylanwad a gyrru newid positif o fewn eu cymunedau.
Mae ein tîm amlddisgyblaethol o ymgynghorwyr busnes proffesiynol a gweithredol yn dod â degawdau o brofiad a gwybodaeth arbenigol at ei gilydd yn eu maes arbenigedd perthnasol penodol, wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector, gan sicrhau bod ein gwasanaethau wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion ein cleientiaid.
Rydym yn deall bod pob sefydliad yn unigryw, sef y rheswm pam mae ein gwasanaethau ymgynghorol wedi eu dylunio i fod yn hyblyg ac yn addasadwy, gan ddarparu datrysiadau wedi’u teilwra sy’n alinio’n union gyda’ch hamcanion chi. Tra nad ydynt yn gyfyngedig i’r meysydd gwaith penodol uchod, gall ein tîm o ymgynghorwyr ddarparu darnau o waith wedi’u teilwra, sy’n seiliedig ar eich hanghenion, yn cynnwys:
Rydym yn cydnabod bod pob sefydliad yn wahanol felly, yn dibynnu ar eich anghenion, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynlluniau ymarferol, strategol a gweithredu wedi’u teilwra i chi. Bydd y rhain yn alinio gyda’ch cenhadaeth, eich nodau sefydliadol a’r adnoddau sydd ar gael, yn cynnwys adnabod cyfleoedd ar gyfer twf, diffinio amcanion ac amlinellu camau gweithredadwy i’w cyflawni. Gall ein hymgynghorwyr gynghori’n adeiladol ar opsiynau i’w hystyried a darparu arweiniad trwy gyfnod o reoli newid.
Gall ein hymgynghorwyr helpu i oresgyn yr heriau llywodraethu rheoleiddiol. Gall ein gwasanaethau ymgynghori wedi’u teilwra ymgymryd ag adolygiad llywodraethu cynhwysfawr, gan archwilio effeithiolrwydd eich bwrdd, yn amrywio o sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Comisiwn Elusennau a chyfreithiau eraill perthnasol, i reoli risg a gwneud penderfyniadau. Gallwn gefnogi datblygiad polisïau effeithiol fydd yn sicrhau tryloywder, cysondeb a chydymffurfiaeth gyda gofynion cyfreithiol, gan gyfrannu tuag at enw da eich elusen yn y diwedd.
Gall ein hymgynghorwyr helpu i ddatblygu rhaglen hyfforddi gydymffurfiol ar gyfer unigolion o fewn eich sefydliad, tîm o staff sy’n gweithio o fewn gwasanaeth penodol neu rai o fewn carfan sy’n ceisio datblygu fel arweinyddion y dyfodol. Byddwn yn cynnal asesiad trylwyr i adnabod yr anghenion hyfforddi, yn dylunio rhaglenni wedi’u teilwra sydd yn cyrraedd y safonau rheoleiddiol, fydd yn gwella ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff.
Gall ein hymgynghorwyr helpu i ddatblygu strategaethau hunaniaeth, negeseuo a marchnata eich brand i gyfathrebu eich cenhadaeth yn effeithiol ac i ddenu cefnogaeth trwy ddylunio deunyddiau hyrwyddo a logos ac optimeiddio eich presenoldeb digidol.
Gall ein harbenigwyr datblygiad busnes helpu gyda datblygiad strategaeth i adnabod cyfleoedd cyllido ar gyfer eich elusen a darparu arweiniad a chefnogaeth ar gwblhau’r ceisiadau angenrheidiol a mwyafu’r cyfleoedd i godi incwm. Gall ein hymgynghorwyr eich helpu i adnabod ac i feithrin partneriaethau ystyrlon a buddiol, i wella eich hygrededd ac i alluogi gweithio a chydweithrediad arloesol ar fentrau ar y cyd.
Gall ein hymgynghorwyr gynnig cefnogaeth wedi ei theilwra yn dibynnu ar anghenion unigol eich elusen, yn amrywio o drosolwg ac argymhellion yn ymwneud â’ch system a’ch prosesau presennol, i gyllido, rheoli arian parod ac adrodd ar wybodaeth ariannol i ystod o randdeiliaid.
Gallwn weithio gyda chi i werthuso anghenion y system bresennol a darparu cyngor ac arweiniad ar ddatblygiad systemau cadarn, fydd yn eich galluogi i gasglu ac i ddadansoddi data, tra’n rheoli risgiau a chyfarfod gofynion rheoleiddiol. Gallwn ddylunio a chynnig hyfforddiant ar gyfer offer dangosfwrdd, yn cynnwys PowerBI.
Mae rheolaeth ystadau effeithiol yn hanfodol i elusennau bach i fwyafu adnoddau, i leihau costau, i amddiffyn asedau ac i sicrhau cydymffurfiaeth, ac felly sicrhau y gallent fwyafu eu heffaith a chyflawni eu cenhadaeth. Gall ein hymgynghorwyr eich cynghori a’ch cynorthwyo i werthuso eich asedau eiddo presennol i adnabod cryfderau, gwendidau, a chyfleoedd i wella, yn cynnwys strategaeth cydymffurfiaeth a rheoli risg i sicrhau bod yr elusen yn cyfarfod ei gofynion rheoleiddiol a safonau iechyd a diogelwch, ac felly’n lleihau y risg o faterion cyfreithiol.
Gall symud gwasanaethau newydd fod yn heriol. Gall ein hymgynghorwyr helpu i lywio’r heriau hyn, trwy ddarparu arbenigedd mewn rheoli newid, cynllunio logistaidd a chydymffurfiaeth rheoleiddiol. Trwy gynnig datrysiadau wedi’u teilwra, byddwn yn galluogi ymgysylltiad rhanddeiliaid ac yn darparu arweiniad trwy gydol y broses weithredu gyfan, gan sicrhau trosglwyddiad llyfn a lansiad llwyddiannus y gwasanaeth newydd.
Gall ein hymgynghorwyr ddarparu arbenigedd trwy sicrhau cydymffurfiaeth, i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â throsglwyddo staff. Byddant yn galluogi cyfathrebiad tryloyw rhwng yr holl bartïon sy’n gysylltiedig, gan helpu i liniaru pryderon a chynnal morâl trwy gydol y broses. Yn y diwedd, bydd eu cefnogaeth yn galluogi eich sefydliad i lywio ymgynghoriadau TUPE yn llyfn, gan feithrin perthnasoedd positif a hyrwyddo trosglwyddiad llwyddiannus ar gyfer yr holl randdeiliaid.
Gall ein hymgynghorwyr arbenigol sicrhau bod eich busnes yn cadw yn gyfredol gyda’r rheoliadau diweddaraf a theilwra datrysiadau penodol i gynorthwyo eich busnes i barhau i gydymffurfio. Rydym yn cynnig archwiliadau cyn-adolygiad a gallwn eich helpu i liniaru risgiau posibl a’ch hamddiffyn rhag cosbau posibl a difrod i’ch enw da.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd