Ein Mentrau Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru

Yn gweithredu ar sail nid-er-elw, mae unrhyw elw a gynhyrchwyd o fewn ein busnesau yn cael ei ail-fuddsoddi, i ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r rhai mewn angen o fewn ein cymunedau.

Porter’s Bae Colwyn

Gellir dod o hyd i gaffi Porter’s yng Nghanolfan Hamdden brysur Bae Colwyn, ym Mharc Eirias, yn gweini byrbrydau iach a thrîts hyfryd. Os ydych chi’n ymweld â’r Parc, neu’n mynychu sesiwn yn y gampfa, galwch i mewn am goffi!

Download our menu

Porter’s Cyffordd Llandudno

Mae ein caffi Porters Café, Llandudno, wedi ei leoli yng Ngorsaf Drenau Cyffordd Llandudno, rhwng platfform 1 a phlatfform 3. Mae’r siop yn berffaith i gasglu coffi a rhywbeth bach i fwyta ar eich ffordd, ac yn gwerthu amrywiaeth o gacennau, diodydd a byrbrydau. Dyma’r diweddaraf yn ein casgliad o gaffis, a agorodd ei ddrysau ym mis Mawrth 2024, yn dilyn llwyddiant siop Bae Colwyn a’r Troop Café.

Troop Café, Llandudno

Mae caffi Troop Café Llandudno yn gaffi cymunedol wedi ei leoli yn y parc bysiau yn Llandudno, sy’n darparu cefnogaeth ychwanegol i gyn-filwyr yn yr ardal. Mae’r Troop Café yn cynnal sesiynau grŵp rheolaidd ar gyfer cyn-filwyr, yn ogystal ag arddangos llu o eitemau atgofion a ffotograffau milwrol. Yn y caffi, gallwch hefyd weld y cerflun o’r Ffiwsilwr Shenkin, Masgot Catrawd 3ydd Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a symudodd i’r safle ym mis Mawrth 2024.

Llogi Ystafelloedd yn Station Court

Cefnogwch ein menter gymdeithasol arobryn a chegin hyfforddi trwy archebu lluniaeth ar gyfer eich digwyddiad!

Rydym yn cynnig ystod o becynnau arlwyo i siwtio unrhyw ddigwyddiad neu gyllideb. Byddwn hefyd yn cynnig dyfynbris ar gyfer bwffe wedi’u teilwra ar gais ac fe allwn ddarparu cacennau bach cartref gyda logo eich cwmni! Mae’r fenter gymdeithasol hefyd ar safle ein adeilad Station Court sy’n cynnig ystafelloedd i’w llogi os bydd galw amdanynt.

Mae gan Porter’s fan oergell, sy’n galluogi danfon bwffes i ble bynnag yr ydych chi.
Ar gyfer rhestr o’n prisiau, gwelwch ein llyfryn Station Court isod, os gwelwch yn dda.

Lawrlwythwch ein llyfryn

Station Court a St Giles – Y Pantri

Yn anelu i helpu pobl sy’n cael anhawster gyda’r cynnydd mewn costau byw neu sy’n byw gyda lefel llawer is o incwm gwario, mae Y Pantri yn archfarchnad gymdeithasol wahanol.

Wedi ei rhedeg mewn partneriaeth gydag ymddiriedolaeth y St Giles Trust, atgyfeirir cyfranogwyr i’r gwasanaeth ac maent wedyn yn ‘tanysgrifio’ am ffi isel iawn (£3.50 yr wythnos), sy’n galluogi un ymweliad wythnosol wedi’i drefnu i siopa am gynnyrch – megis cig, grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â derbyn cyngor ac arweiniad 1 i 1 arbenigol a chyfrinachol ar nifer o faterion a allai fod yn effeithio arnynt hwy neu eu teuluoedd.
 
Am fwy o wybodaeth am ein mentrau cymunedol yng Ngogledd Cymru, ffoniwch y tîm ar
01492 863000

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×