Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
Mae Adferiad yn gwahodd pobl ar draws Cymru i rannu eu profiadau trwy ein Arolwg Cyflwr y Genedl 2026.
Bydd yr arolwg yn ein helpu i ddeall y materion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw gyda salwch meddwl, heriau defnydd sylweddau ac anghenion eraill cymhleth yn well, yn ogystal â phrofiadau eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Pam mae eich llais chi’n bwysig
Rydym eisiau clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n ganolog i’n gwaith. Bydd eich profiadau yn ein helpu i adeiladu darlun cliriach o’r hyn sy’n digwydd ar draws Cymru ac i adnabod ble mae angen newid.
Mae’r arolwg yn gofyn am feysydd yn cynnwys:
· Iechyd meddwl a llesiant
· Alcohol a defnydd sylweddau eraill
· Mynediad i driniaeth a chefnogaeth
· Tai
· Cyflogaeth
· Budd-daliadau a phwysau ariannol
· Hawliau a chymryd rhan i wneud penderfyniadau
· Stigma a gwahaniaethu
Bydd yr hyn yr ydych yn ei ddweud wrthym yn hysbysu gwaith Adferiad i’r dyfodol, yn cynnwys y materion rydym yn eu codi gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r gwelliannau rydym yn ymgyrchu amdanynt.
Sut i gymryd rhan
Gallwch gwblhau’r Arolwg Cyflwr y Genedl ar-lein trwy ddefnyddio’r dolenni isod.
Efallai y cewch eich gwahodd i gwblhau’r arolwg drwy wasanaeth Adferiad. Bydd ein timau’n cefnogi pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys yn ystod gweithgareddau grŵp, sesiynau un i un, sesiynau galw i mewn a sesiynau arolwg penodol.
Os gwelwch yn dda siaradwch gydag aelod staff Adferiad os hoffech gael gwybodaeth i gwblhau’r arolwg neu os ydych ei angen mewn fformat gwahanol.
Bydd yr arolwg yn cau ar ddydd Gwener 11eg Medi.
Diolch i chi am rannu eich profiadau ac am ein helpu i wneud yn siŵr bod lleisiau pobl a draws Cymru yn cael eu clywed.
State of the Nation Survey - English.
State of the Nation Survey - Cymraeg