• Drugs & Alcohol
  • Mental Health & Wellbeing
  • Counselling
  • Family & Carers

Wythnos Ymwybyddiaeth Caethiwed: ‘Gadawodd caethiwed fi gydag ôl-argraff parhaus stigma.’

Wythnos Ymwybyddiaeth Caethiwed: ‘Gadawodd caethiwed fi gydag ôl-argraff parhaus stigma.’

Fe lansiwyd ymgyrch Dynol o Hyd Adferiad yn 2025, yn eirioli dros Gymru garedicach a mwy tosturiol.

Mae’r prosiect wedi ei anelu tuag at fynd i’r afael â stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed a wynebir gan unigolion a theuluoedd a effeithir gan ddefnydd sylweddau.

Wedi ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, bydd yr ymgyrch tair blynedd yn codi ymwybyddiaeth yn y canlyniadau niweidiol o stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed.

Mae’n anelu i annog pobl yng Nghymru i gwestiynu eu credoau o amgylch caethiwed ochr yn ochr â phobl sy’n ei brofi.

Mae Dynol o Hyd yn grymuso unigolion sydd â phrofiad byw, a elwir yn ‘Bencampwyr’, gan roi llwyfan iddynt i rannu eu storïau, i hyrwyddo sgyrsiau iechyd, ac i godi ymwybyddiaeth am stigma.

Mae’r ymgyrch yn darparu sesiynau addysg i gyflogai ac yn sefydliadol, yn cynnwys sgyrsiau gwrth-stigma wedi eu hanelu at godi ymwybyddiaeth a herio credoau sy’n bodoli eisoes o amgylch caethiwed ar draws Cymru.

Roedd Melanie Antoinette wedi troi at alcohol a chyffuriau hamdden unwaith pan yn 15 oed, a hynny ar adeg pan roedd yn cael trafferth dan bwysau anhwylder iselder mawr.

Nawr yn Bencampwr Dynol o Hyd, mae’n rhannu ei stori yn y gobaith o herio’r stigma a wynebir gan unigolion gyda chaethiwed.

Gadawyd Melanie gydag “ôl-argraff parhaol stigma” gyda’i ffrindiau, ei theulu, a’i chydweithwyr.

“Daeth sylweddau’n ffordd i mi ymdopi,” meddai Melanie.

Trwy gydol ei phlentyndod, roedd wedi cael trafferth cysylltu’n gymdeithasol yn yr ysgol ac fe drodd at ddefnyddio sylweddau am gysur.

Yn 50 oed, trwy apwyntiad arferol gyda’i meddyg teulu, derbyniodd ddiagnosis ffurfiol o Awtistiaeth Gweithredol Uchel.

“Roeddwn wedi fy synnu i ddechrau ond, wedi i mi ddysgu mwy, cefais atebion o’r diwedd i gymaint o gwestiynau oedd gen i ers amser maith.”

“Daeth sylweddau’n ffordd o ymdopi. Daeth alcohol a chyffuriau hamdden â rhyddhad dros dro o’r anhrefn mewnol na wyddwn sut i’w reoli,” meddai Melanie.

Er y frwydr barhaus yma, cwblhaodd Melanie ei chyfnod yn y Brifysgol a chyflawni gyrfa tymor hir mewn cefnogaeth TGCh a Telegyfathrebu.

Daeth yn wraig, yn fam, ac yn berchen ei chartref ei hun, ac fe ymddangosai’n llwyddiannus, ond roedd yn parhau i frwydro gyda’i chaethiwed.

“Y tu ôl i’r llenni, roeddwn yn gwneud popeth allwn i i ddal fy hun at ei gilydd, gan guddio’r caethiwed oedd wedi dod yn fecanwaith goroesi personol i mi,” meddai.

Wedi asesiad pellach, derbyniodd Melanie ddiagnosis o anhwylder hunaniaeth ddatgysylltiol, anhwylder pryder cymdeithasol a PTSD cymhleth yn dilyn trawma blynyddoedd cynnar.

Mae Dynol o Hyd yn anelu i herio credoau sy’n bodoli eisoes o amgylch unigolion sydd â chaethiwed, ac yn herio stigma.

“Pan roeddwn, o’r diwedd, wedi magu digon o hyder i siarad yn onest am fy mrwydrau, cefais fy meirniadu.

“Cefais fy meirniadu gan deulu, ffrindiau, a chydweithwyr, ac, ar adegau, cefais fy ngwrthod ganddynt.

“Roeddwn yn parhau i deimlo’r cywilydd, teimlwn fel methiant, a chymharu fy hun gydag eraill nad oedd yn dibynnu ar sylweddau i’w cael drwy’r diwrnod.

“Roeddwn yn credu nad oeddwn yn ddigon da nac yn ddigon cryf, ac roedd fy iselder a’n ngor-bryder yn mynd i fyny ac i lawr,” meddai Melanie.

Dengys Dynol o Hyd nad yw hi byth yn rhy hwyr i rhywun i wneud newid.

Heddiw, mae Melanie wedi ymatal o ddefnydd sylweddau ers 25 mlynedd, o alcohol ers 15 mlynedd ac o nicotin ers 13 mlynedd.

Tair carreg filltir sy’n cynrychioli siwrnai Melanie i adferiad, adennill ei hiechyd, ei hunan-werth, a’i hunaniaeth.

Nawr, mae Melanie yn rhannu ei stori fel rhan o’r ymgyrch Dynol o Hyd i herio’r camsyniadau a’r stigma ynghylch caethiwed.

“Mae stigma’n atal pobl rhag gofyn am gymorth ac yn tawelu pobl. Gall caethiwed a salwch meddwl effeithio ar unrhyw un, ac rwy’n rhannu fy mhrofiad i ddangos bod iachâd yn bosibl.”

See similar stories

Prosiect Cyfle Cymru Wedi ei Ymestyn Hyd Mis Mawrth 2027
  • Employment
  • Mental Health & Wellbeing
  • Drugs & Alcohol
  • Counselling
  • >
  • Children & Young People

Prosiect Cyfle Cymru Wedi ei Ymestyn Hyd Mis Mawrth 2027

Y National Gambling Support Network yn helpu dros 110,000 o bobl wrth i hunan-atgyfeiriadau gynyddu o 50% ers Ebrill 2023
  • Drugs & Alcohol
  • Gambling
  • Mental Health & Wellbeing
  • Money Advice
  • >
  • Family & Carers
  • Criminal Justice

Y National Gambling Support Network yn helpu dros 110,000 o bobl wrth i hunan-atgyfeiriadau gynyddu o 50% ers Ebrill 2023

Ystafell Lleihau Niwed Uwch Gyntaf y DU Wedi’i Chymeradwyo yn Glasgow
  • Drugs & Alcohol
  • Mental Health & Wellbeing
  • Housing & Homelessness
  • Criminal Justice
  • >
  • Money Advice

Ystafell Lleihau Niwed Uwch Gyntaf y DU Wedi’i Chymeradwyo yn Glasgow

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×