Mae tîm ymchwil Adferiad yn archwilio materion allweddol sy’n ymwneud â iechyd meddwl, defnydd sylweddau, ac anghenion cymhleth ar draws Cymru.
Mae Adferiad yn cymryd rhan mewn gwahanol fathau o ymchwil:
Rhannu eich barn a’ch profiadau drwy holiaduron ar-lein neu ar bapur.
Cymryd rhan mewn sgyrsiau sy’n archwilio pynciau mewn mwy o ddyfnder, yn unigol neu fel rhan o grŵp
Cymryd rhan mewn astudiaethau strwythuredig sy’n ein helpu i brofi syniadau ac i gasglu tystiolaeth
Gweithio ochr yn ochr gyda’n ymchwilwyr i helpu i ddylunio, i ddatblygu, ac i siapio’r gwaith ymchwil ei hun
Gwaith ymchwil arloesol i wella diagnosis a thriniaeth salwch meddwl difrifol. Yn agored i bobl 16-70 oed yng Nghymru sydd â phrofiad byw o anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, anhwylder sgitsoaffeithiol, neu seicosis.
Pwy all gymryd rhan?
Mae cyfranogwyr yn derbyn £120 ac mae’n rhaid iddynt fynychu diwrnod astudio yng Nghaerdydd.
Rhannwch eich profiadau o wirfoddoli, yn cynnwys cymhellion, rhwystrau, a’r hyn y gellid ei wella. Mae’r holiadur ar-lein yn cymryd tua 6 munud i’w gwblhau.
Pwy all gymryd rhan?
Yn agored i wirfoddolwyr 18+ oed sy’n byw yng Nghymru
Rhannwch eich barn am wirfoddoli, yn cynnwys y rhwystrau a’r hyn a allai ei wneud yn haws. Mae’r holiadur ar-lein yn cymryd tua 6 munud i’w gwblhau.
Pwy all gymryd rhan?
Yn agored i bobl 18+ oed yng Nghymru o gymunedau mwyafrif byd-eang sydd ddim yn gwirfoddoli ar hyn o bryd.
Rhannwch eich barn am y gefnogaeth iechyd meddwl a chaethiwed yng Nghymru, yn cynnwys yr hyn sydd yn gweithio a’r hyn sydd angen ei newid.
Pwy all gymryd rhan?
Yn agored i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.
Rhannwch eich barn ar leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â chaethiwed yng Nghymru. Mae’r holiadur ar-lein yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.
Pwy all gymryd rhan
Ar agor i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru.
Archwiliwch yr adroddiadau, y canfyddiadau, y gwerthusiadau, a’r cyhoeddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Adferiad.
Croesawn ymholiadau gan academyddion, myfyrwyr, ymarferwyr, sefydliadau, a gwneuthurwyr polisi sy’n rhannu diddordeb yn ein gwaith ymchwil.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd