Un o’n hamcanion yw i gynyddu lleisiau profiad byw, nid yn unig i ddylanwadu ar ond i siapio gwasanaethau a’r tirlun polisi ehangach yn uniongyrchol ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig.
Darllenwch storïau am adferiad o wahanol feysydd ein gwaith, sy’n dangos yr effaith mae ein gwasanaethu yn ei chael ar fywydau’r rhai rydym yn eu cefnogi. Mae’r holl storïau a gynhwysir yn adroddiadau go iawn o brofiad byw o ar draws ystod o’n gwasanaethau.
Gall caethiwed a phroblemau gyda defnydd sylweddau gael effeithiau negyddol iawn ar fywyd rhywun yn ogystal â bywydau’r bobl o’u cwmpas. Cliciwch isod i archwilio profiadau pobl a effeithir gan ddefnydd sylweddau a sut mae cefnogaeth Adferiad wedi eu helpu i leihau’r niwed ac i symud tuag at adferiad.
Gall salwch meddwl a iechyd meddwl gwael ddod mewn nifer o wahanol ffurfiau ac effeithio ar sut mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymdopi gyda bywyd bob dydd. Cliciwch isod i archwilio sut mae pobl sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl wedi ceisio am gefnogaeth gan Adferiad i’w helpu i wneud newidiadau positif yn eu bywydau.
Gall gamblo problemus gael effaith sylweddol ar lesiant, cyllid, perthnasoedd a bywyd bob dydd person, yn ogystal ag effeithio ar y rhai o'u cwmpas. Cliciwch isod i archwilio profiadau pobl yr effeithiwyd arnynt gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo a darganfod sut mae cefnogaeth Adferiad wedi eu helpu i adennill rheolaeth, lleihau effaith gamblo, a symud tuag at adferiad a dyfodol iachach.
Mae gofalwyr yn cefnogi pobl sy'n byw gyda heriau iechyd meddwl a gallant wynebu pwysau sylweddol eu hunain. Archwiliwch eu profiadau a sut mae Adferiad yn darparu cefnogaeth ar gyfer lles gofalwyr.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd