The Sentencing Act 2026 is Missing Something Very Important – Rehab
February 20, 2026
Yn aml, mae pobl sydd o fewn y system gyfiawnder troseddol yn wynebu heriau cymhleth, yn cynnwys anawsterau iechyd meddwl, materion defnydd sylweddau, trawma, ansicrwydd tai, ac allgau cymdeithasol. Gall y profiadau hyn gynyddu’r risg o droseddu, aildroseddu, ac atal cysylltiad gyda gwasanaethau cefnogol.
Mae yna angen gwirioneddol am gefnogaeth arbenigol, gydlynol ar gyfer y rhai hynny o fewn y system gyfiawnder troseddol, i’w helpu i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol ac i weithio tuag at newid positif. Heb y gefnogaeth yma, gall pobl gael eu dal mewn cylchdroadau sy’n anodd i’w torri.
Mae’r gefnogaeth yn berson-ganolog ac yn ffocysu ar anghenion yr unigolyn. Mae’n helpu pobl i ddeall ac i fynd i’r afael â materion sylfaenol, i gael mynediad i’r gwasanaethau cywir, ac i adeiladu sefydlogrwydd a gwytnwch i gefnogi newid positif ac i leihau’r risg o aildroseddu. Rydym yn ffocysu ar ddeall y person y tu ôl i’r ymddygiad a chefnogi pobl sy’n agored i niwed i lywio’r system. Cynigiwn ystod o wasanaethau sy’n cefnogi rhai sydd o fewn neu’n gadael y system gyfiawnder troseddol i lywio eu hamser yn y ddalfa, carchar, neu i ailintegreiddio i’r gymuned. Efallai y bydd gan y rhai rydym yn eu cefnogi faterion iechyd meddwl a chaethiwed, anghenion tai, neu cael eu cyfri fel bod yn agored i niwed yn gyfreithiol. Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau cyfiawnder troseddol yma.
Gwasanaeth Prawf (HMPPS Cymru) – goruchwyliaeth, adsefydlu, a chefnogaeth yn dilyn y llys neu garchar.
Forward Trust (Camau) - help gyda thai ac ailsefydlu.
Timau Troseddwyr Ifanc – cefnogaeth i rai dan 18 oed
Elusennau (e.e. FFOPS, Clinks, Pobl) - help gyda theuluoedd, adferiad, ac ailintegreiddio
GIG / Gwasanaethau iechyd meddwl a chyffuriau – cefnogaeth triniaeth a llesiant
Gwasanaeth prawf: swyddfa leol (yn amrywio yn ôl yr ardal)
Brys / Argyfwng: 999
Heddlu (ddim brys / argyfwng): 101
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd