European Touring Art Exhibition Comes to Wales – Adferiad Launch the Vibrant Mind Exhibition!
July 29, 2024
Yn aml, mae aelodau’r teulu a gofalwyr yn chwarae rôl hanfodol i gefnogi rhywun sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, caethiwed, ac amgylchiadau cymhleth eraill. Ar yr un pryd, gall gofalu am rhywun fod yn straen, yn flinedig, ac yn heriol yn emosiynol, ac fe all effeithio ar lesiant gofalwyr eu hunain.
Mae gofal teuluoedd a gofalwyr yn cynnig arweiniad, cyngor, a gofod diogel i siarad ar gyfer rhai sy’n gofalu am eraill. Gall helpu pobl i ddeall yr heriau mae eu hanwyliaid yn eu wynebu, datblygu strategaethau ymdopi, rheoli straen, a chael mynediad i adnoddau neu wasanaethau ymarferol. Mae hefyd yn annog gofalwyr i feddwl am eu llesiant ac i sicrhau eu bod yn cymryd amser i edrych ar ôl eu hunain.
Mae cefnogaeth i deuluoedd a gofalwyr yn cynnig arweiniad, cyngor, a gofod diogel i siarad i rai sy’n gofalu am eraill. Mae’n helpu pobl i ddeall yr heriau mae eu hanwyliaid yn eu hwynebu, i ddatblygu strategaethau ymdopi, i reoli straen, ac i gael mynediad i adnoddau neu wasanaethau ymarferol. Ein nod yw i helpu gofalwyr i deimlo’n wybodus, yn cael eu cefnogi, ac yn fwy abl i ofalu amdanynt eu hunain a’u hanwyliaid. Yn Adferiad, darparwn gefnogaeth dosturiol, wedi’i theilwra, i deuluoedd a gofalwyr. Cynigiwn gefnogaeth i ofalwyr di-dâl ar draws y mwyafrif o siroedd ar draws Cymru, gan roi cyfleoedd i ofalwyr i gymryd amser allan o’u cyfrifoldebau, i gyfarfod gofalwyr eraill, i gael mynediad i gefnogaeth ariannol a llesiant. Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i ofalwyr i gael mynediad i gefnogaeth cymheiriaid ac i gael llais yn sut darperir gwasanaethau.
Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau Teuluoedd a Gofalwyr yma.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd