Mae’n rhaid cynnig cymorth yn syth pan mae rhywun yn gofyn amdano ac fe ddylai gael ei arwain gan yr angen ac bod yn berson-ganolog. Mae mynediad cynnar yn achub bywydau, yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty, ac yn atal gwaethygiad. Mae’n rhaid i wasanaethau fod yn hunan-atgyfeiriol, ac yn hygyrch pan a ble mae eu hangen.
Dyma pam rydym yn galw am:
- Gefnogaeth â mynediad agored, yr un diwrnod, sydd wedi’i hunan-atgyfeirio pan a ble mae ei hangen, ym mhob rhan o Gymru.
- Weithredu uniongyrchol, syml i leihau amseroedd aros, oherwydd mae oediadau mewn gofal yn costio bywydau.
- Y defnydd o dechnoleg a rhwydweithiau cymunedol sydd eisoes yn bodoli i oresgyn problemau daearyddol ac i wella mynediad i ofal iechyd.
- Fuddsoddiad mewn ataliaeth a mabwysiadu ymagwedd o ataliaeth yn gyntaf ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Weithredu ar amrywiaeth a gwrth-hiliaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn mynediad.
- Gyfathrebu mewn iaith blaen, llai o dermau technegol, ac ymwybyddiaeth gynyddol yn y gwasanaeth.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y flaenoriaeth hon yn ein blog polisi.