Mae elusen salwch meddwl a defnydd sylweddau flaengar Cymru wedi nodi ei 50fed penblwydd mewn dau ddigwyddiad hanesyddol yn dathlu hanner canrif o gefnogi pobl ar draws Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ym mhle oedd yn flaenorol yn ganolfan i Gyn-filwyr, a adnabyddir nawr fel Parkland Place Llandudno, ble mae Adferiad wedi datblygu cyfleuster dadwenwyno 40 gwely arloesol ar gyfer pobl a effeithir gan niweidiau’n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol. Mae gan yr adeilad hanes hir o ddarparu gofal a chefnogaeth yn y gymuned leol, a bydd Adferiad yn parhau’r etifeddiaeth honno fel rhan o’i gwasanaethau estynedig yng Ngogledd Cymru.
Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ddydd Gwener diwethaf yng ngwesty Norton House yn y Mwmbwls gydag ymddiriedolwyr, aelodau, staff a chyn-staff, yn ogystal â chefnogwyr lleol a chynrychiolwyr etholedig yn mynychu’r ddau ddigwyddiad.
Croesawyd y gwesteion gydag areithiau agoriadol gan Brif Weithredwr Adferiad, Dr Alun Thomas, geiriau gan ei Chadeirydd a’i Is-gadeirydd, Rev Sue Northcott a Clive Wolfendale yn y drefn honno, a neges arbennig gan y Llywydd Oes, Elin Jones. Cafwyd cyfraniadau i’r ddau ddigwyddiad gan siaradwyr rhagorol oedd wedi cael eu cefnogi gan Adferiad ac wedi helpu i wneud newidiadau positif yn eu bywydau, gyda tri o’r pedwar siaradwr bellach yn gyflogai Adferiad. Daeth y digwyddiadau i ben gyda sioe sleidiau emosiynol o ffotograffau gan yr elusennau sefydlu.
Mae’r garreg filltir yn nodi hanes 50 mlynedd y sefydliad ac yn cadarnhau ei huchelgais barhaus fel elusen flaengar Cymru ar gyfer salwch meddwl a defnydd sylweddau.
Pennod newydd i Adferiad
Ffurfiwyd Adferiad trwy uniad nifer o elusennau rhagflaenol ac mae nawr yn gweithio ar draws Cymru i ddarparu ystod o wasanaethau sydd yn helpu i newid bywydau a effeithir gan salwch meddwl, caethiwed, ac anghenion cymhleth eraill.
Mae gwaith y sefydliad wedi ei sylfaenu ar y gred nad yw bywyd, ac adferiad, yn llinol ac, felly, nad ydynt hwy - ac yn darparu cefnogaeth sy’n ffocysu ar y person ac nid ar eu hamgylchiadau, gan roi’r unigolyn yn gyntaf.
Mae Adferiad yn lais cenedlaethol wedi ei wreiddio mewn cymunedau lleol, wedi ei arwain gan brofiad byw ei aelodau ac yn brwydro dros hawliau’r bobl sy’n llywio rhai o heriau anoddaf bywyd.
Yn ychwanegol i ddathliadau’r 50, cymerodd Adferiad hefyd y cyfle i lansio eu hail-frandio a’r wefan newydd, gan nodi dechrau pennod newydd yn ei hanes wrth edrych ymlaen tuag at yr hanner can mlynedd nesaf. Mae’r brandio newydd wedi ei siapio gan leisiau ei staff, aelodau, gwirfoddolwyr a’r bobl mae’n eu cefnogi, gan greu hunaniaeth weledol sy’n fwy mentrus, yn fwy hyderus ac yn haws i’w adnabod.
Dywedodd Prif Weithredwr Adferiad, Dr Alun Thomas:
“Wrth i ni nodi 50 mlynedd o gefnogi pobl ar draws Cymru, mae ein ail-frandio a lansiad Parkland Place Llandudno yn cynrychioli moment arwyddocaol i Adferiad.
“Mae’r ddau beth yn arddangos ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i’r gefnogaeth gywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.
“Gwyddom nad yw bywyd bob amser yn syml; ein rôl ni yw i sefyll ochr yn ochr gyda phobl a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael heb gefnogaeth pan maent ei hangen.”