Mae Cymru di-gyffuriau yn bosibl
July 18, 2023
"Ro'n i'n meddwl mai fi oedd y unig berson yn y byd gyda'r broblem hon"
Roedd Laura Jones yn gwybod bod pethau wedi cyrraedd y pwynt argyfwng pan ddeffrodd hi un bore yn chwilio yn enbyd am alcohol.
Roedd blynyddoedd o drawma heb ei ddatrys, straen a dibyniaeth ar alcohol yn raddol wedi cael eu heffaith, ac wedi digwyddiad a adawodd hi’n teimlo’n ofnus ac yn agored i niwed, fe sylweddolodd y fenyw 43 mlwydd oed o Fangor na allai bellach barhau i fyw yn y ffordd yr oedd hi’n byw.
"Hwnnw oedd fy nhrobwynt," meddai Laura.
"Dyna beth wnaeth fi yn benderfynol i stopio yfed.”
Yn fuan wedyn, sicrhaodd Laura le yn Hafan Wen, sef ble roedd gwasanaeth dadwenwyno preswyl Adferiad wedi ei leoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar y pryd, ac fe ddechreuodd siwrnai fyddai’n trawsnewid ei bywyd.
Heddiw, mae Laura yn agosáu at flwyddyn o sobrwydd, yn gwirfoddoli gydag Adferiad, ac yn defnyddio ei phrofiad byw i helpu eraill i ddechrau eu siwrnai adferiad eu hunain.
Ond, mae cyrraedd y pwynt hwn wedi bod yn broses hir.
Tyfodd Laura i fyny mewn cartref teuluol cariadus gyda’i mam a thri brawd.
Yn 18 oed, aeth i mewn i berthynas fyddai’n siapio’r rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn.
Am chwe mlynedd, profodd gamdriniaeth corfforol ac emosiynol gan ei chyn-bartner fyddai’n gadael effaith parhaol arni.
Credai Laura bod alcohol wedi dod yn ffordd iddi hi i ddianc o’r realiti yr oedd hi’n ei fyw.
"Pan roeddwn gyda’n nghyn-bartner, roeddwn yn yfed i anghofio am bopeth oherwydd roedd yn hunllef byw gyda fo,” meddai
"Dyna sut roeddwn i’n ymdopi."
Cyn hynny, roedd Laura wedi gweithio fel cogydd, cyfnod mae hi’n ei adnabod fel un o ddatblygu arferiad o yfed ar ôl y gwaith.
Datblygodd rhywbeth oedd wedi dechrau fel ychydig o ddiodydd yn dilyn shifft, yn raddol, yn arfer dyddiol.
Yn y diwedd, gadawodd Laura’r berthynas a dechrau ailadeiladu ei bywyd. Daeth o hyd i swydd newydd, gwnaeth ffrindiau newydd a, ddeng mlynedd yn ôl, cyfarfu â’i phartner presennol.
"Mae fy mhartner wedi bod yn gefnogaeth enfawr i mi.”
Er iddi ddod o hyd i hapusrwydd mewn perthynas iach a chefnogol, roedd Laura’n dal i gario effeithiau ei phrofiadau blaenorol.
"Dydw i ddim yn meddwl nad oeddwn i erioed wedi dod o hyd i gymorth go iawn i ddelio gyda’n nhrawma a’n ngorffennol.”
Er iddi gael mynediad i gwnsela, roedd yn cael trafferth agor i fyny yn llawn ynghylch yr hyn yr oedd hi wedi bod drwyddo.
"Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi mynegi fy hun yn iawn nac wedi dweud sut roeddwn yn teimlo go iawn. I mi, ni weithiodd y cwnsela.
Dros y blynyddoedd, roedd alcohol yn parhau i fod yn bresennol.
Pan aeth hi’n ôl i’w gyrfa mewn lletygarwch, roedd yn gweithio fel yr unig gogydd mewn cegin brysur ac, yn aml, fe’i gadawodd hi’n teimlo wedi ei llethu ac fe waethygodd ei pherthynas gydag alcohol.
Yn 2024, daeth yr effaith ar ei hiechyd yn amlwg.
Wedi iddi ddatblygu mannau poenus a choslyd ar draws ei chroen, cafod Laura ddiagnosis o ‘plaque psoriasis’ cronig difrifol.
"Doeddwn i ddim yn gwybod os mai straen, yfed, neu gyfuniad o’r ddau oedd o.”
Ni allai weithio oherwydd y cyflwr ac fe dreuliodd flwyddyn yn ddi-waith, yn ceisio cael ei hiechyd yn ôl.
Heb amserlen a strwythur gwaith, gwaethygodd ei hyfed yn raddol.
"Roeddwn yn gallu cael diod bob nos. Yna fe ddaeth yn yfed yn ystod y dydd.”
Roedd ei phartner wedi codi pryderon ynghylch ei hagwedd tuag at alcohol.
"Rwy’n ei gofio’n dweud, 'Dwi’n meddwl dy fod yn yfed gormod ac efallai bod yna broblem fwy.’”
Ar y pryd, nid oedd Laura’n barod i’w glywed.
Er iddi drio dadwenwyno yn y cartref a chyfnodau o ymataliaeth roedd yn cael trafferth cydnabod graddfa ei dibyniaeth ar alcohol.
"Meddyliais ar ôl mis fy mod wedi fy iachau, ond doedd fy meddwl ddim yn y lle iawn i ddeall pa mor ddifrifol oedd fy mhroblem.”
Ei throbwynt
Erbyn 2025, roedd yfed Laura wedi cyrraedd y pwynt argyfwng.
"Nid oedd fy mhartner eisiau bod adref gyda mi oherwydd, i bob pwrpas, roeddwn yn lladd fy hun.”
Mae’n disgrifio ei hun fel bod yn ‘alcoholig anobeithiol’ ac yn ddibynnol ar alcohol.
Yna daeth y digwyddiad oedd i newid popeth.
Deffrodd Laura’n gynnar un bore yn chwilio’n enbyd am alcohol.
Wedi iddi basio alla, daeth o hyd i’w hun mewn sefyllfa a adawodd hi’n ofnus ac yn agored i niwed.
"Hwnnw oedd fy nhrobwynt,” meddai.
"Dyna beth wnaeth fi yn benderfynol i stopio yfed.”
Yn fuan wedyn, dywedodd ei gweithiwr allweddol wrthi bod lle wedi ei sicrhau ar ei chyfer yn Hafan Wen.
Er ei bod yn ofnus, teimlai Laura ryddhad hefyd.
"Ers blynyddoedd, roeddwn yn meddwl nad oedd neb yn deall beth roeddwn i’n mynd drwyddo.”
"Roeddwn yn meddwl mai fi oedd yr unig berson yn y byd oedd â’r broblem yma.”
Pan ddaeth y diwrnod, roedd Laura mewn arswyd mawr.
"Roeddwn i’n ei ‘bricio’ hi go iawn.”
Wedi iddi gyrraedd Hafan Wen, derbyniodd asesiadau a dechrau dadwenwyniad gyda chefnogaeth feddygol.
Roedd yr ychydig ddiwrnodau cyntaf yn heriol.
"Roeddwn i eisiau mynd adref.”
Ond digwyddodd rhywbeth annisgwyl.
Wrth iddi ddechrau siarad gyda phreswylwyr eraill, fe sylweddolodd Laura nad oedd hi ar ei phen ei hun.
Roedd pobl o wahanol gefndiroedd yn wynebu heriau tebyg gydag alcohol a sylweddau eraill.
"Ar ôl siarad gyda phobl eraill oedd wedi mynd drwy bethau tebyg, fe sylweddolais nad oedd yna unrhyw beth i’w ofni.”
"Mae’n ofal 24 awr, ble rydych chi’n cael eich cefnogi gyda phob agwedd.”
Am y tro cyntaf mewn blynyddoedd, teimlai Laura ei bod yn cael ei deall.
Pan adawodd Laura Hafan Wen ym mis Gorffennaf 2025, dim ond dechrau oedd ei siwrnai adferiad.
Y diwrnod nesaf, dechreuodd y Rhaglen Adferiad Strwythuredig gan Adferiad.
Rhoddodd y rhaglen rhywbeth iddi oedd wedi bod ar goll ers amser hir – siâp i’w bywyd a rhwydwaith o gefnogaeth.
"Rhoddodd y tri diwrnod yr wythnos yna drefn arferol i mi."
"Y diwrnodau pan nad ydych eisiau troi i fyny ydi’r diwrnodau mae angen i chi fynd.”
Trwy’r rhaglen, dysgodd Laura ddulliau ymarferol i helpu i reoli meddyliau, emosiynau a sefyllfaoedd anodd heb droi at alcohol.
Bu iddi ailddarganfod rhannau ohoni hi ei hun oedd wedi eu colli yn ystod y blynyddoedd o gaethiwed.
"Trwy adferiad, ailddarganfyddais hobïau o’m mhlentyndod fel celf a chrefft."
"Roedd yn rhywbeth nad oeddwn i wedi meddwl amdano ers yn blentyn.”
Fe helpodd y gefnogaeth a dderbyniodd drwy’r Rhaglen Adferiad Strwythuredig iddi i ddatblygu strategaethau ymdopi ac i ddechrau edrych i’r dyfodol.
"Mae’r prosiect wedi rhoi’r holl wersi i mi rwyf eu hangen i’w cario ymlaen."
"Heb y Rhaglen Adferiad Strwythuredig a Hafan Wen pwy a ŵyr ble fuaswn i rŵan.”
Heddiw, mae Laura yn parhau i gryfhau ei hadferiad trwy raglenni gyda North Wales Recovery a SMART Recovery.
Mae hi hefyd wedi dechrau gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru ac yn gobeithio dod yn Fentor Cymheiriaid yn y dyfodol.
"Rydw i eisiau helpu pobl eraill sydd wedi mynd drwy sefyllfaoedd tebyg.”
"Rydw i eisiau dweud wrth bobl bod adferiad yn bosibl.”
Wrth iddi agosáu at flwyddyn yn sobr, ni fyddai Laura erioed wedi dychmygu y byddai, un diwrnod, yn helpu eraill yn eu hadferiad eu hunain.”
"Doeddwn i erioed wedi meddwl y buaswn i’n agosáu at flwyddyn yn sobr.”
"I gael y cyfle i helpu i hwyluso grwpiau adferiad ac i gefnogi pobl eraill, gallaf weld dyfodol yn hynny.”
Tra mae’n parhau i gymryd ei hadferiad un dydd ar y tro, mae’n falch o pa mor bell mae hi wedi dod.
"Fe hoffwn feddwl na fuaswn i byth yn yfed eto, ond mae’n rhaid i chi ei gymryd o ddydd i ddydd, o awr i awr."
"Rwy’n brawf y gallwch ei wneud"
Mae Laura’n gobeithio y bydd rhannu ei stori yn annog eraill i edrych am gefnogaeth.
Mae ei chyngor yn syml.
“Mae’n rhaid i chi gyfaddef bod gennych chi broblem.”
"Cymerodd bron i bum mlynedd i mi i gyfaddef fy mod yn alcoholig."
"Yna, mae’n rhaid i chi dderbyn y cymorth a gynigir i chi.”
I unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi cael eu dal gan gaethiwed, mae Laura eisiau iddyn nhw wybod bod newid yn bosibl.
"Pan oeddwn i’n iau, roeddwn ym meddwl mai rhywun alcoholig oedd rhywun oedd yn eistedd ar fainc yn y parc yn yfed allan o fag papur brown.”
"Ond gall caethiwed effeithio ar unrhyw un."
"Os ydych chi eisiau ei wneud, fe allwch ei wneud."
"Rwy’n brawf y gallwch ei wneud.”
"Gallwch gael bywyd hapus a sobr."
Real people, Real stories
Ed, a service user from the Dyfed area, has made incredible progress since starting the programme. Our Cyfle Cymru programme helps people affected by substance misuse and/or mental health conditions to develop confidence and provides support.
Your browser is out-of-date!
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad ymweld ac i wneud y gorau o berfformiad. I dderbyn y cwcis hyn cliciwch ar opsiwn isod. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein Polisi Preifatrwydd