• News

System Sy’n Ymateb Heb Oedi

System Sy’n Ymateb Heb Oedi

Mae gormod o bobl yn parhau i ddisgwyl yn rhy hir am gefnogaeth ar draws Cymru.

I rhywun sydd yn byw gyda salwch meddwl ac/neu gaethiwed, sy’n profi straen llethol, neu sy’n ceisio cael mynediad i gymorth ar gyfer plentyn neu aelod o’r teulu, gall oediadau gael canlyniadau difrifol. Ond, er gwaethaf ymrwymiadau polisi dro ar ôl tro o gwmpas ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, mae llawer o bobl yn dal i wynebu rhestrau aros hir, llwybrau atgyferio cymhleth, a systemau darniog cyn derbyn cefnogaeth.

Dylai pobl allu cael mynediad cefnogaeth ar yr un diwrnod pan a ble mae ei angen, heb yr angen am atgyfeiriad gan feddyg teulu.

Mae gan Gymru sylfaen bolisi gryf eisoes ar gyfer cefnogaeth ataliol a pherson-ganolog. Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod ataliaeth a llesiant tymor hir yn ganolog i bolisi cyhoeddus. Yn yr un modd, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn hyrwyddo ymyrraeth gynharach, llais a rheolaeth, a chefnogaeth mwy integredig. 

Ar yr un pryd, mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2025-2035 Llywodraeth flaenorol Cymru yn pwysleisio ar ataliaeth, gofal cymunedol, a mynediad teg i gefnogaeth.

Er hynny, i lawer o bobl, mae’r realiti ar lawr gwlad yn parhau i fethu cyrraedd yr uchelgeisiau hyn. Mae’n aml yn anodd i gael mynediad i gefnogaeth nes bod yr anghenion wedi cynyddu i bwynt argyfwng. Gall unigolion gael eu hailgyfeirio rhwng gwasanaethau, eu heithrio oherwydd nad ydynt yn yn cyrraedd meini prawf penodol, neu’n cael eu gadael nes bod eu hiechyd meddwl yn dirywio ymhellach. Mae’r adweitheddol hwn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, gofal cymdeithasol, a’r gwasanaethau brys o ganlyniad i’r diffyg ymyrraeth yn gynharach. Felly, ni all system sy’n ffocysu ar ataliaeth fodoli heb fynediad amserol.

Fel rhan o’n hymgyrch “Tuag at Ddyfodol Tecach” rydym yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud hyn yn flaenoriaeth.

Ni ddylai pobl orfod llywio systemau cymhleth na phrosesau atgyfeirio hirfaith i dderbyn help. Rydym yn ymgyrchu dros:

  • Mynediad agored a llwybrau hunan-gyfeirio pan mae eu hangen
  • Cefnogaeth gymunedol, yr un diwrnod ble’n bosibl
  • Gweithredu uniongyrchol i leihau amseroedd aros ar draws gwasanaethau
  • Llwybrau syml, cyd-gysylltiedig sy’n lleihau dyblygiad a dryswch

Dylai’r egwyddor o “dim drws anghywir” fod yn sylfaen i ddyluniad y gwasanaeth ar draws y wlad, gan sicrhau bod pobl yn cael eu cysylltu i’r gefnogaeth briodol ym mhle bynnag maent yn gofyn am gymorth yn gyntaf.

Yn ychwanegol, ni ddylai cefnogaeth ddibynnu ar eich cod post. Gall cymunedau gwledig wynebu rhwystrau pellach, megis capasiti’r gweithlu, anawsterau teithio, a darpariaeth gyfyngedig yn lleol. Felly, mae angen gwneud gwell defnydd o dechnoleg, allgymorth, ac isadeiledd cymunedol presennol i wella mynediad ar draws pob cymuned. Gallai hyn edrych yn fwy fel gwasanaethau allgymorth a symudol, gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol a chysylltiadau hyd yn oed yn gryfach rhwng gwasanaethau statudol a’r trydydd sector. Dylid defnyddio technoleg i wella mynediad yn hytrach nac amnewid cysylltiad dynol trwy sesiynau ar-lein.

Hefyd, mae angen i’r Llywodraeth newydd symud y tu hwnt i ymateb i argyfwng ac i fuddsoddi’n fwy cyson mewn ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn alinio’n uniongyrchol gyda’r uchelgeisiau tymor hir sydd wedi  eu gosod allan o fewn Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r blaenoriaethau iechyd cyhoeddus ehangach ar draws Cymru. Trwy ymyrryd yn gynharach a gwella mynediad i gefnogaeth cyn i’r anghenion gynyddu, gall gwasanaethau wella deilliannau tymor hir, lleihau’r galw ar ddarpariaeth arbenigol ac argyfwng, a helpu i greu systemau mwy cynaliadwy dros amser.

Ar yr un pryd, dylai gwella mynediad hefyd olygu mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n parhau i siapio profiad unigolion o gefnogaeth. Nid yw mynediad yn hafal ar draws y wlad, gyda llawer o bobl yn wynebau heriau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hil, anabledd, oed, crefydd, diwylliant, rhyw a stigma cysylltiedig. Dyma pam y dylai gweithredu cryfach ar amrywiaeth, gwrth-hiliaeth, gwasanaethau sy’n gymwys yn ddiwylliannol, a chyfathrebu hygyrch ffurfio rhan o unrhyw newid ystyrlon. Dylai gwasanaethau ddefnyddio iaith blaen, lleihau jargon diangen, a gwella ymwybyddiaeth yn y gefnogaeth sydd ar gael fel bod pobl yn deall ble i droi a sut i gael mynediad i gymorth.

Mae Cymru eisoes wedi ymrwymo i ataliaeth, i ymyrraeth gynnar, ac o ofal sy’n berson-ganolog. Yr her wirioneddol rŵan yw i droi’r addewidion hynny’n gefnogaeth ymarferol, hygyrch y gall pobl ddibynnu arni pan maent ei hangen fwyaf.

See similar stories

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
  • News

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute
  • News
  • Training

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×