• News

Adeiladu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru

Adeiladu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru

Ni all systemau iechyd a gofal cymdeithasol ddarparu deilliannau tymor hir trwy drefniadau cyllido tymor byr. 

Ar draws y sector, mae gofyn cynyddol ar wasanaethau i ymateb i alw cynyddol, twf mewn cymhlethdod, pwysau ar y gweithlu, ac anghydraddoldebau iechyd sy’n gwaethygu, tra’n gweithredu o fewn modelau cyllido sy’n aml yn rai tymor byr, sydd yn cael eu gyrru gan dargedau, ac yn ansicr yn ariannol. Mae’r ymagwedd yma’n rhoi pwysau ar sefydliadau ac ar staff, yn ogystal â thanseilio deilliannau ar gyfer pobl sy’n dibynnu ar gefnogaeth.

Fel rhan o’n hymgyrch, “Tuag at Ddyfodol Tecach”, sydd yn galw ar i Lywodraeth newydd Cymru i flaenoriaethu anghenion pobl a chymunedau ar draws Cymru, mae Adferiad yn gofyn am ymrwymiad i ymagwedd tymor hir a chynaliadwy ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector.

Yn aml, mae cyllid wedi ei glymu i gylchrediadau darparu tymor byr, i dargedau cul, neu i ddyraniadau blynyddol sy’n gwneud cynllunio ar gyfer y tymor hir bron iawn yn amhosibl. Disgwylir i sefydliadau arddangos deilliannau yn syth mewn gwasanaethau ble nad yw adferiad, llesiant, a sefydlogrwydd yn bethau sydd yn digwydd dros nos. Yn anaml mae adferiad yn llinol. Mae’n cymryd amser, cysondeb, ymddiriedaeth, a pherthnasoedd – a’r un ohonynt yn ffitio’n daclus i mewn i fframweithiau perfformiad tymor byr.

Gall ymagweddau sy’n cael eu gyrru gan dargedau, yn anfwriadol, greu systemau sy’n ffocysu ar ganlyniadau yn hytrach na phobl. Maent yn annog rheoli argyfwng dros ataliaeth ac ymyraethau byr dros gefnogaeth tymor hir. Ar yr un pryd, mae ansicrwydd ariannol yn ei gwneud yn anoddach i gadw gafael ar staff medrus, i fuddsoddi yn natblygiad y gweithlu, neu i adeiladu gwasanaethau sefydlog o fewn cymunedau.

Mae’r gweithlu ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn parhau i gario pwysau enfawr. Mae heriau recriwtio a chadw staff yn effeithio ar wasanaethau ar draws Cymru, tra mae nifer o staff rheng flaen yn parhau i gael eu tan-dalu er gwaethaf cymhlethdod a gwerth eu gwaith. Os yw’r weinyddiaeth newydd o ddifri am gryfhau cefnogaeth ac ataliaeth cymunedol, dylid bod buddsoddiad pellach mewn cyflogau cyfartal ar draws sectorau, datblygiad y gweithlu, cefnogaeth llesiant, a chapasiti  staffio ar draws pob rhan o’r system.

Mae hyn hefyd yn galw am wahanol berthynas gyda’r trydydd sector. Yn aml, mae sefydliadau trydydd sector wedi eu gwreiddio yn ddwfn o fewn cymunedau, mae’r bobl maent yn eu cefnogi yn ymddiried ynddynt, ac maent yn gallu ymateb yn hyblyg i anghenion cymhleth ac anghenion newydd. Er hynny, er eu bod yn chwarae rôl ganolog mewn ataliaeth, adferiad, ac ymyrraeth gynnar, mae’r sector yn cael ei drin yn aml fel atodiad yn hytrach na phartner cyfartal wrth wneud penderfyniadau.

Rydym eisiau gweld buddsoddiad uniongyrchol, cynaliadwy mewn iechyd, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector sy’n adlewyrchu pa mor rhyng-gysylltiedig yw’r systemau hyn yn ymarferol. Ni ddylai penderfyniadau ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol ddigwydd heb gyfranogiad ac ystyriaeth y trydydd sector.

Ochr yn ochr â hyn, dylai Cymru symud tuag at fodelau cyllido sy’n cydnabod effaith tymor hir yn hytrach na thargedau tymor byr yn unig. Ni ddylid mesur cefnogaeth yn ôl pa mor gyflym mae rhywun yn symud drwy wasanaeth yn unig, ond yn ôl a yw’r gefnogaeth yn helpu i wella sefydlogrwydd, llesiant, cysylltiad, ac adferiad dros amser.

Yn olaf, rydym yn galw am fwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni gwrth-stigma sy’n herio canfyddiadau niweidiol o gwmpas iechyd meddwl a defnydd sylweddau. Mae stigma’n parhau i gyfyngu cefnogaeth, cyflogaeth, tai, ac adferiad yn gyffredinol. Mae newid cynaliadwy angen buddsoddiad mewn gwasanaethau, yn ogystal â mewn dealltwriaeth gyhoeddus ac ymagweddau cymdeithasol.

Mae gan Lywodraeth newydd Cymru y gallu i symud y tu hwnt i ddulliau adweitheddol, tymor byr ac adeiladu system sydd wedi’i gwreiddio mewn ataliaeth, partneriaeth, sefydlogrwydd ac adferiad tymor hir. 

Ni all unigolion ailadeiladu eu bywydau trwy wasanaethau y mae gofyn arnynt i oroesi yn barhaus.

See similar stories

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
  • News

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute
  • News
  • Training

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×