• Blog
  • Policy

Mae gofalwyr yn haeddu system sy’n cydnabod realiti gofalu

Mae gofalwyr yn haeddu system sy’n cydnabod realiti gofalu

Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad enfawr i deuluoedd, cymunedau, a chymdeithas, tra’n aml yn ceisio cydbwyso cyflogaeth, addysg a’u hanghenion ariannol a llesiant eu hunain. Ond, i lawer o ofalwyr, gall y rheolau o gwmpas Lwfans Gofalwr wneud y cyfrifoldebau hyn hyd yn oed yn anoddach i’w rheoli.

Yn ddiweddar, fe lansiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig alwad am dystiolaeth ar sut y gellid moderneiddio’r Lwfans Gofalwr, yn cynnwys sut mae rheolau ar enillion yn gweithredu ac os byddai tapro enillion yn cynnig mwy o hyblygrwydd ar gyfer gofalwyr sy’n gweithio ochr yn ochr gyda’u cyfrifoldebau gofalu.

Ymatebodd Adferiad i’r ymgynghoriad, wedi ei hysbysu gan adborth gan bobl oedd â phrofiad byw. Tra roedd barnau unigol yn amrywio ar sut y dylai diwygiad edrych, roedd yna neges gyson a chryf drwyddo draw; bod y system bresennol yn rhy gymhleth, yn rhy gyfyngedig yn ariannol ac nad yw’n adlewyrchu realiti gofalu yn ddigonol.

System ddylai gefnogi gofalwyr i weithio

Un o’r themâu amlycaf oedd y pryder ynghylch yr uchafswm enillion presennol. Dywedodd gofalwyr wrthym y gall y rheolau presennol gymell pobl rhag cymryd gwaith ychwanegol, yn enwedig pan mae eu hincwm yn amrywio.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl sy’n gweithio ar gontractau sesiynol, asiantaeth, neu oriau hyblyg, ble gall faint o waith sydd ar gael amrywio’n sylweddol o wythnos i wythnos. Er enghraifft, efallai bod gofalwr sy’n gweithio mewn rôl achlysurol neu asiantaeth yn cael cynnig niferoedd gwahanol o shifftiau bob mis, gan ei wneud yn anodd i ragweld eu henillion ac i aros o fewn yr uchafswm presennol.

I ofalwyr di-dâl, ni ddylai cymryd shifftiau ychwanegol olygu eu bod yn poeni y gallai cynnydd dros dro mewn enillion arwain i’w cefnogaeth yn cael ei lleihau neu ei fod yn creu gordaliad.

Mae’n rhaid cael mwy o hyblygrwydd o gwmpas enillion, yn cynnwys tapro fyddai’n dechrau uwchben yr uchafswm presennol o £204 o enillion yn wythnosol. Dylid ystyried cynyddu hyn i tua £400, neu hyd yn oed gael gwared o’r cyfyngiad enillion wythnosol yn gyfan gwbl.

Ble byddai tapro yn cael ei gyflwyno, rydym yn glir y dylid gostwng y gefnogaeth yn raddol yn hytrach na chreu argyfwng ariannol arall.

Gwneud y system yn haws ac yn fwy rhagweladwy

Mae’r rhyngweithiad rhwng y Lwfans Gofalwr a’r Credyd Cynhwysol hefyd yn bryder sylweddol.

Mae un peth syml y mae llawer o ofalwyr eisiau ei wybod: “Os fydd fy amgylchiadau’n newid, beth fydd fy nghyfanswm incwm?”

Gall deall sut mae enillion, Lwfans Gofalwr a’r Credyd Cynhwysol yn rhyngweithio fod yn anodd. Dylai’r system fod yn symlach, gyda gwybodaeth yn cael ei rhannu’n awtomatig rhwng budd-daliadau ble’n bosibl. Gallai cysylltu gwybodaeth enillion gyda’r HMRC leihau dyblygiad, gwaith papur a’r risg o gamgymeriadau.

Dylid cyfathrebu unrhyw newidiadau mewn ffordd sy’n gweithio i ofalwyr gan ddefnyddio iaith blaen, esiamplau clir, gwybodaeth weledol a chyfrifiannell ar-lein a allai ddangos sut y byddai lefelau enillion gwahanol yn effeithio ar hawliau.

Er enghraifft, fe ddylai gofalwyr allu mewnbynnu eu henillion disgwyliedig a gweld yn glir: “os ydych chi’n ennill £X, bydd eich Lwfans Gofalwr yn £Y”.

Dylai pwysigrwydd rhyngweithio a chefnogaeth ddynol fod yn ganolog i hyn, yn cynnwys drwy sefydliadau a gwasanaethau cynghori trydydd sector, fel bod gofalwyr na all neu nad ydynt eisiau dibynnu ar wybodaeth ddigidol yn unig yn dal i allu deall eu hawliau.

Ni ddylai gofalwyr orfod dewis rhwng gofalu ac addysg

Ffocws arall i’w ddiwygio yw’r rheol 21 awr ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn y Lwfans Gofalwr.

Gall y trothwy presennol atal gofalwyr rhag dilyn addysg bellach, hyfforddiant a chymwysterau. Nid yw cyfrifoldebau rhywun yn lleihau o angenrheidrwydd oherwydd bod rhywun yn astudio am fwy na 21 awr yr wythnos.

Mae gofalwyr yn dweud wrthym bod angen mwy o hyblygrwydd, a bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hadnabod yn gynharach gan brifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant. Gallai mynediad i ddysgu hyblyg, cyngor ariannol, cefnogaeth llesiant a gofal seibiant neu ofal amnewid i gyd ei gwneud yn haws i ofalwyr i barhau gyda’u haddysg.

Gall cefnogi gofalwyr i ddatblygu sgiliau a chymwysterau hefyd helpu eu cyfleoedd cyflogaeth a’u sicrwydd ariannol i’r dyfodol.

Cydnabod gwerth gofal di-dâl

Efallai mai’r neges gryfaf yr ydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ei chlywed yw nad yw’r Lwfans Gofalwr yn adlewyrchiad digonol o gyfraniad gofalwyr di-dâl.

Gall gofalu fod yn gyfrifoldeb 24 awr. Gall gynnwys pwysau ariannol sylweddol, ynysiad, ac mae’n effeithio ar lesiant, tra hefyd yn arbed costau sylweddol i’r system iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylai’r gefnogaeth ariannol, felly, adlewyrchu’r realiti yma, a chynnwys buddion ymarferol ychwanegol megis seibiant neu fynediad gwarantedig i wasanaethau llesiant.

Mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd nad yw gofalu yn dod i ben o angenrheidrwydd pan mae rhywun yn cyrraedd oed Pensiwn y Wlad, ac y gallai gofalwyr fod angen cefnogaeth am gyfnod wedi i’w rôl ofalu ddod i ben i’w galluogi i addasu ac i ystyried eu camau nesaf.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r adborth a gasglwyd drwy ein gwaith yn ymateb i alwad y Llywodraeth am dystiolaeth wedi helpu Adferiad i adnabod y materion allweddol sy’n effeithio ar ofalwyr di-dâl ac i ddatblygu dealltwriaeth sy’n dod â phrofiad byw a phryderon ehangach am bolisi at ei gilydd.

Mae ein neges ni i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir: dylai diwygiad wneud y Lwfans Gofalwr yn symlach, yn decach, yn fwy hyblyg, ac yn fwy ymatebol i realiti gofalu modern. Dylai gofalwyr allu gweithio neu astudio, ble maent yn gallu gwneud hynny, heb gael eu cosbi’n ariannol, tra’n parhau i dderbyn cydnabyddiaeth ystyrlon am y gofal di-dâl sylweddol maent yn ei ddarparu.

Byddai system decach nid yn unig yn cefnogi gofalwyr eu hunain. Byddai’n helpu teuluoedd, cymunedau a’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach trwy alluogi gofalwyr i barhau i fod yn weithredol yn economaidd a pharhau i ddarparu gofal cynaliadwy.

Darllenwch ymateb llawn Adferiad i’r alwad am dystiolaeth ar y Lwfans Gofalwr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yma.

See similar stories

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×