Wrth i Gymru ddechrau tymor Senedd newydd, mae yna gwestiwn pwysig i’r rhai sy’n gyfrifol am archwilio iechyd a gofal cymdeithasol: sut yn union ddylai llwyddiant edrych?
Gofynnodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru beth ddylai eu blaenoriaethu yn ystod y Seithfed Senedd. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i ddylanwadu nid yn unig ar pa faterion sy’n cael sylw gwleidyddol, ond sut mae cynnydd yn cael ei ddeall a’i fesur dros y blynyddoedd i ddod. Mae rôl y Pwyllgor yn cynnwys archwilio polisi, gwariant, a gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn Adferiad, credwn y dylai’r man cychwyn fod yn syml; yn y pen draw, mae’n rhaid barnu diwygiad iechyd a gofal cymdeithasol yn ôl y gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau pobl.
Mae yna gymaint i’w groesawu am y cyfeiriad mae pethau’n symud. Mae ataliaeth, cefnogaeth gymunedol, integreiddiad, a chynaliadwyedd y gweithlu i gyd yn flaenoriaethau pwysig. Ond ni fydd yr uchelgeisiau hyn yn golygu llawer os bydd pobl yn parhau i brofi gwasanaethau sy’n fratiog, yn anodd i’w llywio, nad ydynt ar gael nes eu bod yn cyrraedd pwynt argyfwng.
Mae hyn yn arbennig o wir i bobl gydag anghenion cymhleth neu anghenion sy’n cyd-ddigwydd. Gallai rhywun sy’n profi salwch meddwl hefyd fod yn delio gyda defnydd sylweddau, ansicrwydd ynghylch llety, anawsterau ariannol neu gyfrifoldebau gofalu. Nid yw’r materion hyn yn bodoli mewn bocsys ar wahân oherwydd bod gwasanaethau a strwythurau cyllido felly. Ond gall unigolion orfod symud rhwng gwahanol systemau, yn ailadrodd eu hamgylchiadau a chlywed y delir â’u hanghenion yn rhywle arall.
Felly, mae angen i integreiddio olygu mwy na sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd mewn egwyddor. Mae angen iddo olygu bod pobl yn profi system fwy cyd-gysylltiedig yn ymarferol.
Mae hyn yn berthnasol i ataliaeth yn yr un modd. Mae Cymru, yn briodol, wedi gosod mwy o bwyslais ar symud oddi-wrth fodel sy’n dibynnu’n ormodol ar ymyrraeth ysbyty ac argyfwng. Ond ni all ataliaeth olygu lleihau y galw ar wasanaethau acíwt yn unig. Mae’n rhaid iddo olygu gwneud cefnogaeth briodol ar gael yn ddigon cynnar i atal pobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng yn y lle cyntaf.
I bobl sy’n profi materion iechyd meddwl neu ddefnydd sylweddau, mae hygyrchedd yn hynod bwysig. Mae angen i wasanaethau fod yn ddealladwy, yn ymatebol ac yn gymesur ag amgylchiadau pobl. Ble’n briodol, dylai pobl allu ceisio am gefnogaeth heb orfod llywio prosesau atgyfeirio cymhleth neu ddangos eu bod eisoes wedi cyrraedd lefel angen benodol.
Mae yna angen hefyd i edrych yn agosach ar y berthynas rhwng iechyd meddwl a defnydd sylweddau. Ni ddylai unigolion sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd orfod llywio systemau ar wahân oedd wedi eu dylunio o gwmpas ffiniau sefydliadol yn hytrach na realiti eu bywydau. Dylid trin iechyd meddwl a defnydd sylweddau fel blaenoriaethau iechyd cyhoeddus, gyda gwasanaethau wedi eu dylunio i ymateb i’r person cyfan.
Mae’r gweithlu’n faes arall ble mae angen i uchelgais a realiti gyfarfod. Mae gwasanaethau cynaliadwy yn dibynnu ar gael digon o bobl medrus a phrofiadol i’w darparu. Gall pwysau recriwtio a chadw staff, amodau cyflog a gwaith, a threfniadau cyllido tymor byr oll danseilio gallu sefydliadau i ddarparu cefnogaeth gyson. Ni ellir trin cynaliadwyedd y gweithlu, felly, fel bod ar wahân i ddiwygiad y gwasanaeth.
Mae gan y Pwyllgor hefyd rôl hanfodol i ofyn os yw pobl yn cael eu clywed go iawn.
Ni ddylid ymgynghori ag unigolion sydd â phrofiad byw wrth ddatblygu polisïau yn unig a’u bod wedyn yn diflannu o’r broses. Dylai eu profiadau helpu i siapio gwasanaethau a dylai ffurfio rhan o sut mesurir eu llwyddiant. I ofalwyr di-dâl yn arbennig, mae cyfranogiad ystyrlon wrth gynllunio gofal a thriniaeth a chydnabyddiaeth o’u hanghenion cefnogaeth yn hanfodol.
Mae hyn yn codi mater ehangach ynghylch sut rydym yn mesur cynnydd. Mae amseroedd aros, lefelau gweithredu a niferoedd gwasanaeth yn bwysig, ond nid ydynt yn dweud y stori gyfan. Gall gwasanaeth gyfarfod targed tra mae person yn parhau i deimlo nad ydynt wedi cael eu clywed, yn methu cael mynediad i’r gefnogaeth gywir neu wedi cael eu pasio rhwng gwahanol rannau o’r system.
Mae angen i ni ofyn cwestiynau gwahanol: A gafodd y person y gefnogaeth gywir? A wnaethon nhw ei gael yn ddigon cynnar? A wnaeth y gwasanaethau gydweithio? A oeddent yn deall beth oedd yn digwydd? A oedd ganddynt lais yn eu gofal? A wellodd eu hamgylchiadau?
Mae’r rhain yn gwestiynau anoddach i’w hateb, ond yn y pen draw maent yn llawer agosach i’r hyn mae pobl yn ei brofi go iawn.
Mae’r Seithfed Senedd yn cynnig cyfle i edrych y tu hwnt i dargedau unigol ac i ystyried os yw’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn dod yn haws i gael mynediad iddi, yn fwy ataliol, yn fwy integredig ac yn fwy ymatebol i anghenion pobl. Mae gan y Pwyllgor rôl allweddol i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am droi ei uchelgeisiau yn welliannau cyson ar draws Cymru.
Felly, ein neges i’r Pwyllgor yw i wneud mwy na gofyn os yw’r polisïau cywir yn eu lle. Yn bwysicach, mae’n rhai iddo barhau i ofyn os yw’r polisïau hynny yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r bobl y bwriedir iddynt eu cefnogi.
Golygai hyn archwilio integreiddiad, ataliaeth, hygyrchedd, cynaliadwy’r gweithlu, cyllido tymor hir ac anghydraddoldebau iechyd. Golygai ddeall profiadau pobl sydd ag anghenion cymhleth, gofalwyr di-dâl a’r rhai sy’n ymateb ar wasanaethau cymunedol a trydydd sector. Ac mae’n golygu mesur llwyddiant nid yn unig drwy ddata perfformiad a gweithgarwch, ond drwy ddeilliannau a phrofiad byw.
Yn sylfaenol, mae polisi iechyd a gofal cymdeithasol yn bodoli ar gyfer pobl. Dylai’r craffu sy’n siapio’r pedair blynedd nesaf gadw’r egwyddor hwnnw yn ganolog iddo.
Darllenwch ymateb llawn Adferiad i ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yma.