Mae gormod o bobl ar draws Cymru yn parhau i wynebu rhwystrau i gael mynediad i gefnogaeth iechyd meddwl pan maent ei angen fwyaf. Gall amseroedd aros hir, llwybrau atgyfeirio cymhleth a gwasanaethau bratiog adael pobl yn cael trafferth dod o hyd i help nes bod eu hanghenion yn gwaethygu hyd bwynt argyfwng.
Roedd yr heriau hyn yn ganolog i’r digwyddiad a drefnwyd gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru, ar 14 Hydref 2026 yn Nghanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, gan ddod â phobl gyda phrofiad byw, cynrychiolwyr gwleidyddol, sefydliadau trydydd sector a chydweithwyr iechyd at ei gilydd i drafod pwysigrwydd mynediad agored i gefnogaeth iechyd meddwl a sut y gellir ei ddarparu ar draws y wlad.
I Adferiad, rhoddodd y digwyddiad gyfle i amlygu pam mae’n rhaid i gefnogaeth amserol, hygyrch, sy’n canolbwyntio ar y person, fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth Cymru newydd.
Mae gwasanaethau mynediad agored yn galluogi pobl i geisio am gefnogaeth iechyd meddwl yn uniongyrchol heb, o angenrheidrwydd, orfod bod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu neu lywio prosesau asesu hirfaith cyn derbyn help. Golygai gefnogaeth yr un diwrnod y gall pobl gael mynediad i gymorth pan maent ei angen, yn hytrach na disgwyl i’w hamgylchiadau waethygu.
Er bod gan Gymru sylfaen bolisi gadarn ar gyfer ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, mae bwlch yn parhau rhwng yr uchelgeisiau hyn a phrofiadau pobl. Gall cael eu hailgyfeirio ar draws gwasanaethau, cael eu heithrio gan feini prawf cymhwysedd neu eu gadael yn disgwyl arwain i ganlyniadau difrifol.
Mae mynediad agored yn ymwneud â mwy na dim ond lleihau amseroedd aros. Golygai greu system sy’n ymateb i bobl fel unigolion ac yn eu cysylltu gyda’r gefnogaeth briodol heb oedi, ac heb unrhyw rwystrau diangen.
Fel aelod o Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru, roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r seminar yma, gan archwilio sut mae’r Trydydd Sector eisoes yn darparu gwasanaethau arloesol ac ymatebol sy’n ymateb i anghenion person, sut bynnag a ble bynnag y maent yn codi. Agorodd y digwyddiad gyda chroeso gan Nia Sinclair o Mind Cymru, a’n hatgoffodd o bwysigrwydd cydweithio a chydweithrediad wrth ddarparu ar gyfer y rhai hynny sydd angen cefnogaeth. Cyflwynodd Ewan Hilton, prif swyddog gweithredu Platfform, Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru ac amlinellu’r cefndir i gefnogaeth iechyd meddwl mynediad agored, gan osod y cyd-destun ar gyfer trafodaethau’r dydd.
Rhan allweddol o’r rhaglen oedd cyfraniad gan Ahmed Assisi, gyda chefnogaeth gan Tony Hendrickson o Diverse Cymru Adferiad, gan ddod â phrofiad byw i mewn i’r drafodaeth. Gosododd Tony allan y gwaith a wneir i greu system iechyd meddwl gwrth-hiliaeth yng Nghymru, tra roedd Ahmed yn ddigon caredig i rannu ei stori o gyrraedd Caerdydd o Gaza, ei ryngweithio gyda gwasanaethau a phwysigrwydd cynnig cefnogaeth pryd bynnag mae ei hangen. Mae clywed yn uniongyrchol gan bobl sydd wedi profi gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol i ddeall y rhwystrau maent yn dod ar eu traws ac i sicrhau bob polisïau’r dyfodol yn adlewyrchu yr hyn mae pobl ei angen go iawn.
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys prif araith gan Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, a rannodd ei gweledigaeth am ymagwedd ‘dim drws anghywir’ i gefnogaeth ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau mynediad agored yr un diwrnod. Pwysleisiodd hefyd yr angen am weithredu effeithiol ar draws holl adrannau’r llywodraeth, gan gydnabod natur gymhleth salwch meddwl a sut mae bywyd, neu adferiad, yn anaml yn hawdd.
Dilynwyd hyn gyda chyflwyniad ar “Gwneud i Fynediad Agored Weithio: Rôl y Trydydd Sector wrth Ddarparu Cefnogaeth Iechyd Meddwl”, ble bu cynrychiolwyr o sefydliadau aelod Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru – Adferiad, Platfform, Mental Health Matters, BEAT, a Mind Cymru – yn rhannu safbwyntiau ar rôl y trydydd sector wrth ddarparu cefnogaeth. Rhoddodd Pennaeth Ymyrraeth ac Ymgysylltiad mewn Argyfwng Adferiad, Chloe Farnham, drosolwg o’n Gwasanaethau Noddfa a sut rydym wedi esblygu eu darpariaeth o atgyfeiriad proffesiynol yn unig i fynediad agored, mewn ymateb i adborth gan y rhai rydym yn eu cefnogi. Tynnodd sylw at bwysigrwydd peidio cael gwared o rhywbeth am nad yw’n gweithio’n y cychwyn ac wedyn dechrau o’r dechrau - yn hytrach, anogodd bobl i edrych eto, i wrando ar leisiau profiad byw, ac i wneud y newidiadau angenrheidiol i gyfarfod eu hanghenion.
Daethpwyd â’r rhaglen i ben gyda thrafodaeth panel a chwestiynau gan fynychwyr, dan gadeiryddiaeth Donna Chaves, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu Adferiad, gan greu gofod i archwilio’r materion a godwyd a sut y gall sefydliadau weithio gyda’i gilydd i wella mynediad.
Amlygodd y digwyddiad arwyddocâd dod â phrofiad byw, polisi ac arbenigedd rheng flaen at ei gilydd wrth ystyried dyfodol cefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru.
Yr her nawr yw i droi’r ymrwymiadau i ataliaeth ac i ymyrraeth gynnar i mewn i wasanaethau y gall pobl gael mynediad iddynt yn ymarferol. Golygai hyn leihau rhwystrau diangen, cryfhau’r cydweithrediad rhwng darparwyr statudol a darparwyr trydydd sector, ac i sicrhau bod gan wasanaethau yr adnoddau i ymateb pan mae pobl angen cefnogaeth.
Ni ddylai unigolion orfod cyrraedd eu pwynt argyfwng cyn iddynt allu cael mynediad i gymorth. Bydd Adferiad yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yng Nghynghrair Iechyd Meddwl Cymru, llunwyr polisi a sefydliadau ar draws y sectorau i wneud yr achos dros gefnogaeth iechyd meddwl hygyrch, cyd-gysylltiedig a chynaliadwy ar draws Cymru.