Yn aml, mae cysylltiad agosach rhwng arian a iechyd meddwl na’r ydym yn ei sylweddoli. Gall anawsterau ariannol gael effaith sylweddol ar lesiant meddyliol rhywun, ac fe all profi iechyd meddyliol gwael ei wneud yn anoddach i reoli arian, i ddelio gyda biliau, neu i wybod i ble i droi am help.
Mae gwasanaeth Cyngor ar Iechyd Meddwl ac Arian Adferiad, a ddatblygwyd gan Mental Health UK, yn darparu cymorth i bobl sy'n wynebu heriau yn ymwneud â'u hiechyd meddwl a'u harian.
I Alison, Rheolwr Gwasanaeth Arbenigol ar gyfer y Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yng Nghymru (Mental Health and Money Advice Service in Wales), gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad i’r gefnogaeth gywir yw’r peth pwysicaf iddi hi.
Mae Alison yn cefnogi tîm o gynghorwyr sy’n darparu cyngor arbenigol dros y ffôn i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl ac ariannol. Mae hi hefyd yn gweithio i adeiladu perthnasoedd gyda sefydliadau partner a gweithwyr cefnogol, gan helpu i greu llwybrau fel bod pobl yn gallu cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Ond, i lawer o unigolion, nid yw cael mynediad i gyngor ariannol bob amser yn hawdd.
Efallai y byddai rhywun yn teimlo wedi eu llethu, â chywilydd neu’n bryderus am eu sefyllfa ariannol. Efallai eu bod yn poeni am gael eu beirniadu neu eu bod yn teimlo bod eu hamgylchiadau’n rhy gymhleth i’w datrys. Gall iechyd meddwl hefyd effeithio ar gymhelliant, canolbwyntio, a hyder, gan wneud pethau fel agor llythyrau, ateb galwadau ffôn neu ofyn am help yn llawer mwy heriol.
Dyma pam y gall cael mynediad i wasanaeth sy’n deall y berthynas rhwng iechyd meddwl ac arian fod mor bwysig.
Unwaith y derbynnir atgyferiaid drwy borth atgyfeirio’r gwasanaeth, bydd un o’r cynghorwyr yn cysylltu gyda’r unigolyn i drefnu apwyntiad dros y ffôn. O’r pwynt yna ymlaen, mae’r cynghorwr yn parhau i fod yn bwynt cyswllt pwrpasol trwy gydol eu siwrnai iddynt, gan ddarparu cefnogaeth barhaus bob cam o’r ffordd.
Yn hytrach na disgwyl i rhywun ddelio gyda phopeth ar unwaith, mae’r cynghorwyr yn cymryd yr amser i wrando ac i ddeall eu hamgylchiadau personol. Gallent helpu i adnabod blaenoriaethau, i egluro’r opsiynau sydd ar gael ac i dorri pethau i lawr i gamau sy’n haws i’w trin, gan weithio gyda phob person ar gyflymder y maent yn gyfforddus ag ef.
Ac nid yw cael mynediad i gyngor ariannol yn golygu, o angenrheidrwydd, bod rhywun yn cael problemau gyda dyled ddifrifol.
Fel mae Alison yn egluro, call cyngor ariannol gynnwys cynyddu incwm, adnabod grantiau a chefnogaeth ariannol, cyllido a helpu pobl i ddeall eu harian yn well. Gall y gwasanaeth helpu pobl i ddeall pa gefnogaeth y gallent fod â hawl i’w derbyn ac i greu cynllun sy’n iawn ar gyfer eu hamgylchiadau unigol.
Un o’r camsyniadau mwyaf yr hoffai Alison ei herio yw’r syniad bod yn rhaid i bobl ddisgwyl nes bod eu sefyllfa ariannol yn ddifrifol cyn iddynt ofyn am help. Gall estyn allan yn fuan helpu pobl i ddeall eu hopsiynau ac, o bosib, atal problemau rhag dod yn anoddach i’w rheoli.
Yn bwysicaf un, mae Alison am i bobl wybod bod y gwasanaeth yn gyfrinachol, yn gefnogol, ac yn hollol anfeirniadol.
Mae ei neges yn syml: “Does dim rhaid i chi frwydro ar eich pen eich hun.”
Nid yw mynediad i gefnogaeth yn golygu y cewch yr atebion i gyd. Weithiau, golygai eich bod yn cymryd y cam cyntaf ac yn galluogi i rhywun eich helpu i weithio allan beth sy’n dod nesaf.