• News

Prif Weithredwr Alun Thomas yn derbyn PhD am ymchwil i mewn i gyfraith iechyd meddwl yng Nghymru.

Prif Weithredwr Alun Thomas yn derbyn PhD am ymchwil i mewn i gyfraith iechyd meddwl yng Nghymru.
Prif Weithredwr Alun Thomas yn derbyn PhD am ymchwil i mewn i gyfraith iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae Prif Weithredwr Adferiad Alun Thomas wedi derbyn PhD gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau doethuriaeth ochr yn ochr gyda’i rôl llawn-amser yn arwain y sefydliad.

Mae ei draethawd ymchwil PhD yn archwilio sut y gall Cymru adeiladu ar ei huchelgais i fod yn genedl sy’n cadarnhau hawliau. Mae llawer o’r ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd wedi ffocysu ar hawliau dynol a chreu Cymru gynhyrchiol, gyda phobl Cymru’n ganolog i hynny.

Roedd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn ddeddfwriaeth arloesol, yn gosod safonau ar gyfer gofal yng Nghymru na welwyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig, a pharhau’r traddodiad o gyfraith deg, sy’n ffocysu ar anghenion sy’n dyddio’n ôl i’r 9fed a’r 10fed ganrif gyda chyfreithiau y Brenin Hywel Dda.

Ers hynny, mae’r Mesur a gyflwynwyd yn 2010, wedi dylanwadu ar newidiadau i ddeddfwriaeth iechyd meddwl mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r diwygiadau diweddaraf i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 nawr yn cynnwys gwell mynediad i eiriolaeth a’r hawl i gynllun gofal a thriniaeth, tua 15 mlynedd wedi i Gymru gyflwyno’r amddiffyniadau hyn i ddechrau.

Mae gan Cymru lawer i fod yn falch ohono yn natblygiad cyfraith iechyd meddwl, ond mae Alun yn credu bod mwy i’w wneud.

Mae ei waith ymchwil yn nodi cyfle i fynd â chyfraith Cymru gam ymhellach trwy gryfhau Adran 3 y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Mae’r traethawd ymchwil yn cynnig rheoliad newydd i addasu y ffordd mae’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol yn darparu gofal ar gyfer pobl gyda salwch meddwl difrifol. Tra mae yna ddyletswydd ar hyn o bryd i ailasesu pobl sydd wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn ddiweddar, ychydig o dystiolaeth sydd yna i ddangos bod hyn yn digwydd yn gyson.

O ganlyniad, mae yna risg y gallai pobl sydd â hawl i ailasesiad gyrraedd pwynt argyfwng a bod angen eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl cyn cael eu gweld. Dadleuai Alun y byddai gwella mynediad i ailasesiad amserol yn decach i unigolion a’u teuluoedd tra hefyd yn lleihau pwysau diangen ar wasanaethau’r GIG.

Mae Alun wedi rhannu ei gynnig gyda Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl a Iechyd Merched, ac wedi drafftio’r rheoliad arfaethedig. Mae’n edrych ymlaen i glywed ei meddyliau.

Bydd Alun yn parhau gyda’i ymchwil ac, yn ddiweddar, fe gyflwynodd yng nghynhadledd yr UK Clinical Ethics Network Conference ym Mhrifysgol Caerdydd ar Artificial Intelligence in Mental Health Care – Promise, Risk, and the Challenge of Trust. Mae’n awyddus i sicrhau bod Adferiad yn parhau i adeiladu ar ei waith ymchwil ac ymgysylltu gyda phrifysgolion a phartneriaid ar draws Cymru.

Yn siarad am y PhD, dywedodd Alun:

“Fe hoffwn ddiolch i Ymddiriedolwyr Adferiad a’n nghydweithwyr am eu cefnogaeth trwy gydol fy ngwaith ymchwil, ac rwy’n cydnabod na fyddai gennyf y lefel o ddealltwriaeth sydd gennyf i gwblhau y gwaith hwn oni bai am barodrwydd buddiolwyr Adferiad i rannu eu storïau a’u profiadau gyda mi. Mae buddiolwyr Adferiad, bron heb eithriad, yn gofyn am help a chymorth pan maent eu hangen ond, yn anffodus, mae

sefyllfaoedd yn parhau ble nad yw’r gefnogaeth yma ar gael neu na ddarperir y gefnogaeth nes eu bod wedi cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae’n rhaid i Gymru barhau i fod y genedl fwyaf blaengar ar gyfer deddfwriaeth a pholisi iechyd meddwl, ac i gefnogi hynny gyda’r adnoddau sydd eu hangen i atal cadw, i ymyrryd yn gynharach, ac i ddarparu ymagwedd person cyfan i anghenion iechyd meddwl.

Mae dysgu a datblygiad parhaus yn ran allweddol o’n hymagwedd yn Adferiad, ac rwy’n falch i fod wedi derbyn fy PhD, wedi bod yn rhan o ddatblygiad y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o’r cychwyn. Rwy’n siŵr bod fy nheulu’n falch iawn fy mod wedi cwblhau fy astudiaethau hefyd, oherwydd y bydd yn golygu llawer llai o bentyrrau o bapurau a llyfrau nodiadau yn gorchuddio desgiau a byrddau!"

 

See similar stories

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026
  • News

Dweud eich dweud yn Arolwg Cyflwr y Genedl Adferiad 2026

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute
  • News
  • Training

Adferiad yn dod yn Bartner Cymeradwy o’r Chartered Management Institute

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×